Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd y geg ymysg oedolion

Cyd-destun strategol

Ystyriwch y cyd-destun strategol cenedlaethol ar gyfer blaenoriaethu camau gwella yn y maes hwn (ar y cyd â chynllun blynyddol eich bwrdd iechyd a chynllun ardal y bwrdd partneriaeth rhanbarthol).  Mae pwysigrwydd strategol pwnc penodol yn allweddol wrth feddwl am sut mae ein gweithredoedd yn cyd-fynd â mentrau a pholisïau lleol neu genedlaethol i ddarparu effeithiau cyfunol a mesuradwy ar iechyd y boblogaeth.

  • Mae iechyd y geg yn rhan allweddol o iechyd a llesiant cyffredinol person.
  • Dengys tystiolaeth gan raglen Epidemioleg Deintyddol Cymru fod anghydraddoldebau o ran iechyd y geg yn bodoli ers y blynyddoedd cynnar
  • Gall pydredd dannedd gael effaith gydol oes gan fod iechyd deintyddol gwael yn ystod plentyndod yn arwydd o iechyd deintyddol gwael pan fydd rhywun yn oedolyn.
  • Pobl sy’n byw mewn ardaloedd sy’n cael eu disgrifio fel ardaloedd dan anfantais gymdeithasol ac economaidd yn aml sydd fwyaf mewn perygl o gael iechyd y geg gwael.
  • Mae atal pydredd dannedd, clefyd y deintgig a chanser y geg yn hollbwysig ar gyfer ceg iach (Delivering Better Oral Health) (Saesneg yn unig)
  • Amlinellodd Llywodraeth Cymru gyfeiriad strategol i wella iechyd y geg yn Cymru Iachach: Ymateb y Gwasanaethau Deintyddol ac Iechyd y Geg (Llywodraeth Cymru 2018).
  • Mae angen dulliau amlweddog i wella iechyd y geg y boblogaeth, a strategaeth sy’n dylanwadu ar benderfynyddion iechyd ehangach ac sy’n rhoi sylw i anghydraddoldebau iechyd y geg. Bydd clystyrau yn elwa ar gyngor arbenigol ar iechyd deintyddol y cyhoedd wrth iddynt lunio cynlluniau i wella iechyd y geg ymysg y boblogaeth leol.

Dadansoddiadau data

Ystyriwch ddangosyddion ystadegol a thystiolaeth arall am anghenion y boblogath er mwyn cymharu eich sefyllfa chi ag eraill, o fewn a thu allan i'ch bwrdd iechyd (lle bo'n bosibl).  Os yw'n berthnasol, ystyriwch unrhyw ofynion data lleol ychwanegol a allai dyfrannu at benderfyniad gwybodus ar weithredu.

  • Dangosydd: Disgrifiad o ddangosydd a argymhellir yn ymwneud â'r pwnc hwn, a fyddai'n llywio asesiad o anghenion y boblogaeth.
  • Ffynhonnell y data a'r ddolen: Pwy sy'n cynhyrchu'r dadansoddiad a ble i ddod o hyd i'r dadansoddiad mwyaf cyfredol ar eu gwefan (DS efallai na fydd y dadansoddiad diweddaraf yn defnyddio'r data mwyaf diweddar).
  • Dolen dogfennaeth: Ble i ddod o hyd i gyngor cyffredinol ar ddehongli'r dadansoddiad e.e. beth sydd wedi'i gynnwys/ heb ei gynnwys, unrhyw gafeatau, ac ati.

Dangosydd:

Nifer yr achosion o ddannedd wedi pydru, ar goll neu wedi'u llenwi (%)

Ffynhonnell y data a'r ddolen:

Rhaglen Epidemioleg Ddeintyddol yng Nghymru

Dolen i'r ddogfennaeth:

Mae'r ffynhonnell ddata hon yn cynnwys adroddiadau sy'n rhoi cyd-destun

Camau gwella

Mae nodi camau blaenoriaeth yn cynnwys ceisio a gwerthuso tystiolaeth ar opsiynau gwella effeithiol a chost-effeithiol. Mae'r opsiynau isod yn fan cychwyn ar gyfer ystyried ymyriadau ar lefel practis, lefel clwstwr/ cydweithredfa proffesiynol neu draws-glwstwr. Mae cyfansoddiad eich clwstwr a'r rhanddeiliaid rydych chi'n gweithio gyda nhw yn debygol o ddylanwadu ar y math o gamau rydych chi'n eu cymryd.

Gwella mynediad I wasanaethau deintyddol y GIG

  1. Yn unol â Rhaglen Ddiwygio y Gwasanaeth Deintyddol Cyffredinol (GDC), mae cefnogi’r gwaith o gomisiynu’n lleol yn gwella mynediad a mynediad teg mewn ardaloedd o amddifadedd. Gweithio gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol a’r gwasanaethau deintyddol i wella mynediad teg at ofal deintyddol. 
    2) Cefnogi gwasanaethau deintyddol gofal sylfaenol i feddu ar ethos sy’n canolbwyntio ar atal a chanlyniadau. 
    3) Darparu gwybodaeth gyhoeddus hygyrch am gael mynediad i ofal deintyddol brys yn lleol (drwy 111 neu’r llinell gymorth leol). 
    4) Annog a hwyluso’r broses o fynychu apwyntiadau rheolaidd ar ôl derbyn gofal brys; mae canllawiau NICE Oral health promotion in the community (QS139)  (Saesneg yn unig) yn argymell y dylai’r gwasanaethau deintyddol sy’n darparu gofal brys i bobl heb dîm deintyddol rheolaidd roi gwybodaeth am fuddiannau mynychu apwyntiadau gofal arferol a sut i ddod o hyd i bractis deintyddol lleol.

Sicrhau mai iechyd y geg yw un o’r prif flaenoriaethau iechyd a llesiant

NICE Public Health Guidance 55:  (Saesneg yn unig) Iechyd y Geg: Mae awdurdodau lleol a phartneriaid yn argymell y dylai:

1) iechyd y geg fod yn un o elfennau craidd yr asesiad o anghenion iechyd strategol a’r strategaethau iechyd a llesiant.  
2) pob polisi iechyd a llesiant ac atal clefydau i oedolion (gan gynnwys strategaethau llywodraeth leol, iechyd a gofal cymdeithasol) gynnwys cyngor a gwybodaeth am iechyd y geg, gan gynnwys:

  • Asesiadau iechyd a gofal cymdeithasol
  • Gofal a ddarperir gartref ac mewn gwasanaethau gofal i oedolion
  • Diogelu oedolion lleol
  • Maetheg ac iechyd a llesiant
  • Polisïau bwyd, diod a byrbrydau lleol mewn amrywiaeth o leoliadau

Creu strategaethau iechyd y geg dy’n seiliedig ar asesiad o anghenion iechyd y geg I ganfod y grwpiau sydd fwyaf mewn perygl o gael iechyd y geg gwael

NICE Public Health Guidance 55: (Saesneg yn unig) Iechyd y Geg: Mae awdurdodau lleol a phartneriaid yn argymell y dylid:

1) casglu data ar anghenion iechyd y geg o amrywiaeth o ffynonellau data er mwyn canfod y grwpiau sydd fwyaf mewn perygl o gael iechyd y geg gwael a sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys mewn asesiad o anghenion iechyd y geg.  
2) cynnal asesiad o anghenion iechyd y geg fel rhan o brosesau cynllunio cylchol, ac anelu at wella iechyd y geg a lleihau anghydraddoldebau iechyd. 
3) datblygu strategaethau iechyd y geg sy’n:

  • amlinellu sut i roi sylw i anghenion iechyd y geg y boblogaeth leol yn gyffredinol (dulliau cyffredinol) a’r grwpiau a ganfuwyd eu bod fwyaf mewn perygl o gael iechyd y geg gwael (dulliau wedi’u targedu)
  • canfod a gweithio mewn partneriaeth â phobl sydd mewn sefyllfa i wella iechyd y geg yn eu cymunedau
  • cynnwys cynigion a darparu dulliau monitro a gwerthuso, gan gynnwys yr hyn sy’n gweithio i bwy, pryd ac ym mha amgylchiadau

Sicrhau bod amgylchedd gwasanaethau cyhoeddus yn hybu iechyd y geg

NICE Public Health Guidance 55: (Saesneg yn unig)  Iechyd y Geg: Mae awdurdodau lleol a phartneriaid yn argymell y dylai:

1) pob gwasanaeth cyhoeddus hybu iechyd y geg drwy:

  • Sicrhau bod dŵr yfed ar gael am ddim
  • Darparu dewis o fwydydd, diodydd (dŵr neu laeth) a byrbrydau (gan gynnwys ffrwythau ffres) heb siwgr, gan gynnwys mewn unrhyw beiriannau gwerthu ar safleoedd
  • Annog a chefnogi bwydo ar y fron

Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau’r sector cyhoeddus megis: canolfannau hamdden, canolfannau cymunedol neu galw-i-mewn; meithrinfeydd a chanolfannau i blant; gwasanaethau eraill y blynyddoedd cynnar (gan gynnwys y gwasanaethau a ddarperir yn ystod beichiogrwydd ac i rieni newydd); ysgolion; a banciau bwyd.
2) 'dulliau cyflawni' awdurdodau lleol eraill gael eu defnyddio i roi sylw i iechyd y geg a phenderfynyddion iechyd cymdeithasol ehangach, er enghraifft penderfyniadau cynllunio lleol ar gyfer safleoedd bwyd brys. 
3) dulliau o gysylltu â sefydliadau lleol mewn sectorau eraill (er enghraifft, siopau lleol ac archfarchnadoedd) gael eu defnyddio i hybu iechyd y geg. Gallai hyn fod yn rhan o ddull ehangach i hybu ffordd o fyw iachach gan gynnwys cynorthwyo pobl i leihau’r defnydd o dybaco ac alcohol.

Sicrhau bod staff iechyd a gofal cymdeithasol ar y rheng flaen yn gallu rhoi cyngor ar bwysigrwydd iechyd y geg

NICE Public Health Guidance 55:  (Saesneg yn unig) Iechyd y Geg: Mae awdurdodau lleol a phartneriaid yn argymell y dylai:

1) manylebau’r gwasanaeth gynnwys gofyniad i staff iechyd a gofal cymdeithasol y  rheng flaen dderbyn hyfforddiant mewn hybu iechyd y geg.  
2) hyfforddiant ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen gael ei gomisiynu’n rheolaidd. 
3) staff iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen ddeall y cysylltiad rhwng anghydraddoldebau iechyd ac iechyd y geg ac anghenion y grwpiau sydd fwyaf mewn perygl o gael iechyd y geg gwael. 
4) staff iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen allu cynghori gofalwyr ar sut i ddiogelu a gwella iechyd y geg a hylendid y rhai maent yn gofalu amdanynt.

Darparu hyfforddiant mewn iechyd y geg i fyfyrwyr a staff iechyd a gofal cymdeithasol yw prif elfennau y rhaglenni cenedlaethol i wella iechyd y geg sef  Cynllun Gwên a Gwên Am Byth (a ddarperir gan Wasanaethau Deintyddol Cymunedol GIG Cymru).

Cynnwys ffyrdd o hybu iechyd y geg mewn gwasanaethau presennol ar gyfer pob oedolyn sydd fwyaf mewn perygl o gael iechyd y geg gwael

NICE Public Health Guidance 55:  (Saesneg yn unig) Iechyd y Geg: mae awdurdodau lleol a phartneriaid yn argymell y dylid adolygu manylebau gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol (gan gynnwys gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a’r rhai sy’n cefnogi pobl sy’n byw’n annibynnol yn y gymuned) er mwyn sicrhau bod y canlynol yn cael eu cynnwys:

  • gofyniad i hybu ac i amddiffyn iechyd y geg yng nghyd-destun iechyd a llesiant cyffredinol 
  • asesu iechyd y geg mewn cynlluniau gofal, yn unol â’r polisïau diogelu, gan gynnwys atgyfeirio, neu roi cyngor i fynd at ddeintydd neu wasanaeth clinigol arall 
  • sicrhau bod gofal iechyd y geg yn rhan integrol o gynllunio gofal
  • darparu cymorth i gynorthwyo pobl allu parhau â hylendid y geg da (gan gynnwys rhoi cyngor ar ddeiet) 
  • hyfforddi staff mewn sut i hybu iechyd y geg, yn ystod hyfforddiant sefydlu a’u diweddaru’n rheolaidd

Dyma nodau a gweithgareddau Gwên Am Byth, ar gyfer pobl hŷn dibynnol.

Comisiynu gwasanaethau hybu iechyd y geg wedi’u teilwra ar gyfer oedolion sydd fwyaf mewn perygl o gael iechyd y geg gwael

NICE Public Health Guidance 55:  (Saesneg yn unig) Iechyd y Geg: Mae awdurdodau lleol a phartneriaid yn argymell y dylid:

1) Darparu ymyriadau wedi’u teilwra i helpu pobl sydd fwyaf mewn perygl o gael iechyd y geg gwael ac sy’n byw’n annibynnol yn y gymuned. Gallai hyn gynnwys gwasanaethau allgymorth, er enghraifft, pobl sy’n ddigartref neu sy’n newid lleoliad yn aml, megis cymunedau teithwyr. 
2) Sicrhau bod y gwasanaethau yn darparu cyngor ac ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i hybu ac i ddiogelu iechyd y geg yn unol â Delivering Better Oral Health. (Saesneg yn unig)
3) Sicrhau bod llwybrau gofal lleol yn annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau deintyddol.

Cynnwys iechyd y geg yng nghynlluniau gofal pobl sy’n cael cymorth iechyd neu ofal cymdeithasol ac sydd fwyaf mewn perygl o gael iechyd y geg gwael

Safonau Ansawdd NICE [QS139]: Mae ‘hybu iechyd y geg yn y gymuned’ (QS139) (Saesneg yn unig) yn argymell y dylid cynnwys iechyd y geg yng nghynlluniau gofal pobl sy’n derbyn cymorth iechyd neu ofal cymdeithasol ac sydd fwyaf mewn perygl o gael iechyd y geg gwael er mwyn helpu i sicrhau bod anghenion perthnasol yn derbyn sylw. Gallai hyn gynnwys cymorth dyddiol i gynorthwyo pobl gynnal hylendid y geg da a’u hatgyfeirio at wasanaethau deintyddol os bydd angen.

Dyma nodau a gweithgareddau Gwên Am Byth, ar gyfer pobl hŷn dibynnol.

Hybu iechyd  y geg yn y gweithle

 NICE Public Health Guidance 55: (Saesneg yn unig) Iechyd y Geg: Mae awdurdodau lleol a phartneriaid yn argymell y dylid:

1) Gweithio gyda gwasanaethau iechyd galwedigaethol ac adnoddau dynol i hybu ac i amddiffyn iechyd y geg gan ddefnyddio Delivering Better Oral Health. (Saesneg yn unig)  Dylai hyn fod yn rhan o’r ymdrech i wella iechyd a llesiant cyffredinol yn y gwaith a dylid ei deilwra i gyd-fynd ag anghenion lleol.  
2) Ystyried ffyrdd o godi ymwybyddiaeth o’r wybodaeth a’r cyngor sydd ar gael am iechyd y geg sy’n seiliedig ar dystiolaeth a’r ffyrdd o wella mynediad at wasanaethau deintyddol. 
3) Ystyried rhoi amser o’r gwaith i bobl gael mynd at y deintydd heb golli cyflog. 
4) Sicrhau bod gwybodaeth ar gael i staff am wasanaethau deintyddol lleol ac am ganllawiau iechyd y geg cenedlaethol. 
5) Sicrhau bod y gweithle yn hybu iechyd y geg

Nod y rhaglen Cymru Iach ar Waith yw cefnogi ac annog cyflogwyr i greu amgylchedd gweithio iach, ac i gymryd camau gweithredu i wella iechyd a llesiant y staff.

Diweddarwyd diwethaf 15/06/2024