Neidio i'r prif gynnwy

Camau Cynnar gyda'n Gilydd

Mae'r rhaglen Camau Cynnar gyda'n Gilydd yn cefnogi'r heddlu, gwasanaethau carchardai i cydweithio'n aml-asiantaeth (ee gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion, tai, trydydd sector ac ati) ledled Cymru fel y gallant adnabod pobl sy'n agored i niwed, ymyrryd yn gynnar a'u cadw allan o'r system cyfiawnder troseddol, a torri'r cylch cenhedlaeth o droseddu ac yn y pen draw wella eu bywydau.

Mae'r rhaglen yn gwneud hyn yn bennaf trwy hyfforddi staff rheng flaen a staff cyfiawnder troseddol a rhoi'r wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen arnynt i weithio gyda phartneriaid eraill a chynnig cefnogaeth i bobl agored i niwed sydd wedi profi trawma.

Mae 90% o'r galw ar yr heddlu yn faterion cymhleth o ran lles, diogelwch cyhoeddus a bregusrwydd felly maent mewn sefyllfa dda i ymyrryd yn fwy effeithiol a lleihau effaith o Brofiadau Niweidiol adeg Plentyndod thrawma

Rhwydwaith Dysgu ACEs

Datblygwyd rhwydwaith dysgu ACE Camau Cynnar gyda'n Gilydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd, pob un o'r pedwar sefydliad heddlu yng Nghymru a sefydliadau partner allweddol ledled y DU.

Dyluniwyd y Rhwydwaith Dysgu hwn i ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol i'r cyhoedd, gweithwyr proffesiynol a'r Heddlu am y rhaglen Camau Cynnar gyda'n Gilydd a'i waith mewn perthynas รข Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs). Mae'r platfform yn rhannu gwybodaeth ac ymchwil ddefnyddiol am ACEs yn ogystal ag arfer gorau ac adnoddau