Neidio i'r prif gynnwy

Dim achosion newydd o glefyd y llengfilwyr yn y Barri

Nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru ac asiantaethau partner wedi nodi unrhyw achosion newydd o glefyd y llengfilwyr sy'n gysylltiedig â'r clwstwr yn y Barri ers mis Awst 2019. 

Roedd ymchwiliad amlasiantaethol parhaus wedi nodi'n flaenorol 11 o achosion yn gysylltiedig â'r dref dros gyfnod o 13 mis.  Ymchwiliwyd yn helaeth i bob achos ond nid oes unrhyw dystiolaeth o hyd bod unrhyw un o'r achosion yn gysylltiedig. Roedd gan lawer ffactorau risg unigol ar gyfer caffael eu haint, gan gynnwys rhai gyda theithio dramor.

Fodd bynnag, fel rhagofal arferol, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru ac asiantaethau partner yn parhau i gynghori cyflogwyr i wirio eu polisïau ac arferion clefyd y llengfilwyr er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio. Gall landlordiaid hefyd helpu i leihau'r risg o glefyd y llengfilwyr drwy ddilyn rhagofalon rheolaidd, syml, a cheir rhagor o wybodaeth am hyn yn:

http://www.hse.gov.uk/legionnaires/legionella-landlords-responsibilities.htm

Gall aelodau o'r cyhoedd leihau'r risg o glefyd y llengfilwyr drwy fynd ati'n rheolaidd i fflysio neu dynnu tapiau nad ydynt yn cael eu defnyddio, digennu pennau chawodydd a phibellau dŵr o leiaf unwaith y chwarter, draenio tanceri dŵr a phibelli dŵr gardd os nad ydynt yn cael eu defnyddio, a defnyddio'r crynodiad cywir o ddeunydd golchi sgriniau yn eu cerbydau. Ceir gwybodaeth lawn yma:

https://phw.nhs.wales/files/legionella-advice1/

Dywedodd Dr Gwen Lowe, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Rydym yn monitro'n agos yr achosion glefyd y llengfilwyr yn y Barri ac mae ein hymchwiliadau'n mynd rhagddynt. Er bod clefyd y llengfilwyr yn brin, gall beryglu bywyd.  Mae pobl yn dal y clefyd drwy fewnanadlu bacteria clefyd y llengfilwyr sy'n cael ei ledaenu drwy'r aer mewn defnynnau o ddŵr halogedig.  Ni ellir trosglwyddo clefyd y llengfilwyr o un person i un arall.

“Mae'r rhan fwyaf o achosion o glefyd y llengfilwyr y rhoddir gwybod i ni amdanynt yn achosion ysbeidiol, ond weithiau mae clystyru heb esboniad yn digwydd.  Rydym yn ymchwilio i bob achos o glefyd y llengfilwyr a byddwn yn cadw golwg ar statws yr achos hwn.”

Ar gyfartaledd, ceir tua 30 o achosion o glefyd y llengfilwyr yng Nghymru bob blwyddyn, sydd fel arfer wedi'u gwasgaru ledled Cymru.