Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi Gweithwyr â Diabetes: Canllaw'r Gweithle

Mae diabetes yn bryder cynyddol yn y DU, ac mae’n effeithio ar lawer o oedolion o oedran gweithio. Fel cyflogwr, mae deall sut y gall diabetes effeithio ar eich gweithlu yn hanfodol i greu amgylchedd cefnogol. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod am gyffredinrwydd, risgiau, symptomau a goblygiadau diabetes yn y gweithle - a sut i gefnogi'ch gweithwyr.

 Diabetes yng Nghymru

  • Mae 220,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes
  • Erbyn 2035 rhagwelir y bydd un o bob 11 oedolyn yn byw gyda'r cyflwr.
  • Mae gan 90 y cant o'r rhai sy'n byw gyda diabetes yng Nghymru ddiabetes Math 2, cyflwr difrifol sydd weithiau’n gallu bod yn gyflwr gydol oes a all achosi problemau iechyd mawr.

Effaith ar Salwch ac Absenoldeb

Mae ymchwil yn dangos fod gweithwyr â diabetes yn fwy tebygol o brofi cyfraddau uwch o absenoldeb oherwydd salwch. Mae hyn yn aml oherwydd yr amser sydd ei angen ar gyfer apwyntiadau meddygol ac effeithiau rheoli'r cyflwr. Yn ogystal, gall blinder a symptomau eraill sy'n gysylltiedig â diabetes effeithio ar berfformiad gwaith a chynhyrchiant.

Cefnogi Gweithwyr â Diabetes

Ffactorau Risg ar gyfer Diabetes

Mae cysylltiad agos rhwng diabetes - yn enwedig diabetes Math 2- a ffactorau ffordd o fyw y gall arferion yn y gweithle ddylanwadu ar lawer ohonynt. Mae ffactorau risg allweddol yn cynnwys:

  • Oedran: Mae risg yn cynyddu gydag oedran, yn enwedig ar ôl 40.
  • Pwysau Mae bod dros bwysau neu'n ordew yn cynyddu'r tebygolrwydd o ddatblygu diabetes Math 2 yn sylweddol.
  • Ethnigrwydd: Mae pobl o gefndiroedd De Asiaidd, Affricanaidd-Caribïaidd a Du Affricanaidd mewn mwy o berygl.
  • Hanes teuluol: Gall hanes teuluol o ddiabetes gynyddu risg, yn enwedig ar gyfer Math 2.

Symptomau a Goblygiadau Diabetes

Gall symptomau diabetes amrywio ond maent yn aml yn cynnwys:

  • Mwy o syched a phasio dŵr yn aml
  • Blinder eithafol
  • Golwg aneglur
  • Clwyfau sy'n gwella'n araf

Gall diabetes weithiau arwain at gymhlethdodau yn y gweithle, yn enwedig os nad yw lefelau’r siwgr yn y gwaed yn cael eu rheoli'n dda. Gall y cymhlethdodau hyn gynnwys cyfnodau o hypoglycemia (lefel siwgr isel yn y gwaed), a all achosi pendro, dryswch a diffyg canolbwyntio. Mewn achosion mwy difrifol, gall gweithwyr brofi hyperglycemia (lefel siwgr uchel yn y gwaed), a all arwain at gymhlethdodau iechyd hirdymor os na chaiff ei reoli.

Adnoddau Defnyddiol

I gael rhagor o wybodaeth am reoli diabetes, cefnogi gweithwyr a chodi ymwybyddiaeth yn y gweithle, edrychwch ar yr adnoddau canlynol:

  • Diabetes UK Cymru – Mae’n cynnig gwybodaeth ac adnoddau cynhwysfawr i’r rhai sy’n byw gyda diabetes yng Nghymru.
  • Diabetes UKSupporting someone with diabetes at work: A guide for employers and colleagues – Mae’n cynnig adnoddau a chanllawiau manwl ar gefnogi pobl â diabetes fel cyflogwr. (Saesneg yn Unig)
  • Canllaw Diabetes y GIG - Mae’n darparu mewnwelediad i symptomau, triniaeth a rheoli diabetes.
  • Diabetes UK - Know Your Risk - Offeryn ar-lein i helpu i asesu risg unigol o gael diabetes Math 2.
  • Pwysau Iach Byw'n Iach  - Mae’n cynnig ystod o wybodaeth ac adnoddau sydd wedi'u teilwra i anghenion unigolyn. Mae'r offeryn 'Dod o Hyd i’ch Siwrnai' yn galluogi pobl i ddod o hyd i'r cynnwys cywir ar eu cyfer nhw eu hunain er mwyn rhoi'r siawns orau o lwyddo iddynt.