Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg Cynhesrwydd tai ac iechyd a lles yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 21 Ionawr 2022
 

Beth yw pwrpas yr astudiaeth?

Mae Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor yn cynnal arolwg cenedlaethol ar gynhesrwydd tai ac iechyd a llesiant yng Nghymru.  Mae M.E.L Research yn cynnal yr arolwg ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor.
 

Pam mae'r astudiaeth hon yn cael ei chynnal?

Ar hyn o bryd, nid oes llawer o wybodaeth ar gael am dymereddau dan do aelwydydd yng Nghymru, sut mae pobl yn cynhesu eu cartrefi ac yn aros yn gynnes yn ystod y gaeaf, a'r effaith ar gysur, iechyd a llesiant pobl. Mae'r wybodaeth hon yn bwysig i'n helpu i ddeall pa dymereddau isaf y dylid eu hargymell yng Nghymru i gadw pobl yn gyfforddus ac yn ddiogel yn eu cartrefi.
 

Pwy fydd yn cymryd rhan?

Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2022, bydd M.E.L Research yn cysylltu ag aelwydydd yng Nghymru, a bydd preswylwyr 18 oed neu hŷn yn cael eu gwahodd i gymryd rhan dros y ffôn neu ar-lein. Gall cyfranogwyr gymryd rhan yn y Gymraeg neu'r Saesneg.
 

A oes rhaid imi gymryd rhan?

Na.  Mae'r arolwg yn gwbl wirfoddol – chi sy'n penderfynu a ydych chi'n cymryd rhan. Mae croeso i chi stopio’r arolwg ar unrhyw adeg, a does dim rhaid i chi roi rheswm. Ni fydd penderfynu stopio yn effeithio ar eich hawliau, unrhyw driniaeth iechyd yr ydych yn ei derbyn ar hyn o bryd neu yn y dyfodol, na’r gwasanaethau rydych yn eu derbyn.
 

Sut fydd fy atebion yn cael eu cadw'n gyfrinachol?

Bydd pob ateb yn cael ei gadw'n gwbl gyfrinachol ac yn ddienw. Gan fod yr holiaduron yn ddienw a chan na fyddwn yn gallu adnabod eich atebion personol ar ôl eu cwblhau, ni fydd modd tynnu'n ôl o'r astudiaeth unwaith y bydd yr holiadur wedi'i gyflwyno. Gofynnir i chi a hoffech gymryd rhan mewn gwaith dilynol. Bydd manylion cyswllt pobl sy’n dewis cymryd rhan mewn astudiaethau yn y dyfodol yn cael eu cadw’n ddiogel, ac ar wahân i'w hatebion i'r holiadur hwn.

Ni fydd eich atebion yn cael eu rhannu gydag unrhyw un y tu hwnt i'r tîm ymchwil, ONI BAI eich bod yn datgelu bwriad i niweidio eich hun neu rywun arall, gwybodaeth sy'n nodi y gall rhywun achosi risg ddifrifol o niwed i chi neu'r cyhoedd, neu'r bwriad i gyflawni gweithred derfysgaeth. Byddem yn trafod hyn gyda chi cyn dweud wrth unrhyw un arall.
 

Pwy sydd wedi adolygu'r astudiaeth?

Mae'r astudiaeth hon wedi'i hadolygu gan Bwyllgor Moeseg Academaidd Gwyddorau Gofal Iechyd a Meddygol Prifysgol Bangor. Mae Pwyllgor Moeseg Ymchwil yn grŵp o bobl annibynnol sy'n adolygu ymchwil er mwyn diogelu urddas, hawliau, diogelwch a lles cyfranogwyr ac ymchwilwyr. Mae'r astudiaeth hefyd wedi'i hadolygu gan Swyddfa Ymchwil a Datblygu Iechyd Cyhoeddus Cymru.
 

Manylion cyswllt

Bydd ein hymchwilwyr hyfforddedig dros y ffôn yn eich trin yn deg a chyda pharch.  Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw bryderon am yr astudiaeth, gan gynnwys y ffordd y cysylltwyd â chi neu’r ffordd y cawsoch eich trin, cysylltwch â M.E.L. Research:

Ffôn (Rhadffôn): 0800 073 0348

E-bost: phw.survey@melresearch.co.uk                                          

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn:

E-bost: gig.gwres@wales.nhs.uk  
 

Adnoddau

Taflen wybodaeth i gyfranogwyr — Mae'n darparu gwybodaeth am yr astudiaeth a beth fydd yn digwydd os byddwch yn penderfynu cymryd rhan.

I weld neu lawrlwytho copi o'n taflen wybodaeth i gyfranogwyr, cliciwch am:

Taflen ôl-drafodaeth — Taflen ddiolch sy'n cynnwys gwybodaeth am wasanaethau efallai yr hoffech eu defnyddio, megis Nyth, National Energy Action a llinellau cymorth cenedlaethol eraill.

I weld neu lawrlwytho copi o'n taflen ôl-drafodaeth, cliciwch yma