Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â Mesurau Canlyniadau

10/12/20
Beth yw'r gwaith yn y maes hwn?

Mae fframwaith Cymru gyfan ar gyfer defnyddio offer canlyniadau yn rheolaidd mewn gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu wedi’i ddatblygu

Cam I – Profi sut i gyflwyno offer mesur canlyniadau i arferion gwaith bob dydd gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru Gwnaed yr ymchwil gyda chroestoriad eang o wasanaethau iechyd meddwl a oedd yn cynnwys Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed, cleifion mewnol acíwt sy’n oedolion, cleifion mewnol acíwt sy’n oedolion hŷn, uned diogelwch isel, uned diogelwch canolig, tîm iechyd meddwl cymunedol, tîm iechyd meddwl cymunedol oedolion hŷn a gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol.

Cam II – Profi’r hyn a ddysgwyd o Gam I i greu canllaw ar sut i gyflwyno ac ymgorffori offer canlyniadau yn effeithiol ym mhob gwasanaeth iechyd meddwl yng Nghymru

Cam III – Hyfforddi Gwasanaethau Iechyd Meddwl yng Nghymru yn ein dull

10/12/20
Gyda phwy mae'r tîm yn gweithio?

Mae’r tîm yn gweithio ochr yn ochr â defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, cydweithwyr yn y trydydd sector, Llywodraeth Cymru ac iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru a Diverse Cymru.

10/12/20
Beth yw'r camau nesaf?

Mae'r tîm yn gweithio ar Gam III lle maent yn hyfforddi cynrychiolwyr o bob tîm iechyd meddwl ac anabledd dysgu o bob bwrdd iechyd yng Nghymru yn y dull offer Mesur Canlyniadau.

10/12/20
Gyda phwy y dylwn gysylltu?

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Sarah James, Rheolwr Gwelliant, Sarah-Jane.James@wales.nhs.uk