Neidio i'r prif gynnwy

3.2 Blaenoriaeth 2: Hybu Llesiant Meddyliol a Chymdeithasol

Llesiant meddyliol a chymdeithasol yw sylfaen iechyd a llesiant gydol oes. Pan fydd llesiant meddyliol yn uchel, gall liniaru effaith y penderfynyddion ehangach ar iechyd ac i'r gwrthwyneb, pan fydd yn isel, gall waethygu eu heffaith. Mae llesiant meddyliol ar lefel unigol yn cael ei ddylanwadu'n gryf gan yr amgylchedd cymdeithasol lle rydym yn byw, yn gweithio, yn chwarae ac yn dysgu. Mae blynyddoedd cynnar bywyd yn ganolog i ddatblygiad y sylfeini ar gyfer llesiant meddyliol; pan nad yw'r amodau hyn yn gyson, gall niwed hirdymor i unigolion godi o ganlyniad i Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs).

Cwestiynau Ymchwil

Ffactorau seicolegol, ymddygiadol ac amgylcheddol sy'n effeithio ar iechyd meddwl

1.    Pa ffactorau ymddygiadol sy'n cyfrannu'n sylweddol at ymddygiadau rhianta cadarnhaol, yn enwedig o fewn grwpiau poblogaeth allweddol, a pha rôl y mae'r penderfynyddion hyn yn ei chwarae o ran creu arferion rhianta effeithiol? 

2.    Sut y mae cyfnodau pontio cwrs bywyd yn dylanwadu ar lesiant meddyliol a chymdeithasol, a pha effeithiau penodol sy'n gysylltiedig â'r cyfnodau pontio hyn?

3.    Pa ffactorau sy'n gweithredu fel rhwystrau a hwyluswyr ar gyfer meithrin rheolaeth unigol mewn ffyrdd sy'n cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddyliol a chorfforol a llesiant cyffredinol?

4.    Sut y mae ffactorau cymdeithasol, economaidd a masnachol yn cyfrannu at brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thrais ar draws gwahanol gyfnodau bywyd, a sut y gellir eu lliniaru? 

5.    Pa effaith y mae gwaharddiad Cymru ar gosbi plant yn gorfforol wedi'i chael ar agweddau ac ymddygiadau rhianta ac ar lesiant plant yng Nghymru?

6.    Pa effeithiau parhaus sydd wedi deillio o’r pandemig COVID-19 mewn perthynas ag iechyd a llesiant meddyliol, yn enwedig ymhlith unigolion ifanc?

7.    Sut y mae’r rhyngweithio rhwng ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd a genomeg unigolyn yn effeithio ar iechyd meddwl, a chanlyniadau iechyd meddwl?

Rôl Cyfalaf Cymdeithasol

1.    Beth yw statws presennol cyfalaf cymdeithasol a chyfalaf dynol, pa elfennau sy'n cael yr effaith fwyaf ar iechyd, llesiant a thegwch a sut y gallai'r rhain esblygu yn y dyfodol yng Nghymru? 

2.    Pa ymyriadau neu bolisïau sy'n dangos eu bod yn meithrin cyfalaf cymdeithasol a chyfalaf dynol yn effeithiol mewn ffyrdd sy'n esgor ar ganlyniadau cadarnhaol ar gyfer iechyd, llesiant a thegwch?

3.    Pa wersi y gellir eu defnyddio o'r profiadau yn ystod y pandemig COVID-19 ac argyfyngau costau byw sy'n taflu goleuni ar y rhwystrau a'r catalyddion ar gyfer meithrin cyfalaf cymdeithasol o fewn cymunedau?