Cyfrifoldebau’r dilyswr
Mae’n rhaid i ddilyswyr:
- Gwblhau hyfforddiant Cofrestr Iechyd Cyhoeddus y Deyrnas Unedig i ddilyswyr
- Gwneud argymhellion i’r Panel Dilysu priodol
- Gwirio bod y prosesau tuag at gofrestru wedi’u gweithredu yn gywir
- Cadw am 3 mis gopi o’r cais y mae’r ymarferydd wedi’i gwblhau er mwyn cael ei gynnwys yng Nghofrestr Iechyd Cyhoeddus y Deyrnas Unedig
Bod yn gymwys:
I fod yn ddilyswr rhaid eich bod yn arbenigwr iechyd cyhoeddus sydd wedi cofrestru gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol, y Cyngor Deintyddol Cyffredinol neu Gofrestr Iechyd Cyhoeddus y Deyrnas Unedig, rhaid bod gennych enw da, a rhaid eich bod wedi dal swydd meddyg ymgynghorol neu arbenigwr am 3 blynedd.
Ymrwymiad o ran amser:
Bydd yn ofynnol i chi fynychu hanner diwrnod o hyfforddiant a gyflwynir gan Gofrestr Iechyd Cyhoeddus y Deyrnas Unedig. Bydd angen i chi fynychu 2 – 3 Panel Dilysu bob blwyddyn ac 1 – 2 weithdy hanner diwrnod bob blwyddyn.
Manteision bod yn ddilyswr:
- Hyfforddiant a ardystiwyd gan Gofrestr Iechyd Cyhoeddus y Deyrnas Unedig yn cyfrannu at ddatblygiad proffesiynol parhaus – ‘gwarcheidwad safonau ymarferwyr’, hyfforddiant parhaus
- Gwerthfawrogiad gwell o sut y caiff yr ystod lawn o wybodaeth a sgiliau ym maes iechyd cyhoeddus eu rhoi ar waith wrth i ymarferwyr gyflwyno ymyriadau iechyd cyhoeddus
- Gwerthfawrogiad ehangach o rolau, gwasanaethau ac ymyriadau iechyd cyhoeddus mewn ardaloedd daearyddol a meysydd gwasanaeth eraill
- Yn llywio sut yr ydych yn cynorthwyo eich gweithlu eich hun ac yn hybu datblygiad o ran gyrfa’r sawl yr ydych yn eu rheoli