Neidio i'r prif gynnwy

Cyfraddau canser ceg y groth wedi gostwng bron i 90%, ond oes posib i ganser ceg y groth ddod yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol?

Cyhoeddig: 15 Ionawr 2024

Mis Ionawr yw Mis Ymwybyddiaeth Canser Ceg y Groth. Canser ceg y groth yw'r pedwerydd math mwyaf cyffredin o ganser ymhlith merched ledled y byd ac yn anffodus, bob blwyddyn, mae mwy na 50 o ferched yng Nghymru yn marw ohono. 

Mae Lisa Henry, Pennaeth Sgrinio Serfigol Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn esbonio sut, ers cyflwyno’r brechiad Papilomafeirws dynol (HPV) yn 2008, mae cyfraddau Canser Ceg y Groth ymhlith merched yn eu 20au y cynigiwyd y brechiad iddynt yn 12 i 13 oed wedi gostwng bron i 90 y cant, a sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn bwriadu gwneud Canser Ceg y Groth yn afiechyd sy’n perthyn i’r gorffennol. 

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, ynghyd â Sefydliad Iechyd y Byd, yn credu, drwy godi ymwybyddiaeth, drwy frechu, sgrinio ac felly canfod yn gynnar, a thriniaeth, ei bod yn bosibl dileu Canser ceg y groth. 

Feirws HPV 

Amcangyfrifir y bydd wyth o bob 10 o bobl yn cael eu heintio â HPV ar ryw adeg yn eu bywydau. Mae HPV yn grŵp cyffredin o fwy na 100 o feirysau, sy'n cael eu lledaenu drwy gyswllt croen i groen. 

Fel rheol nid oes gan HPV unrhyw symptomau, a dyma pam ei bod mor hawdd ei drosglwyddo. Yn y rhan fwyaf o bobl, nid yw HPV yn achosi unrhyw broblemau, a bydd y corff yn cael gwared ar y feirws ar ei ben ei hun. 

Fodd bynnag, gall mathau risg uchel o HPV achosi newidiadau yng nghelloedd ceg y groth. Mewn rhai achosion, gall y newidiadau i gelloedd fynd yn ôl i normal, ond weithiau gallant waethygu a dod yn ganser ceg y groth. Mae’r rhan fwyaf o achosion o ganser ceg y groth yn cael eu hachosi gan HPV risg uchel ac mae dau fath penodol o HPV (math 16 a 18) yn achosi tua 70 y cant o ganserau ceg y groth. 

Mae posib atal canser ceg y groth drwy frechiad HPV. 

Mae’r brechiad HPV yn cael ei roi yng Nghymru fel dos sengl, am ddim i fechgyn a merched 12/13 oed (blwyddyn wyth yn yr ysgol uwchradd), gan roi gwarchodaeth hirdymor rhag y mathau o HPV sy’n achosi canser ceg y groth, yr anws, y pen, y gwddw a’r pidyn yn ogystal a dafadennau gwenerol. 

Ers i’r brechiad HPV gael ei gyflwyno’n eang yn 2008, mae ymchwil* yn dangos ei fod eisoes wedi lleihau cyfraddau canser ceg y groth bron i 90 y cant ymhlith merched yn eu 20au a gafodd eu brechu yn 12/13 oed. Mae amcangyfrifon yn dangos bod y rhaglen frechu HPV wedi atal tua 450 o ferched rhag datblygu canser ceg y groth a 17,200 o achosion o gyflyrau cyn-ganseraidd dros y cyfnod hwn o 11 mlynedd a disgwylir y bydd y brechiad HPV yn parhau i achub cannoedd o fywydau bob blwyddyn yn y DU. 

Profwyd bod y brechiad yn rhoi gwarchodaeth ragorol rhag HPV ac mae ganddo enw da o ran diogelwch. Ar gyfer merched heb eu brechu, amcangyfrifir bod y risg oes o ddatblygu canser ceg y groth yn un o bob 142. 

Rhoddir y brechiad HPV fel rhan o raglen frechu’r ysgol, ac mae disgyblion blwyddyn wyth fel rheol yn cael y brechiad rhwng mis Ionawr a mis Mehefin. Dylai rhieni a gofalwyr gadw llygad am yr wybodaeth o’r ysgol, ei thrafod gyda’u plentyn a dychwelyd y ffurflen ganiatâd cyn gynted â phosibl. 

Gall pobl ifanc sydd wedi methu eu brechiad HPV pan gafodd ei gynnig ei gael hyd at eu pen-blwydd yn 25 oed ar gyfer: 

  • Merched wedi’u geni ar ôl 1 Medi 1991 

  • Bechgyn wedi’u geni ar ôl 1 Medi 2006 

Gallant gysylltu â'u meddyg teulu i gael eu brechu a sicrhau eu bod yn cael eu gwarchod rhag HPV yn y dyfodol. 

Sgrinio 

Mae posib gwella canser ceg y groth os caiff ei ganfod yn gynnar drwy sgrinio a'i drin. Mae tystiolaeth yn dangos bod sgrinio rheolaidd yn atal 7 o bob 10 canser ceg y groth. 

Mae sgrinio'n bwysig i ferched nad ydynt wedi'u brechu a merched sydd wedi'u brechu a phobl sydd â cheg y groth. Mae'n edrych am bresenoldeb y mathau risg uchel o HPV yng ngheg y groth, ac wedyn am newidiadau i gelloedd a achosir gan y feirws. Os caiff ei ganfod yn gynnar, mae'r driniaeth yn eithaf syml ac yn lleihau'n sylweddol y siawns y bydd y newidiadau i gelloedd yn datblygu'n ganser ceg y groth. 

Mae’r sgrinio ar ei fwyaf effeithiol pan fyddwch chi'n mynychu'n rheolaidd. Bydd Sgrinio Serfigol Cymru (CSW) yn eich gwahodd chi pan mae’n amser i chi gael eich sgrinio, a gall ateb unrhyw gwestiynau am eich apwyntiad sgrinio. 

Mae posib gwella’r rhan fwyaf o achosion o ganser ceg y groth os cânt eu canfod a’u trin yn gynnar, ond yn anffodus bydd traean o ferched yn marw o fewn pum mlynedd i ddiagnosis o ganser ceg y groth ymledol, yn enwedig os caiff ei ganfod mewn cam datblygedig. 

Y dyfodol 

Rydym eisoes wedi cyflawni cymaint o ran lleihau canser ceg y groth. Mae darparu rhaglen frechu o ansawdd uchel, ynghyd â rhaglen sgrinio serfigol effeithiol a thriniaeth, yn golygu bod gennym siawns wirioneddol o ddileu canser ceg y groth yn y dyfodol.”