Os mai iaith arall heblaw am Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf ac rydych chi'n awyddus i gael gwydobaeth am eich apwyntiad neu i gynnal eich apwyntiad yn eich dewis iaith, bydd gofyn i chi roi gwybod i ni.
Rydyn ni'n defnyddio'r gwasanaeth dehongli 'Language Line', sy'n wasanaeth cyfieithu dros y ffôn. Mae'n bosibl trefnu'r gwasanaeth cyfieithu ar ôl i chi gyrraedd ar gyfer eich apwyntiad.
Os ydych chi angen defynddio gwasanaeth dehonglydd BSL (iaith arwyddion Prydain) bydd gofyn i chi roi gwybod i ni cyn dyddiad eich apwyntiad, gan y bydd angen bwcio gwasanaeth y dehonglydd ymlaen llaw.
Er mwyn rhoi gwybod i ni am eich anghenion cyfathrebu ffoniwch y ganolfan sgrinio yn eich ardal.