Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi deng mlynedd o sgrinio ymlediadau aortig abdomenol yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 1 Mehefin 2023

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog dynion 65 oed i ystyried manteisio ar gynnig sgrinio ymlediadau aortig abdomenol, wrth iddo nodi dengmlwyddiant ei raglen sgrinio ymlediadau. Canfu arolwg diweddar a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod ymwybyddiaeth isel o'r rhaglen, ac nid oedd 77 y cant o'r dynion a ymatebodd yn ymwybodol o'r rhaglen hon a allai achub bywydau.

Mae sgrinio ymlediadau yn chwilio am chwyddo (ymlediad) yn yr aorta, y brif bibell waed sy'n cyflenwi gwaed i'r corff. Os bydd ymlediad yn cael ei ganfod yn gynnar, gellir ei fonitro drwy sganiau rheolaidd neu gynnal llawdriniaeth arno i'w atal rhag torri. Mae sgrinio ymlediadau yn cael ei gynnig i bob dyn 65 oed sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu.

Meddai Jeremy Surcombe, Pennaeth Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru:

“Mae sgrinio ymlediadau'n achub bywydau drwy ddod o hyd i ymlediadau'n gynnar, pan maent yn haws i'w trin. Dros y deng mlynedd diwethaf, mae’r rhaglen wedi sgrinio dros 148,000 o ddynion a chanfod 1,700 o ymlediadau.

“Mae 8 o bob 10 o ddynion yn manteisio ar y cynnig sgrinio ymlediadau, a dywedir wrth y rhan fwyaf o ddynion sy'n cael eu sgrinio nad oes ymlediad wedi'i ganfod. Mae ymlediadau mawr yn brin, ond gallant fod yn ddifrifol iawn. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd ymlediad mawr yn achosi symptomau, ond os yw'n torri, gall achosi gwaedu sy'n bygwth bywyd.

“Y newyddion da yw os byddwn yn dod o hyd i ymlediad yn gynnar, gallwn gynnig sganiau uwchsain rheolaidd i'w fonitro neu lawdriniaeth i'w atal rhag torri. Eich dewis chi yw cymryd rhan mewn sgrinio, ond byddem yn annog pob dyn i gymryd yr amser i ddarganfod rhagor am sgrinio ymlediadau a'i fanteision.”

Astudiaeth achos: John Doherty

Aeth John Doherty, 66 oed, o Gasnewydd, i gael sgrinio ymlediadau un dydd Gwener ym mis Mai 2022.

“Nid oeddwn yn awyddus i fynd i'r apwyntiad,” meddai. “Nid oeddwn yn credu bod unrhyw beth o'i le arnaf. Nid oeddwn erioed wedi clywed am sgrinio ymlediadau aortig abdomenol yn y gorffennol ac nid oeddwn yn ei gymryd o ddifrif gan nad oedd gennyf unrhyw symptomau ac roeddwn yn teimlo'n iawn.”

Ond diolch i anogaeth gan ei wraig ac apwyntiad wedi'i amseru'n gyfleus, a oedd yn cyd-fynd â'i thaith siopa, aeth John i'r sgrinio, a chafodd ymlediad mawr ei ganfod.

“Dywedwyd wrthyf, ‘os bydd hwn yn torri, bydd gennych broblemau gwirioneddol.’ Yn sicr, nid oeddwn yn cael gyrru! Gwnaethom ffonio fy ngwraig yn y siop i fynd â mi adref. Cefais lawdriniaeth bum diwrnod yn ddiweddaraf."

Ac yntau'n feiciwr modur brwd, roedd John wedi bod yn edrych ymlaen at ei ymddeoliad a chael amser o'r diwedd i drwsio a reidio ei beiriannau clasurol.

“Roeddwn yn ffodus. Fel llawer o ddynion fy oedran i, rwy'n ei chael yn anodd neilltuo amser i'r holl apwyntiadau rwy'n eu cael. Mae fy mhrofiad yn pwysleisio mor bwysig yw cael y gwiriad bach hwnnw.”

 “Roedd y sgrinio ymlediadau yn bendant wedi achub fy mywyd,” ychwanega John.