Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Gwella Ansawdd
Gwelliant Cymru
Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Gwella Ansawdd
Mae Dominique yn arwain y gwaith o gefnogi sefydliadau i ddatblygu systemau dysgu, sydd wedi’u seilio ar welliannau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac ymyriadau galluogrwydd a nodwyd trwy rwydweithiau cymheiriaid y DU a rhyngwladol. Mae’r Bartneriaeth Gofal Diogel yn arloesi’r dull hwn yng Nghymru. Mae hi hefyd yn goruchwylio ein portffolios gwella Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu.
Dechreuodd Dominique weithio ym maes Gwelliant yng Nghymru yn 2003, ac mae wedi datblygu cyfoeth o arbenigedd ar ôl gweithio yn y GIG ers bron i 20 mlynedd. Mae’n Gynghorydd Gwelliant cymwys gyda’r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd, mae wedi cwblhau hyfforddiant DMAIC Sefydliad Juran ac mae ganddi radd feistr mewn Astudiaethau Proffesiynol.
Mae Dominique yn teimlo’n angerddol dros feithrin rhwydweithiau cryf i sicrhau bod gwelliant yn llwyddo.