Gall cyflogwyr sy’n rheoli straen yn y gweithle yn weithredol weld buddion gan gynnwys:
Straen yw ymateb y corff i fygythiad neu sefyllfa (straenachoswyr). Gall effaith gronnus llawer o straenachoswyr bach arwain at straen cronig.
Gall symptomau straen gynnwys:
Symptomau Corfforol | Symptomau Meddyliol | Newidiadau mewn Ymddygiad |
---|---|---|
Cur pen neu bendro |
Anhawster canolbwyntio |
Bod yn bigog a swta |
Tyndra neu boen yn y cyhyrau | Ei chael hi'n anodd gwneud penderfyniadau | Cysgu gormod neu ddim digon |
Problemau stumog | Teimlo bod popeth yn drech na chi | Bwyta gormod neu ddim digon |
Poen yn y frest neu guriad calon cyflymach | Poeni’n gyson | Osgoi rhai mannau neu bobl |
Problemau rhywiol | Bod yn anghofus | Yfed neu ysmygu mwy |
Pan na roddir sylw i straen, gall arwain at broblemau iechyd difrifol, gan gynnwys gorbryder, iselder a gorweithio. I gyflogwyr, mae deall yr achosion hyn a mynd i'r afael â nhw yn hanfodol er mwyn creu amgylchedd gwaith iach.
Gall straenachoswyr yn y gweithle gynnwys:
Nid yw mynd i'r afael â straen yn y gweithle o reidrwydd yn gofyn am newidiadau mawr i'ch prosesau busnes. Gall newidiadau bach, rhagweithiol wneud gwahaniaeth mawr i lesiant gweithwyr. Dyma rai enghreifftiau o strategaethau y gall cyflogwyr eu rhoi ar waith i leihau straen a gwella iechyd yn y gweithle:
Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)
Bydd Pecynnau Cymorth Siarad am Straen yn helpu rheolwyr i siarad â gweithwyr fel rhan o’u hymagwedd gyffredinol at atal a rheoli straen sy’n gysylltiedig â gwaith.
Cyflogwyr y GIG
Mae Cyflogwyr y GIG yn darparu canllawiau ymarferol ar atal a rheoli straen yn y gwaith sydd â’r nod o alluogi cyflogwyr o fewn sefydliadau iechyd i weithio mewn partneriaeth â chyrff undebau llafur a chynrychiolwyr gweithwyr i nodi arwyddion straen a rhoi mesurau ar waith i atal a lleihau’r achosion a’r risgiau sy'n gysylltiedig â straen yn y gweithle.
6 Tachwedd 2024: Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Straen