Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

Torfeydd ar y strydoedd i roi croeso brenhinol

Aeth trigolion o bob oed allan i strydoedd Tredegar Newydd i roi croeso arbennig i’w Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru a Duges Cernyw wythnos diwethaf.

Adroddiad newydd yn dangos arafu o ran tueddiadau goroesi canser yng Nghymru

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (WCISU) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dangos bod y cynnydd hirdymor o ran goroesi canser yn arafu. 

Archebwch eich lle yng Nghynhadledd Genedlaethol Gofal Sylfaenol 2019

Bellach, gellir cofrestru ar gyfer y 4edd Gynhadledd Genedlaethol Gofal Sylfaenol a gynhelir yn y Ganolfan Gynadledda Genedlaethol yng Nghasnewydd ddydd Iau 7 Tachwedd 2019.

Brechlyn Feirws Papiloma Dynol i fechgyn i atal canser yng Nghymru

O flwyddyn academaidd 2019/20 ymlaen, caiff bechgyn 12-13 oed gynnig y brechlyn Feirws Papiloma Dynol (HPV) yn yr ysgol ynghyd â merched fel rhan o'r rhaglen HPV bresennol.

Cyhoeddi Canllaw newydd i eirioli buddsoddi cynaliadwy mewn tegwch iechyd a llesiant

Mae canllaw ymarferol newydd wedi cael ei gyhoeddi ynghylch ‘Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi mewn Tegwch Iechyd a Llesiant’.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn recriwtio dau Gyfarwyddwr Anweithredol newydd.

Mae Cyfarwyddwyr Anweithredol yn gweithio gyda’r Cyfarwyddwyr Gweithredol fel rhan o fwrdd unedol i ddatblygu cyfeiriad strategol, sicrhau atebolrwydd a ffurfio diwylliant sefydliadol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Lansio strategaeth ymchwil a gwerthuso newydd - cynhyrchu'r dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi Iechyd Cyhoeddus Cymru i wneud gwahaniaeth i iechyd

Mae strategaeth Ymchwil a Gwerthuso newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlygu ein hymrwymiad i ymgorffori ymchwil a gwerthuso ar draws y sefydliad, gan ein galluogi i feithrin y wybodaeth sydd ei hangen i wella iechyd a llesiant ledled Cymru (Blaenoriaeth Strategol 7). 

Cyhoeddi papurau y Pwyllgor Datblygu Sefydliadol a Phobl

Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor Datblygu Sefydliadol a Phobl ddydd Mercher 24 Gorffennaf 2019.

Canfyddiadau'r Ymarfer Sgrinio Cymunedol TB yn Llwynhendy

Nid yw ymarfer sgrinio twbercwlosis (TB) cymunedol a gynhaliwyd yn Llwynhendy yn gynharach y mis hwn wedi nodi unrhyw achosion gweithredol o glefyd TB yn y gymuned, ond nodwyd 76 achos o TB cudd. 

Amnewid mewn sylweddau seicoweithredol yn bryder cynyddol i arbenigwyr

Mae gwasanaeth Prosiect Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru (WEDINOS) Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweld cynnydd yn nifer y samplau a gyflwynwyd  i'w profi yn y flwyddyn ddiwethaf.