“Mae Bluestone yn deall, trwy ofalu am les ei bobl a thrwy greu gweithlu hapus, y byddan nhw, yn eu tro, yn gofalu am y gwesteion sy’n aros, yn creu eiliadau a phrofiadau cofiadwy ac yn annog ymwelwyr i ddychwelyd.”
Mae cyrchfan gwyliau Bluestone wedi'i leoli yn Sir Benfro, gan ddenu dros 150,000 o westeion sy'n aros yn flynyddol ac mae’n cyflogi dros 700 o staff mewn ystod eang o wahanol alwedigaethau. Mae'r busnes yn ymfalchïo mewn creu profiad unigryw a gwahanol i westeion, wedi'i ddarparu gan dîm eithriadol. Gydag ethos ‘Mae Pob Un yn Cyfri’, mae Bluestone yn deall, trwy ofalu am les ei bobl a thrwy greu gweithlu hapus, y byddan nhw, yn eu tro, yn gofalu am y gwesteion sy’n aros, yn creu eiliadau a phrofiadau cofiadwy ac yn annog ymwelwyr i ddychwelyd a rhoi sylwadau cadarnhaol.
Mae gan bob aelod o’r tîm rôl mor bwysig i’w chwarae yng ngweithrediad dyddiol Bluestone a thrwy ganolbwyntio ar iechyd a lles ei bobl, nid yn unig y mae hyn yn lleihau lefelau absenoldeb ond mae hefyd yn meithrin amgylchedd gwaith lle gall unigolion ffynnu a pherfformio ar eu gorau.
Gwnaeth mynd trwy’r broses Cymru Iach ar Waith ddarparu dull cydlynol o ddatblygu Rhaglen Lles Gweithwyr Bluestone unigryw. Trwy feddu ar ddealltwriaeth fwy manwl o’r cysylltiadau amlwg rhwng gwaith ac iechyd a lles ein pobl, roedden ni’n gallu llunio mentrau a strategaethau i wella profiad cyffredinol y gweithwyr.
Elfen bwysig o gefnogaeth fu’r gallu i gael gafael ar wybodaeth ac astudiaethau achos arferion gorau yn hawdd. Gwnaeth ehangu ein dealltwriaeth hefyd o’r gwasanaethau cymorth a’r adnoddau sydd ar gael i helpu i ddatblygu ein dulliau. Hefyd, roedd Cymru Iach ar Waith yn hwyluso cyfleoedd rhwydweithio yn amhrisiadwy ar gyfer ein dysgu a datblygiad ein polisïau a’n dulliau, gan gynnwys gallu estyn allan at rwydwaith Cymru Iach ar Waith i drafod heriau a rhannu syniadau arferion gorau.
Elfen allweddol o’n rhaglen oedd buddsoddi mewn hyfforddiant i reolwyr ddeall ffactorau sy’n cyfrannu at absenoldeb gweithwyr. O ganlyniad, mae rheolwyr lawer yn fwy rhagweithiol wrth wella trefniadau gweithle, er enghraifft, sicrhau bod cyfarfodydd lles wedi’u trefnu, a’u bod mewn gwell sefyllfa i gynorthwyo staff sy’n dychwelyd i’r gwaith o salwch gydag addasiadau i’r gweithle, dychwelyd yn raddol i’r gwaith a mynediad at gymorth galwedigaethol lle bo gofyn.
Gwnaethom flaenoriaethu iechyd meddwl a lles gweithwyr trwy wneud y canlynol:
Gallwn lunio cydberthynas rhwng y nifer cynyddol sy’n defnyddio’r rhaglen gymorth i weithwyr, yn enwedig gwasanaethau cwnsela, a lleihad mewn absenoldebau sy’n ymwneud â straen, iselder a gorbryder. Mae hyn yn dangos bod gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael gwell cefnogaeth yn y gweithle a’u bod yn gallu parhau i fod yn y gwaith yn hytrach na bod yn absennol. Caiff hyn ei hwyluso ymhellach pan fydd rheolwyr yn cyflwyno addasiadau dros dro i gefnogi’r unigolyn lle y bo’n briodol.
Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cyflawni Safon Aur Cymru Iach ar Waith ac mae’r adborth yn ein harolwg ym mis Mehefin 2021 sy’n nodi bod 85% o’n pobl yn credu bod lles gweithwyr yn flaenoriaeth ar gyfer y busnes a bod diwylliant lles cadarnhaol yn brawf o lwyddiant ein Rhaglen Les.