Mae’r adroddiad blynyddol diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer Rhaglen Sgrinio Ymlediad Aortaidd yn yr Abdomen Cymru (WAAASP) yn dangos bod ymgymeriad sgrinio wedi cynyddu’r llynedd gyda phedwar o bob pum dyn a wahoddwyd yn derbyn y cynnig i gael eu sgrinio.
Mae pobl dros 60 oed yng Nghymru ar-lein ac yn cymryd rhan weithredol yn y cyfryngau cymdeithasol, sydd â'r potensial i fod yn offeryn pwysig i iechyd y cyhoedd.
Diweddariad: 20/03/2020
Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am benodi tri Chyfarwyddwr Anweithredol newydd i ymuno â Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd y mae croeso ir cyhoedd, gan gynnwys aelodau o'r staff, eu mynychu.
Rhoddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fwy na 940,000 o wahoddiadau sgrinio i unigolion cymwys dros ei saith rhaglen sgrinio genedlaethol y llynedd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi dau achos ychwanegol o TB wedi'u cadarnhau sy'n gysylltiedig â'r clwstwr o achosion yng CEM y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio ar ôl i bedwar achos o Dwbercwlosis (TB) gael eu nodi mewn dynion sy'n byw yng ngharchar CEM y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr dros y naw mis diwethaf.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ymchwilio i nifer o achosion cysylltiedig o Giardia yn ardal Bae Colwyn.
Mae gan 75 y cant o gyflogeion sector cyhoeddus Cymru a holwyd ymwybyddiaeth dda o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE). Fodd bynnag, dim ond 36 y cant sy'n teimlo'n hyderus yn eu gwybodaeth a'u sgiliau i helpu i atal ACE yn eu rôl.