Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wybodaeth hon ar eich cyfer chi os ydych yn feichiog ac wedi cael canlyniad adweithiol cychwynnol mewn HIV, hepatitis B neu siffilis

 


 

Cynnwys
Beth mae canlyniad y prawf gwaed wedi’i ddangos?
― Pam mae prawf gwaed yn rhoi canlyniad aneglur?
― Rhagor o brofion yn ystod eich beichiogrwydd
― Y camau nesaf
 

Beth mae canlyniad y prawf gwaed wedi’i ddangos?

Mae’ch prawf gwaed cychwynnol wedi rhoi canlyniad adweithiol (aneglur). Nid yw’r canlyniad hwn yn golygu bod gennych haint.

 

Pam mae prawf gwaed yn rhoi canlyniad aneglur?

Mae pob prawf mewn labordy’n gallu rhoi canlyniad aneglur. Adwaith gwan i’r prawf gwaed sydd fel arfer wedi achosi’r canlyniad yma. Mae nifer o resymau pam y gallai’r prawf gwaed fod wedi rhoi canlyniad aneglur i chi, er nad oes haint arnoch efallai. Gall fod:

  • o ganlyniad i salwch ysgafn fel annwyd; neu
  • oherwydd bod y sampl o waed yn rhy gynnes neu’n rhy oer wrth gael ei gludo i’r labordy.

Yn aml iawn nid oes rheswm amlwg dros gael canlyniad aneglur. 

 

Rhagor o brofion yn ystod eich beichiogrwydd

Cynghorir eich bod yn cael prawf gwaed arall i gael canlyniad clir. Mae’n bwysig bod yr ail brawf gwaed hwn yn cael ei gymryd er mwyn i chi gael canlyniad pendant.

Byddwch fel arfer yn cael cais i roi'r ail sampl gwaed yn ystod un o’ch apwyntiadau nesaf yn y clinig cyn geni. Efallai y bydd eich bydwraig yn gofyn rhai cwestiynau i chi a fydd yn helpu chi'ch dau i benderfynu gyda’ch gilydd ar yr adeg orau i dynnu’r ail sampl gwaed.   Ambell waith bydd angen tynnu mwy nag un sampl arall o waed cyn gallu rhoi canlyniad pendant i chi.

 

Y camau nesaf

  1. Mae canlyniad un o’ch profion gwaed am heintiau yn ystod beichiogrwydd wedi rhoi canlyniad adweithiol (aneglur)
  2. Argymhellir eich bod yn cael ail sampl gwaed wedi'i gymryd er mwyn i chi gael canlyniad pendant
  3. Bydd eich bydwraig yn trafod gyda chi yr adeg orau i gael ail brawf gwaed 
  4. Bydd eich bydwraig yn trafod gyda chi sut byddwch yn cael canlyniadau’r ail brawf (neu brofion) gwaed, a phryd y bydd y canlyniadau ar gael