Cadarnhawyd bod gan gyfanswm o 13 o bobl COVID-19 mewn clwstwr sy'n canolbwyntio ar ardal Merthyr Tudful gyda nifer bach o achosion cysylltiedig wedi'u dosbarthu ar draws y rhanbarth.
Cwsmeriaid tafarn yn Wrecsam yn cael eu cynghori i fod yn wyliadwrus am symptomau Coronafeirws
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Wrecsam yn cynghori unrhyw un a ymwelodd â thafarn North and South Wales Bank yn Wrecsam rhwng 9 a 20 Awst i fod yn wyliadwrus am symptomau Coronafeirws.
Dim tystiolaeth o drosglwyddo eang yng nghymuned Wrecsam, yn dilyn ymarfer profi
Nodwyd 11 achos newydd o Coronafeirws yng nghymuned Wrecsam, yn dilyn pedwar diwrnod o brofi mewn canolfannau profi cymunedol mynediad hawdd yn Hightown a Pharc Caia.
Arolwg yn datgelu y byddai wyth o bob 10 oedolyn yng Nghymru yn dymuno cael eu brechu rhag y Coronafeirws Newydd (COVID-19) pe bai brechlyn ar gael
Yn ôl yr arolwg ymgysylltu cenedlaethol diweddaraf a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, byddai 83 y cant o bobl am gael eu brechu rhag y Coronafeirws Newydd (COVID-19) pe bai brechlyn ar gael;