Neidio i'r prif gynnwy

Gamblo niweidiol; mae addysg gynnar yn allweddol i fynd i'r afael â mater iechyd cyhoeddus brys

Cyhoeddwyd: 1 Chwefror 2023

Mae addysg gynnar, sgrinio gan wasanaethau rheng flaen a chymorth parhaus drwy'r cyfnod ar ôl gwella ymhlith y camau gweithredu sydd eu hangen os yw Cymru am leihau'r effeithiau dinistriol a achosir gan gamblo, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae effeithiau gamblo niweidiol yn eang, gyda thystiolaeth yn dangos bod effaith negyddol sylweddol nid yn unig ar gamblwyr eu hunain, ond hefyd ar deuluoedd, ffrindiau, cydweithwyr a chyflogwyr, a'r gymuned ehangach. 

Meddai Annie Ashman, Cofrestrydd Arbenigol Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:  

“Mae'r dystiolaeth yn dangos y gall gamblo niweidiol gael effeithiau dinistriol ar iechyd a llesiant yr unigolyn a'r gymdeithas ehangach. Ynghyd â dyledion, colli swyddi ac iselder, i enwi rhai yn unig, mae bron chwech o bob 10 o bobl sy'n profi niwed gamblo ag anhwylder camddefnyddio sylweddau, bydd tua thraean ohonynt yn profi trais domestig, a bydd gan fwy na thraean anhwylder iechyd meddwl. Felly rydym yn aml yn siarad am gyflyrau lluosog a all effeithio ar iechyd ar yr un pryd.  

“Yn hynny o beth, mae angen dull ar draws systemau i weithredu ar bob lefel yr achosion a'r niwed canlyniadol y gall gamblo ei gael. Mae hyn yn cynnwys chwalu rhwystr cywilydd a stigma, addysg gynnar mewn ysgolion, grymuso meddygon teulu a gwasanaethau rheng flaen eraill i nodi ac atgyfeirio i wasanaethau arbenigol, fel y gall y rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt yn hawdd. 

“Yn Iechyd Cyhoeddus Cymru rydym yn pryderu ynghylch costau byw cynyddol a'r potensial i nifer mawr o bobl yn y DU ddisgyn o dan y llinell dlodi, rhaid mynd i'r afael a'r baich ariannol ac emosiynol ychwanegol y mae niwed sy'n gysylltiedig â gamblo yn ei roi ar rai o'r teuluoedd mwyaf agored i niwed ar fyrder.” 

Mae’r adroddiad yn nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu gan gynnwys yr angen am reoleiddio hysbysebu ac arferion y diwydiant gamblo yn fwy caeth a'r angen i gydnabod a gweithredu ar y cyswllt cynyddol agos rhwng gamblo a hapchwarae.  

Ymhlith yr argymhellion eraill mae: 

  • Dylai atal fod drwy addysg sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Dylai dull sy'n seiliedig ar ysgolion fod yn rhan o hyn, ond mae addysg i rieni a gweithwyr proffesiynol rheng flaen yn allweddol hefyd. 
  • Dylai datblygu gwasanaethau gynnwys newid i ddull iechyd cyhoeddus o ran gamblo, gan gydnabod bod sawl cyfle i ymyrryd cyn bod ymddygiad gamblo yn mynd yn niweidiol, ac mae angen ymyriadau ar bob cam, gan gynnwys ar ôl gwella. 
  • Dylai gwasanaethau fod yn seiliedig ar dystiolaeth, yn integredig, yn gydweithredol ac yn gallu mynd i'r afael â sawl mater iechyd lle mae angen yn hytrach na chanolbwyntio ar ymddygiad gamblo yn unig. 
  • Mae rôl i'r GIG, ar ffurf gwasanaethau triniaeth arbenigol ac ar ffurf galluogi gweithwyr proffesiynol rheng flaen i nodi niwed posibl o gamblo ac atgyfeirio i wasanaethau priodol. 
  • Mae mwy o unigolion eraill yr effeithir arnynt (unigolion sy'n profi niwed o ganlyniad i ymddygiad gamblo rhywun arall) na gamblwyr niweidiol yng Nghymru, ac mae angen sicrhau gwasanaethau priodol i'w cynorthwyo, a lleihau'r niwed y maent yn ei brofi. 

Meddai'r Prif Swyddog Meddygol, Frank Atherton: 

“Gall gamblo niweidiol gael effaith andwyol ar fywydau pobl, yn ogystal â'u ffrindiau, teuluoedd a chymunedau.  

“Rwyf wedi argymell dull iechyd cyhoeddus o ran gamblo drwy gydol fy amser fel Prif Swyddog Meddygol. Mae'r cyhoeddiad hwn yn adeiladu ar waith yr adroddiad a gyflwynais yn 2018, ‘Gamblo Gyda'n Hiechyd’, a wnaeth nifer o argymhellion i fynd i'r afael â gamblo fel mater iechyd cyhoeddus yng Nghymru.  

“Rwy'n croesawu'r gwaith hwn, sy'n gam arall tuag at fynd i'r afael â gamblo niweidiol yng Nghymru.” 

Mae ‘Asesiad o Anghenion Iechyd Gamblo yng Nghymru’ yn ceisio adolygu anghenion pobl sy'n profi niwed o gamblo er mwyn llywio dull iechyd cyhoeddus o leihau niwed gamblo yng Nghymru.