Neidio i'r prif gynnwy

Hanes – Ein taith a 1000 o Fywydau

Ail-lansiwyd Gwelliant Cymru ym mis Tachwedd 2019. Ei enw’n flaenorol oedd 1000 o Fywydau – Gwasanaeth Gwella, a dyma oedd y gwasanaeth gwelliant cenedlaethol ar gyfer GIG Cymru ers 11 mlynedd. Rydym ni’n ail-feddwl sut rydym ni’n helpu sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru i wella beth maen nhw’n ei wneud a sut maen nhw’n ei wneud.

Yn ystod 2019, cynhaliom ymchwil o ddeall beth yr oedd iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ei eisiau o wasanaeth gwelliant. Ar ôl adolygu’r adborth, dechreuom broses ddatblygu cyffrous o’n brand a’n gwasanaeth er mwyn cyflawni Cymru iachach gyda’n gilydd.

Rydym ni’n ailfeddwl sut rydym ni’n cefnogi sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i wella beth maen nhw’n ei wneud a sut maen nhw’n ei wneud. Bydd hyn yn cynnwys:

  • arwain gwelliant, gan ddefnyddio fframwaith Gwelliant Cymru a Q Lab Cymru*, rydym ni’n cyflwyno cyfres o raglenni Cymru gyfan Gwelliant Cymru.
  • mewnosod sgiliau gwelliant trwy ein Hacademi Gwelliant Cymru. Yng ngham nesaf y daith gwelliant, mae ein Hacademi yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau, offer, hyfforddwyr a chynghorwyr.
  • hyrwyddo gwelliant - bod yn llais dros welliant yng Nghymru, darparu llwyfan i rannu dysgu a straeon gwelliant, yn ogystal â chyfleoedd i rwydweithio a chymorth.

Byddwn ni’n parhau i weithio’n agos â’n partneriaid a’n cydweithwyr i lywio’r daith hon wrth i ni drosglwyddo i’r weithrediaeth newydd y GIG.

*mewn partneriaeth â Q yn y Sefydliad Iechyd

Hanes

Dechreuodd ein sefydliad yn 2008, fel ymgyrch diogelwch cleifion gyda byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG ledled Cymru. Diben y fenter gwelliant dwy flynedd oedd achub 1000 yn fwy o fywydau ac atal 50,000 achos o niwed yn GIG Cymru. Dangosodd data a ddadansoddwyd yn 2010 ei fod yn cyrraedd y nodau hyn.

Ar ddiwedd yr ymgyrch yn 2010, gwnaed penderfyniad i ddatblygu’r brand i fod yn ‘1000 o Fywydau a Mwy, rhaglen genedlaethol i wella ansawdd gofal iechyd yng Nghymru a mewnosod y fethodoleg a ddefnyddiwyd gan yr ymgyrch mewn meysydd newydd.

Yn ddiweddarach, yn 2013, datblygodd y brand ymhellach i fod yn ‘1000 o Fywydau - Gwasanaeth Gwella’ - tîm gwella ansawdd cenedlaethol Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cefnogi GIG Cymru a’i staff i wella canlyniadau i bobl sy’n defnyddio ei wasanaethau. Darllenwch fwy am rai o’n cyflawniadau fel tîm, yma.

Yn ystod 2019, cynhaliom ymchwil i ddarganfod beth yr oedd iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ei eisiau a’i angen o’r gwasanaeth gwelliant. O ganlyniad, dechreuom broses ddatblygu cyffrous ar gyfer ein brand a’n gwasanaeth. Ym mis Tachwedd 2019, fe wnaethon ni ail-lansio fel Gwelliant Cymru a byddwn ni’n parhau i drawsnewid i’n brand newydd.

Byddwn ni’n symud i’r wefan newydd hon dros y misoedd nesaf. Yn y cyfamser, ewch i safle 1000 o Fywydau – Gwasanaeth Gwella