Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Rhyngwladol Ymwybyddiaeth Gorddos 2023.

Cyhoeddedig: 31 Awst 2023.

 

Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol Ymwybyddiaeth Gorddos – ymgyrch flynyddol fwyaf y byd i roi terfyn ar orddos, cofio heb stigma am y rhai sydd wedi marw, a chydnabod galar y teulu a'r ffrindiau a adawyd ar ôl.

Ledled Cymru, mae teuluoedd a chymunedau'n parhau i brofi effaith marwolaeth gysylltiedig â chyffuriau. Mae Diwrnod Rhyngwladol Ymwybyddiaeth Gorddos yn ein hatgoffa y gellir atal achosion o orddos drwy roi cymorth, gwybodaeth ac ymyriadau sydd ar gael yn hawdd.

Mae hefyd yn ein hatgoffa y gall y stigma ac ofn barnu a brofir gan bobl sy'n defnyddio cyffuriau eu hatal rhag cael mynediad at wasanaethau sy'n achub bywydau.

Yr unig ffordd o osgoi risg yw peidio â chymryd unrhyw gyffuriau nad ydynt wedi'u rhagnodi ar eich cyfer. Fodd bynnag, os byddwch yn penderfynu defnyddio sylweddau, gallwch gyflwyno sampl yn ddienw i Brosiect Wedinos i'w dadansoddi, a chael gwybodaeth gywir am gynnwys y sylwedd cyn i chi benderfynu ei defnyddio ai peidio.

Gall unrhyw un atal gorddos drwy wybod arwyddion gorddos a gwybod sut i ddefnyddio Naloxone.

Mae Naloxone yn feddyginiaeth sy'n achub bywyd sy'n gallu gwrthdroi effeithiau gorddos opioid dros dro. Mae'r feddyginiaeth yn gweithio o fewn pum munud i'w rhoi a gall bara rhwng 20 a 40 munud, gan roi digon o amser i gymorth meddygol gamu i'w adwy.

Mae hyfforddiant ar gyfer rhoi Naloxone wedi'i ddarparu i wasanaethau brys a sefydliadau eraill ledled Cymru ac mae ar gael i unrhyw un sy'n profi gorddos neu sy'n dyst iddo, gan gynnwys pobl sy'n defnyddio cyffuriau, eu ffrindiau a'u teuluoedd. Yng Nghymru, mae Barod yn cynnig Gwasanaeth Clicio a Dosbarthu Naloxone, sydd ar gael yma.

Meddai Rick Lines, Pennaeth y Rhaglen Camddefnyddio Sylweddau: "Mae marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau yn parhau i achosi cryn bryder yng Nghymru.  Er bod ein hymateb atal gorddos cenedlaethol wedi'i gryfhau, ac mae ymwybyddiaeth y cyhoedd wedi cynyddu, mae llawer gormod o bobl o hyd yn marw o achosion sy'n gysylltiedig â chyffuriau.  Mae Diwrnod Rhyngwladol Ymwybyddiaeth Gorddos yn ein hatgoffa i ehangu ein hymdrechion i leihau marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru, ac i fynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau sy'n ynysu cynifer o bobl rhag gwasanaethau."

Fel y sefydliad iechyd cyhoeddus arweiniol yng Nghymru, rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid ac aelodau o'n cymuned i gyflawni Cymru iachach i bawb.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymrwymedig i helpu i leihau'r stigma ynghylch y defnydd o gyffuriau er mwyn creu amgylchedd lle mae pobl yn teimlo'n ddigon diogel i ofyn am help.