Cyhoeddi Ionawr 2022
Cynnwys
― Bod yn gludydd
― Eich babi
― Y siawns o etifeddu cyflwr difrifol
― Cyflyrau haemoglobin a etifeddir
― Thalasaemia difrifol
― Anhwylder y crymangelloedd
― Y camau a'r dewisiadau nesaf
― Sgrinio babanod
― Aelodau eraill o'r teulu
― Beichiogrwydd yn y dyfodol
― Sut y mae canlyniad eich prawf yn cael ei ysgrifennu
― Rhagor o wybodaeth
Nid yw bod yn gludydd yn eich gwneud yn sâl. Ni fyddwch yn datblygu cyflwr haemoglobin sydd angen triniaeth ond mae'n bwysig gwybod y gallwch drosglwyddo'r genyn thalasaemia delta beta i'ch babi. Os yw tad biolegol y babi yn gludydd hefyd, gyda'ch gilydd gallech gael babi â chyflwr etifeddol difrifol. Mae'r siawns yr un peth ym mhob beichiogrwydd.
Haemoglobin yw'r sylwedd mewn celloedd gwaed coch sy'n cludo ocsigen o amgylch eich corff. Mae bod yn gludydd yn golygu eich bod wedi etifeddu un genyn haemoglobin arferol a elwir yn haemoglobin A gan un rhiant biolegol ac un genyn thalasaemia delta beta gan eich rhiant biolegol arall. Gan eich bod wedi etifeddu haemoglobin A gan un rhiant, rydych yn iach.
Os oes gan dad biolegol eich babi enyn haemoglobin anarferol mae'n bwysig nodi'r math o enyn a'r siawns y bydd eich babi'n etifeddu cyflwr haemoglobin difrifol. Am y rheswm hwn, byddwn hefyd yn gwahodd y tad biolegol i gael ei sgrinio. Bydd dim ond yn gwybod a yw'n cario genyn ar gyfer haemoglobin anarferol os yw'n cael prawf gwaed i wirio ei fath o haemoglobin.
Os bydd y prawf yn dangos bod y tad biolegol yn gludydd genyn haemoglobin anarferol byddwch yn cael cynnig cwnsela arbenigol ac, os oes angen, profion mewnwthiol.
Dywedwch wrth eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os:
Mae yna nifer o wahanol gyflyrau haemoglobin y gallai eich babi eu hetifeddu. Mae rhai’n fwy difrifol nag eraill. Mae math a difrifoldeb y cyflwr yn dibynnu ar y mathau o enynnau haemoglobin sydd gennych chi a thad biolegol eich babi.
Y cyflyrau mwyaf difrifol yw thalasaemia difrifol ac anhwylder y crymangelloedd. Mae angen i bobl sydd â thalasaemia difrifol neu anhwylder y crymangelloedd gael gofal a thriniaeth arbenigol drwy gydol eu bywydau.
Mae un rhiant biolegol yn gludydd ond nid yw'r rhiant arall yn gludydd
Os oes gan dad biolegol eich babi ddau enyn haemoglobin arferol (AA), mae siawns 2 mewn 4 (50%) y bydd eich babi yn gludydd thalasaemia delta beta (fel chi) a siawns 2 mewn 4 (50%) y bydd ganddo ddau enyn haemoglobin arferol (AA).
Gweler y diagram isod. Mae’r siawns yr un fath ym mhob beichiogrwydd ar gyfer y cwpl hwn.
Mae'r ddau riant biolegol yn gludwyr
Os yw tad biolegol y babi yn gludydd hefyd, mae siawns 1 mewn 4 (25%) y bydd eich babi yn etifeddu cyflwr haemoglobin. Bydd difrifoldeb y cyflwr yn dibynnu ar ba enynnau haemoglobin sy'n cael eu hetifeddu.
Mae hefyd siawns 2 mewn 4 (50%) y bydd eich babi yn gludydd (fel chi) a siawns 1 mewn 4 (25%) y bydd gan eich babi enynnau haemoglobin arferol (AA).
Gweler y diagram isod. Mae’r siawns yr un fath ym mhob beichiogrwydd ar gyfer y cwpl hwn.
Mae cyflyrau haemoglobin yn anhwylderau gwaed a etifeddir gan y ddau riant biolegol.
Mae nifer o gyflyrau haemoglobin, ond bydd y math o gyflwr y gallai eich babi ei etifeddu’n dibynnu ar y mathau o enynnau haemoglobin sydd gan y ddau riant biolegol. Mae rhai cyflyrau'n fwy difrifol nag eraill.
Gelwir y cyflyrau mwyaf difrifol yn thalasaemia difrifol ac anhwylder y crymangelloedd. Bydd angen gofal a thriniaeth arbenigol ar bobl sydd â’r cyflyrau yma drwy gydol eu bywydau.
Os yw tad biolegol y babi yn gludydd thalasaemia beta mae siawns 1 mewn 4 (25%) y gallai eich babi etifeddu thalasaemia difrifol (y cyflwr penodol yw thalasaemia beta/thalasaemia delta beta). Gall hyn naill ai fod yn gyflwr difrifol sy'n gofyn am ofal a thriniaeth arbenigol, neu gyflwr ysgafn sydd ond angen triniaeth yn achlysurol. Bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gallu esbonio hyn i chi yn fanylach. Mae hefyd siawns 2 mewn 4 (50%) y gallai eich babi fod yn gludydd, neu siawns 1 mewn 4 (25%) y gallai fod gan eich babi'r math arferol o haemoglobin AA
Os yw tad biolegol eich babi yn gludydd crymangelloedd, mae siawns 1 mewn 4 (25%) y gallai eich babi etifeddu anhwylder y crymangelloedd. Mae hwn yn gyflwr sy'n gofyn am ofal a thriniaeth arbenigol.
Os yw tad biolegol eich babi yn cario'r genyn ar gyfer haemoglobin anarferol gwahanol, er enghraifft haemoglobin E, thalasaemia delta beta neu haemoglobin Lepore, mae siawns 1 mewn 4 (25%) y gallai eich plentyn etifeddu cyflwr haemoglobin gwahanol. Y math o enynnau sy’n cael eu hetifeddu fydd yn pennu pa mor ddifrifol yw’r cyflwr. Gallwch drafod hyn gyda’ch gweithiwr iechyd proffesiynol, fel eich bod yn deall yn union pa gyflwr y gallai eich babi ei etifeddu.
Mae pobl sydd â thalasaemia difrifol:
Mae gan bobl ag anhwylder y crymangelloedd gelloedd gwaed coch sy'n gallu mynd yn ddi-siâp wrth iddynt ryddhau ocsigen o amgylch y corff. Gall hyn rwystro pibellau gwaed bach.
Mae pobl sydd ag anhwylder y crymangelloedd:
Os bydd sgrinio yn dangos y gallai eich babi etifeddu cyflwr haemoglobin difrifol, byddwch yn cael cynnig cwnsela arbenigol a phrofion mewnwthiol
Mae pob babi yn cael cynnig prawf sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig bum diwrnod ar ôl ei enedigaeth. Bydd y prawf hwn yn sgrinio ar gyfer anhwylder y crymangelloedd.
Gallwch hefyd wneud y canlynol:
Gan eich bod yn gludydd thalasaemia delta beta, gallai aelodau eraill o’ch teulu biolegol fod yn gludwyr hefyd.
Rydym yn argymell eich bod yn siarad â'ch rhieni, brodyr, chwiorydd, ewythrod, modrybedd, cefndryd a chyfnitherod. Dylech eu hannog nhw i gael prawf cyn dechrau teulu a chyn cael rhagor o blant. Gall dangos y wybodaeth hon iddynt fod o gymorth.
Mae cael y prawf yr un mor bwysig i ddynion ag y mae i fenywod. Gall unrhyw un ofyn am brawf ar unrhyw adeg gan eu meddyg teulu neu gan ganolfan arbenigol crymangelloedd a thalasaemia.
Rydym yn argymell eich bod yn dweud wrth eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol am eich statws cludydd mor gynnar â phosibl mewn unrhyw feichiogrwydd yn y dyfodol.
Mae'n bwysig profi tad biolegol y babi a chael eich atgyfeirio i gwnselydd arbenigol.
Fel cludydd thalasaemia delta beta, mae eich canlyniad sgrinio yn cael ei ysgrifennu fel cludydd thalasaemia delta beta (δβ). ‘δ’ yw'r llythyren Roeg delta a ‘β’ yw'r llythyren Roeg beta.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan y cyrff yma:
https://111.wales.nhs.uk/encyclopaedia/t/article/thalassaemia/