Cyhoeddwyd: 1 Mai 2025
Mae chwe cham polisi allweddol, a allai helpu i wella iechyd a lles a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd i bobl Cymru, wedi'u hamlygu mewn adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol John Moores Lerpwl.
Dadansoddodd yr adroddiad ar y cyd, a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac a arweiniwyd gan Gyfadran Iechyd a Sefydliad Iechyd y Cyhoedd y brifysgol, gamau polisi o saith gwlad sydd wedi gweithio i leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella disgwyliad oes.
Nododd awduron yr adroddiadau ddysgu a thynnu sylw at sut y gellid addasu'r camau gweithredu hyn yng Nghymru.
Nododd yr adroddiad, drwy “ddysgu o enghreifftiau rhyngwladol ac addasu polisïau llwyddiannus, y gall Cymru weithio tuag at gamau effeithiol i leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella iechyd a lles y boblogaeth yn gyffredinol”.
Tynnodd sylw hefyd at bwysigrwydd “ewyllys wleidyddol lefel uchel, cydweithio cryf rhwng adrannau, ac ymrwymiad i gamau polisi cynaliadwy hirdymor”.
Y chwe maes allweddol y canfuwyd yn yr adroddiad y gallent helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru oedd:
Dywedodd Sumina Azam, Cyfarwyddwr Cenedlaethol dros Bolisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae’r astudiaeth gynhwysfawr ar y cyd hon, sydd wedi dadansoddi polisïau enghreifftiol sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn fyd-eang, yn tanlinellu ein hymrwymiad i greu cymdeithas iachach a thecach i bobl Cymru.
“Mae’r camau polisi a amlygwyd yn yr adroddiad hwn yn rhoi meysydd inni lle mae angen inni weithio ar y cyd i sicrhau Cymru iachach i bawb.
“Rhaid inni hefyd gydweithio i leihau’r rhwystrau sy’n atal pobl yng Nghymru rhag cael mynediad at y gwasanaethau a’r blociau adeiladu iechyd sydd eu hangen arnynt i sicrhau iechyd da.”
Dywedodd Lisa Jones, prif ymchwilydd yr adroddiad a Darllenydd mewn Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl:
“Mae canfyddiadau allweddol yr adroddiad hwn yn tynnu sylw at botensial trawsnewidiol addasu arferion gorau rhyngwladol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a bod dulliau polisi cynhwysfawr ac amlochrog yn hanfodol.
“Gan ddysgu o bolisïau llwyddiannus mewn gwledydd incwm uchel eraill, fe wnaethom nodi bod angen strategaethau wedi’u targedu i ddiogelu mynediad teg at ofal iechyd, ehangu’r wladwriaeth les, a mynd i’r afael ag ymddygiadau sy’n gysylltiedig ag iechyd trwy gamau gweithredu cydlynol ar draws adrannau.
“Bydd yr ymdrechion hyn nid yn unig yn gwella canlyniadau iechyd ond hefyd yn cyfrannu at gymdeithas fwy cyfartal a chyfiawn.”
Mae'r adroddiad llawn ar gael yma:
Nodi opsiynau polisi i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd: dadansoddi polisi a chyfleoedd dysgu i Gymru (Saesneg yn unig)