Caiff mentor ei gysylltu â phob ymarferydd er mwyn cynorthwyo’r ymarferydd ar hyd y daith tuag at gofrestru.
Cyfrifoldebau’r mentor:
Pwy sy’n gymwys:
I fod yn fentor mae angen i chi fod yn Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus cofrestredig a bod yn barod i helpu ymarferwyr eraill drwy’r broses gofrestru.
Ymrwymiad o ran amser:
Yn gyffredinol, nid yw’n ofynnol i fentoriaid ddarparu cymorth o ran mentora i fwy nag un ymarferydd ar y tro. Bydd yr amser y mae’n ei gymryd i ymarferwyr gwblhau’r rhaglen yn amrywio, ond byddant yn cymryd o leiaf blwyddyn fel rheol ac yn cymryd mwy o amser na hynny’n aml. Gellir darparu cymorth ym mha ddull bynnag sydd fwyaf defnyddiol (e.e. mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb, yn ysgrifenedig neu dros y ffôn) ar yr amod bod yr ymarferydd a’r mentor yn cytuno ar y dull dan sylw.