Mae Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gydag Asiantaeth Beaufort Research a Healthcare Communications i geisio deall profiadau pobl o hunanynysu a’r cymorth sydd ar gael i helpu eraill yn ystod y pandemig COVID-19.
Gwyddom ei bod yn hollbwysig dilyn y canllawiau hunanynysu pan fyddwch yn un o gysylltiadau rhywun a gafodd ganlyniad prawf positif ar gyfer y Coronafeirws er mwyn ei atal rhag lledaenu. Gwyddom hefyd, drwy waith ymchwil, y gall hunanynysu fod yn her. Dyna pam rydym wedi gofyn i Beaufort Research a Healthcare Communications ein helpu i ddeall y rhesymau pam y gall hunanynysu fod yn her. Rydym yn awyddus i gael y wybodaeth hon er mwyn gallu ei defnyddio i helpu eraill ledled Cymru yn ystod y pandemig.
Mae’r Is-adran Ymchwil a Gwerthuso yn cynnal dwy astudiaeth wahanol: