Neidio i'r prif gynnwy

Diabetes yn y Gweithle

Cyflwr hirdymor cyffredin yw diabetes, sy'n effeithio ar allu'r corff i brosesu siwgr neu glwcos. Drwy reoli'r clefyd yn ofalus gall pobl sydd â diabetes barhau i weithio a pharhau i fyw bywydau llawn, iach a gweithgar.

Ni all pobl sydd â diabetes atal lefelau glwcos yn eu gwaed rhag mynd yn rhy uchel. Cymerir inswlin er mwyn adfer lefelau hormonau yn y corff sy'n absennol, neu nad ydynt yn gweithio'n iawn.

Mathau o Ddiabetes
  • O ran diabetes Math 1 ni all y corff gynhyrchu unrhyw inswlin. Mae diabetes Math 1 yn cyfrif am tua 10 y cant o'r holl oedolion sydd â diabetes a chaiff ei drin drwy bigiadau dyddiol o inswlin, deiet iach a gweithgarwch corfforol rheolaidd. Gall diabetes Math 1 ddatblygu ar unrhyw oedran ond fel arfer ymddengys cyn 40 oed ac yn enwedig yn ystod plentyndod. Dyma'r math mwyaf cyffredin o ddiabetes a welir yn ystod plentyndod.
  • O ran diabetes Math 2 nid oes digon o inswlin (neu nid yw'r inswlin yn gweithio'n iawn), felly dim ond yn rhannol y caiff y celloedd eu datgloi ac mae glwcos yn cronni yn y gwaed. Fel arfer mae diabetes Math 2 yn ymddangos ymhlith pobl dros 40 oed, ond ymhlith pobl o dras De Asiaidd, sy'n wynebu mwy o risg, mae'n aml yn ymddangos ymhlith rhai 25 oed ymlaen. Mae'n dod yn gynyddol gyffredin ymhlith plant, y glasoed a phobl ifanc o bob ethnigrwydd. Mae diabetes Math 2 yn cyfrif am rhwng 85 a 95 y cant o'r holl bobl sydd â diabetes a chaiff ei drin drwy ddeiet iach a mwy o weithgarwch corfforol. At hynny, mae angen meddyginiaeth a/neu inswlin yn aml.
Effeithiau Diabetes ar Unigolion a Chyflogwyr
  • Yn 2013, roedd 7% o oedolion yn cael triniaeth oherwydd diabetes; ond amcangyfrifir bod gan dros 850,000 o bobl ddiabetes nad yw erioed wedi cael diagnosis.
  • Mae gweithwyr sydd â diabetes heb ddiagnosis yn fwy tebygol o fod yn absennol am gyfnodau estynedig oherwydd eu hiechyd.
Rheoli Diabetes

Gall cyflogwyr wella iechyd cyflogeion drwy roi trefniadau ar waith i staff sydd â diabetes, a hyrwyddo buddiannau ffordd o fyw iach yn y gweithle er mwyn helpu'r gweithlu cyfan i fod yn iach yn y gweithle.

Gall rhai pethau defnyddiol i'w hystyried gynnwys:

  • Hyrwyddo a chefnogi bwyta'n iach a gweithgarwch corfforol yn y gweithle er mwyn lleihau nifer y cyflogeion sy'n datblygu diabetes.
  • Ystyried cyflwyno system o oruchwyliaeth iechyd neu sgrinio hybu iechyd er mwyn helpu i nodi rhybuddion cynnar o ddiabetes a chodi ymwybyddiaeth o ddiabetes; yn enwedig math 2.
  • Gan mai cyflwr gydol oes yw diabetes, mewn rhai achosion gellir ei ddosbarthu'n anabledd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
  • Cadarnhau a oes gan unrhyw staff ddiabetes a rhoi trefniadau syml ar waith i sicrhau y gallant reoli eu cyflwr yn effeithiol yn y gweithle, megis:
  1. Siarad â chyflogeion sydd â diabetes er mwyn canfod sut maent yn rheoli eu cyflwr ac a oes angen unrhyw addasiadau arnynt megis amser penodol i gael seibiant neu fan preifat lle y gallant roi pigiadau o inswlin iddynt hwy eu hunain.
  2. Mewn cydweithrediad â'r aelod o staff rhoi hyfforddiant i gydweithwyr ar ffordd o adnabod cyfnod hypoglymcemig ac unrhyw gamau sydd angen eu cymryd.
  3. Sicrhau bod swyddogion cymorth cyntaf yn y gweithle yn ymwybodol o'r unigolion sydd â diabetes.
  4. Mae'n rhaid i bobl sydd â diabetes hysbysu'r DVLA os ydynt yn dal trwydded yrru Grŵp 1 (ceir a beiciau modur) neu Grŵp 2 (bws neu lori). Dylai cyflogwyr gadarnhau eu hunain a yw cyflogeion yn gyrru at ddibenion gwaith.

Cyfeiriadau: NHS Choices (2014), Diabetes UK, Key statistics on diabetes (2010), Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2012-2013 (2013), Iechyd Cyhoeddus Cymru, Diabetes (2012)

Gwasanaethau Cymorth ac Adnoddau sydd ar gael

Gwasanaethau Cymorth

  • Mae Diabetes UK yn rhoi gwybodaeth, help a chymorth gan gymheiriaid, fel y gall pobl sydd â diabetes reoli eu cyflwr yn effeithiol.
  • Mae Mynediad at Waith yn rhoi cyngor a chymorth grant i helpu i gyflogi staff newydd neu gadw staff mewn gwaith, gydag anabledd, cyflwr iechyd neu iechyd meddwl. Ffoniwch 0345 268 8489 neu ewch i wefan GOV.UK am ragor o wybodaeth.

Canllawiau

Y Wybodaeth Ddiweddaraf a Gwybodaeth Bellach