Neidio i'r prif gynnwy

Lles Meddwl yng Nghymru

Lles Meddwl yng Nghymru

 

Mae Lles Meddwl yng Nghymru wedi ei ddylunio i gefnogi’r gwaith o gyflawni amcanion yn ymwneud â blaenoriaeth strategol Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gwella lles meddwl a datblygu cadernid a amlinellir yn y Cynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP).

Mae proffil rhyngweithiol lles meddwl yn cyflwyno ystod o ddangosyddion ar les meddwl a sgorau lles meddwl ar gyfer oedolion a phlant oed ysgol uwchradd. Mae’r data’n deillio o arolygon yn cynnwys Arolwg Cenedlaethol Cymru, Arolwg Blynyddol y Boblogaeth a Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion.

 
Negeseuon allweddol

  • Ymddengys bod cyfraddau’r bobl sydd yn nodi bodlonrwydd bywyd uchel, teimlad bod bywyd yn werth chweil a hapusrwydd wedi cynyddu yng Nghymru rhwng 2013 a 2018. Fodd bynnag, mae’r cyfraddau hyn yn aml yn is na’r cyfraddau yn nhair gwlad arall y DU.
  • Nodwyd canrannau uwch o les cadarnhaol ymysg ymatebwyr oedd yn gyflogedig o’u cymharu â rhai di-waith.
  • Nodwyd canrannau is o les meddwl uchel ymysg ymatebwyr oedd yn byw mewn llety wedi ei rentu.
  • Roedd oedolion gwrywaidd yn fwy tebygol o nodi eu bod yn profi lefelau isel o orbryder.
  • Nododd plant oed ysgol uwchradd ym Mro Morgannwg a Gwynedd sgorau cyfartalog uchaf Graddfa Lles Meddwl Byr Warwick-Edinburgh (SWEMWBS).
  • Nododd plant oed ysgol uwchradd iau, bechgyn a phlant â chyfoeth teuluol uchel les meddwl uwch. Dywedodd cyfran uwch o’r plant hyn nad oeddent yn teimlo’n unig yn ystod yr haf. Roeddent hefyd yn fwy tebygol o nodi bodlonrwydd bywyd uchel, a chymorth emosiynol teuluol digonol.
  • Ni ddangosodd cymorth iechyd meddwl ysgolion unrhyw batrwm penodol yn ôl rhyw na chyfoeth teuluol, ond nid oedd dros chwarter y bobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth iechyd meddwl yn yr ysgol.
 


Archwilio’r data ymhellach

Gall y defnyddwyr archwilio’r data ymhellach gyda dadansoddiadau ar gael yn ôl:

  • daearyddiaeth;
  • nodweddion demograffig;
  • amddifadedd;
  • nodweddion economaidd-gymdeithasol;
  • trawsdablu gyda dangosyddion eraill yn ymwneud â llesMae tueddiadau hefyd wedi eu cynnwys ar gyfer canlyniadau cwestiynau ar les personol ar gyfer gwledydd y DU.

Mae’r proffil wedi ei strwythuro gyda tabiau ar gyfer lles personol oedolion; lles personol plant; a thystiolaeth.*

Mae mwy o fanylion am bob siart ar gael trwy’r canllaw technegol integredig, y gellir ei ymestyn, islaw bob siart.

*Bydd y tab tystiolaeth yn cael ei boblogi yn nes ymlaen eleni.
 


Cliciwch yma i weld y cyhoeddiad mewn ffenestr newydd


Cysylltu

Rydym bob amser yn awyddus i wella’r cynnyrch yr ydym yn ei gynhyrchu er mwyn sicrhau eu bod yn gyfeillgar i ddefnyddwyr. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth ar y proffil lles meddwl, cysylltwch â ni trwy anfon ebost: arsyllfaiechydcyhoedduscymru@wales.nhs.uk

Canfod mwy