Mae cyflogwyr ac aelodau o'r cyhoedd yn cael eu hatgoffa o'r camau y gallant eu cymryd i leihau'r risg o glefyd y llengfilwyr.
Eleni, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cytuno i gefnogi Diwrnod Aer Glân 2019, a gynhelir ar 20 Mehefin.
Mae tai o ansawdd gwael yn costio mwy na £95m y flwyddyn mewn costau triniaeth i'r GIG yng Nghymru – ond gallai camau i leihau tai gwael arwain at enillion ar fuddsoddiad o fewn chwe blynedd, yn ôl adroddiad newydd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wrthi'n ymchwilio i saith achos wedi'u cadarnhau o Hepatitis A ymhlith pobl sy'n byw ym Mro Morgannwg.
Yn ddiweddar, cynhaliodd staff o Dîm Gwella Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddigwyddiad i gyflwyno Cwricwlwm Drafft Cymru 2022.
Mae Pennaeth y Rhaglen Camddefnyddio Sylweddau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, Josie Smith, wedi rhoi tystiolaeth i ymchwiliad gan Dŷ'r Cyffredin yn San Steffan.
Mae'r ymarfer sgrinio cymunedol twbercwlosis yn Llwynhendy, Sir Gaerfyrddin sy'n cael ei gynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bellach wedi dod i ben.
Ymunwch â ni yn eich Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar ddydd Iau 25 Gorffennaf 2019 yng Nghasnewydd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnal sesiwn sgrinio twbercwlosis (TB) ychwanegol yn Llwynhendy yr wythnos hon i ymateb i alw mawr gan y cyhoedd i gael i brofi fel rhan o ymarfer sgrinio cymunedol.
Mae ysmygwyr yng Nghymru yn cael eu hannog i roi cynnig ar roi'r gorau iddi ar Ddiwrnod Dim Tybaco y Byd (31 Mai), er mwyn gwella iechyd eu hysgyfaint ac iechyd y rhai o'u cwmpas.