Neidio i'r prif gynnwy

Eich cadw'n ddiogel yn ystod eich apwyntiad sgrinio cyn geni

Mae cymryd rhan mewn sgrinio yn rhywbeth y gallwch chi ei wneud i ofalu amdanoch chi ac iechyd eich baban.

Mae staff gofal iechyd yn dilyn canllawiau atal a rheoli heintiau. Mae hyn yn golygu eu bod yn dilyn arferion glanhau dwylo llym ac yn glanhau holl ardaloedd ac offer y clinig yn rheolaidd. 

Os ydych chi'n mynychu clinig cymunedol, siaradwch â'ch bydwraig am sut y bydd sgrinio'n digwydd yn eich Bwrdd Iechyd. Bydd yn esbonio beth maent yn ei wneud i'ch cadw'n ddiogel.

 

Cofiwch, er mwyn atal yr haint rhag lledaenu, peidiwch â mynd i gael eich sgrinio os ydych yn sâl.

Cysylltwch â’ch bydwraig os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am eich apwyntiad sgrinio cyn geni.

Rhagor o wybodaeth am sgrinio a’r gwahanol brofion.