Neidio i'r prif gynnwy

Mae addysg a gofal plentyndod cynnar yn rhoi budd triphlyg i gymdeithas

Cyhoeddwyd: 11 Ionawr 2023

Mae ymgorffori addysg a gofal plentyndod cynnar (ECEC) mewn polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd yn cynnwys y potensial ar gyfer “budd triphlyg” o ddatblygiad cadarnhaol plant, grymuso menywod a thwf economaidd, fel y disgrifir mewn adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r adroddiad, sy'n edrych ar brofiadau, polisïau, rhaglenni, a data o wledydd gwahanol, yn nodi y bydd gwneud y mwyaf o'r ffenestr hon o gyfle, pan fydd ymennydd plentyn yn datblygu ar raddfa gyflym, nid yn unig o fudd i iechyd hirdymor y plentyn unigol ond gall sicrhau manteision i'r gymdeithas ehangach hefyd.

Gan mai gofal di-dâl yw'r prif ffactor sy'n atal menywod rhag ymuno â'r gweithlu, mae cynyddu mynediad at ECEC yn un dull o wella cyflogaeth menywod ac iddynt deimlo'n fwy grymus.

Yn ei dro, mae'r adroddiad yn nodi bod gofal plant fforddiadwy o ansawdd yn cyfrannu at dwf economaidd, gydag amcangyfrifon yn dangos mwy o Gynnyrch Domestig Gros (GDP) gyda mwy o fenywod yn y gweithlu ac enillion o saith y cant ar fuddsoddiad i gymdeithas drwy fanteision gwell datblygiad plentyndod cynnar.

Meddi Dr Mariana Dyakova, arweinydd Iechyd Rhyngwladol a Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae addysg a gofal plentyndod cynnar yn manteisio ar gyfnod o ddatblygiad cyfoethog o ran yr ymennydd a all wedyn osod y sylfaen ar gyfer iechyd a maeth da, llwyddiant addysgol, dysgu cymdeithasol-emosiynol, a chynhyrchiant economaidd drwy gydol bywyd person. Mae'n darparu seilwaith cymdeithasol mawr i gefnogi cynhwysiant, tegwch a symudedd cymdeithasol.

“Fodd bynnag, mae'n bwysig ystyried ECEC fel rhan o ddull “dwy genhedlaeth” sy'n canolbwyntio ar y teulu, gan gysylltu â pholisïau fel absenoldeb rhiant a chymorth bwydo ar y fron, er mwyn gwireddu ei botensial yn llawn.

“Mae Cymru, ochr yn ochr â chenhedloedd blaenllaw eraill, yn mabwysiadu dull integredig gan gysylltu addysg, datblygiad plentyndod, ac iechyd gan ganolbwyntio ar estyn allan a lleihau annhegwch.”

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn cyllido tair rhaglen ECEC, ac mae'n bwriadu mabwysiadu dull integredig gan gysylltu addysg, datblygiad plentyndod, ac iechyd gan ganolbwyntio ar y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, cyrraedd plant mewn ardaloedd difreintiedig, cynyddu darpariaeth Gymraeg, a hwyluso cyflogaeth rhieni, yn enwedig ymhlith menywod:

  1. Mae Dechrau'n Deg yn cynnig gofal plant i blant 2-3 oed 
  2. Y Cynnig Gofal Plant i blant 3-4 oed 
  3. Addysg Gynnar i blant 3-4 oed

Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o'r ymateb iechyd cyhoeddus i'r Coronafeirws, i gefnogi ymateb dynamig a mesurau adfer, a chynllunio yng Nghymru. Yn ystod gwanwyn 2022, cafodd cwmpas yr adroddiadau ei ehangu i gwmpasu pynciau iechyd cyhoeddus â blaenoriaeth, gan gynnwys gwella a hybu iechyd, diogelu iechyd, a gofal iechyd cyhoeddus.

Mae'r Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol: Addysg a gofal plentyndod cynnar yn rhoi crynodeb lefel uchel o ddysgu o brofiadau bywyd go iawn o wledydd dethol, ac amrywiaeth o lenyddiaeth wyddonol a llwyd. Mae'r gyfres o adroddiadau'n cynnig cipolwg byr o'r dystiolaeth, polisi ac ymarfer presennol, gan rannu enghreifftiau o wledydd perthnasol a chanllawiau ac egwyddorion cyrff rhyngwladol.

Mae ECEC yn cyfeirio at unrhyw drefniant rheoledig sy'n darparu addysg a gofal i blant o'u genedigaeth hyd at oedran ysgol gynradd gorfodol.