Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2022 - wythnos i fynd!

Cyhoeddwyd: 21 Gorffennaf 2022

Dim ond wythnos i fynd tan ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) ddydd Iau 28 Gorffennaf 2022. 

Mae'n gyfle i gwrdd ag aelodau ein Bwrdd a chlywed am ein gwaith.  Bydd sesiwn holi ac ateb yn cael ei chynnal hefyd.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ar-lein, cliciwch ar y ddolen fyw isod i fynychu ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Dolen Fyw - Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 28 Gorffennaf 2022

Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan:

  • Gallwch fynychu'r cyfarfod gan ddefnyddio'r ddolen uchod 
  • Gallwch anfon eich cwestiynau neu sylwadau ymlaen llaw gan ddefnyddio unrhyw un o sianeli cyfryngau cymdeithasol ICC:

Dylid anfon cwestiynau cyn 5pm ddydd Llun 25 Gorffennaf 2022.

Drwy ddilyn y digwyddiad yn fyw ar Facebook gan ddefnyddio'r hashnod #PHWAGM.   Os na allwch gael mynediad at y ffrwd fyw yn ystod y digwyddiad oherwydd ymrwymiadau eraill, gallwch ei wylio wedyn ar ein tudalen Facebook.