Neidio i'r prif gynnwy

Profiad Gwaith

Mae ein Cynllun Lleoliadau Gwaith dros yr Haf ar gau.

Nod ein cyfleoedd profiad gwaith yw eich helpu chi i gael cipolwg ar y cyfleoedd gyrfa posib yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd cyfle i chi gysgodi aelod o staff ar brofiad gwaith sy’n para rhwng diwrnod a phedair wythnos (di-dâl).

Mae pobl yn dod ar brofiad gwaith gyda ni am nifer o resymau, gan gynnwys:

  • Cael blas ar weithio mewn maes cyn ymrwymo i gwrs coleg
  • Mynd yn ôl i fyd gwaith ar ôl cyfnod o absenoldeb
  • Cael profiad da i gyfeirio ato fel rhan o’u proses ymgeisio ar gyfer y Brifysgol/Coleg
  • Cael dealltwriaeth o weithio ym maes Iechyd.

Drwy ddewis profiad yn gweithio mewn amgylchedd prysur byddwch yn cael profiad a sgiliau gwerthfawr wrth ddatblygu eich hyder mewn amgylchedd gwaith, gan eich helpu i fod yn barod ar gyfer y byd gwaith. Yn 2019, dyma'r cyfleoedd oedd ar gael:

Ffurflen Gais

Mae’n ddrwg gennym ddweud bod y cynllun ar gyfer Haf 2019 wedi cau.