Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi data newydd ar ganlyniadau iechyd

Cyhoeddwyd: 28 Ebrill 2023

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi data newydd ar ganlyniadau iechyd cyhoeddus.

Wedi'i gyhoeddi gyntaf ym mis Mawrth 2016, diben y Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus yw helpu i ddeall yr effaith y mae ymddygiad unigol, gwasanaethau cyhoeddus, rhaglenni a pholisïau yn eu cael ar iechyd a llesiant yng Nghymru.  

Ymhlith y canfyddiadau allweddol mae:

  • Mae canran y babanod a anwyd â phwysau geni isel yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig (7.6 y cant) bron dwbl y rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (4.1 y cant) ar gyfer 2021
  • Mae canran y glasoed sy'n bodloni canllawiau gweithgarwch corfforol yn gostwng gydag oedran, o 16.6 y cant (11 oed) i 7.5 y cant (16 oed)
  • Yn 2021 nododd 40.2 y cant o ymatebwyr 11-16 oed yng Nghymru eu bod wedi yfed alcohol 
  • Yn ystod 2021/22 nododd 68.2 y cant o oedolion yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig eu bod yn gallu fforddio nwyddau a gweithgareddau bob dydd, o gymharu â 93.4 y cant yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.
  • Yn 2021/22, nododd pobl hŷn (65 oed a throsodd) sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru lefelau sylweddol uwch o iechyd da (71.5 y cant) na'r rhai sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig (43.9 y cant).

Mae Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei lunio ar ran Llywodraeth Cymru a chafodd ei ddatblygu yng nghyd-destun strategaethau a fframweithiau cenedlaethol eraill sy'n ceisio ysbrydoli a llywio camau gweithredu i wella iechyd y genedl. Yn benodol, mae'n sail i'r dangosyddion cenedlaethol ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, drwy ddarparu amrywiaeth manylach o fesurau sy'n adlewyrchu'r penderfynyddion ehangach sy'n dylanwadu ar iechyd a llesiant.