Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o dueddiadau mewn ffactorau risg ar gyfer clefydau anhrosglwyddadwy

Awduron: Rhys Powell, Publichealthwalesobservatory@wales.nhs.uk 

Diolch yn fawr am ddarparu tystiolaeth a sylwadau ychwanegol i: Clare Withey, Scott Wright, Rhian Hughes, Louisa Nolan, Nathan Lester, Llion Davies, Chris Emmerson, Mary-Ann McKibben, Lorna Bennett, Ilona Johnson, Helen Erswell, Paul Pilkington
 

Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2025

1. Pwrpas 

Mae ffocws yr erthygl hon ar y ffactorau risg ar gyfer clefydau cronig.  Yr erthygl hon yw'r drydedd yn ein cyfres o erthyglau sy'n edrych ar dueddiadau ac amcanestyniadau mewn perthynas â rhai o'r clefydau anhrosglwyddadwy mwyaf cyffredin yng Nghymru. Rydym yn cyflwyno'r rhain gyda'i gilydd, gan fod y ffactorau risg yn gyffredin ar draws mwy nag un clefyd anhrosglwyddadwy yn aml. Yn ogystal â throsolwg o'r tueddiadau, mae'r erthygl hon yn crynhoi gwaith sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r ffactorau risg addasadwy hefyd.

Mae deall ffactorau risg clefydau yn hanfodol ar gyfer creu strategaethau iechyd cyhoeddus effeithiol, hyrwyddo ymddygiad iachach a gwella canlyniadau iechyd. Mae'r erthygl hon yn ystyried ffactorau risg sy'n gysylltiedig ag iechyd a lles gwael, gan ganolbwyntio'n bennaf ar ordewdra. Yn ogystal â gwella lles cyffredinol, gallai gwelliannau yn y mathau hyn o ymddygiad arwain at ostyngiad yng nghyffredinrwydd rhai clefydau anhrosglwyddadwy hefyd, megis diabetes, clefyd cardiofasgwlaidd a chlefyd anadlol. Gallai leihau'r tebygolrwydd o ddatblygu rhai canserau hefyd (Gunter et al. 2024).

Mae'r erthygl hon yn adrodd ar ganrannau a arsylwyd heb eu haddasu ar gyfer newidiadau yn y strwythur oedran. Byddai canrannau wedi’u safoni yn ôl oedran yn darparu cymariaethau tecach dros amser, yn enwedig ar gyfer ymddygiadau sy’n cael eu dylanwadu gan oedran a chânt eu hychwanegu at lawrlwythiadau data yn ddiweddarach. Ar hyn o bryd, cyflwynir canrannau a arsylwyd i amlygu eu heffaith uniongyrchol ar wasanaethau a chynllunio gan eu bod yn cynrychioli'r ganran wirioneddol yn y boblogaeth.

Rydym yn rhagweld y bydd y gyfres hon o erthyglau yn ddefnyddiol i gynllunwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, ac yn wir i unrhyw un sydd â diddordeb mewn amcanestyniadau o glefydau a'u ffactorau risg sylfaenol yn y dyfodol.

Gellir lawrlwytho'r holl ddata o'r erthygl hon ynghyd â rhai dadansoddiadau ychwanegol.

Mae'r erthyglau yn y gyfres yn cynnwys:

 

2. Penawdau 

  • Mae nifer yr oedolion sy’n byw gyda gordewdra yng Nghymru wedi cynyddu 44% yn yr 20 mlynedd diwethaf.(Arolwg Iechyd Cymru, 2003/04 – 2015/16, Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016/17 – 2022/23, Llywodraeth Cymru).
  • Ers 2003/04, mae nifer yr oedolion sy’n byw gyda gordewdra wedi cynyddu o ychydig o dan 1 o bob 5 person, i ychydig dros 1 o bob 4 person yn 2022/23 (Arolwg Iechyd Cymru, 2003/04 – 2015/16, Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016/17 – 2022/23, Llywodraeth Cymru).
  • Mae nifer yr achosion o blant 4-5 oed sy’n byw gyda gordewdra wedi amrywio rhwng tua 11 a 12 y cant ers 2013/14, gydag 11.4% yn byw gyda gordewdra yn 2022/23 (Rhaglen Mesur Plant, Iechyd Cyhoeddus Cymru).
  • Yn ei ganllawiau, amcangyfrifodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr fod salwch sy’n gysylltiedig â gorbwysau a gordewdra wedi costio £6.1 biliwn i’r GIG ledled y DU yn 2014/15, gyda chost gymdeithasol ehangach o £27 biliwn.
  • Rhagwelir y bydd y ffigurau hyn yn cynyddu i £9.7 biliwn a £49.9 biliwn yn y drefn honno erbyn 2050.
  • Nid yw ymddygiadau nad ydynt yn iach yn gwella. Mae hyn yn cynnwys deiet gwael, yfed alcohol ac anweithgarwch corfforol. Mae'r gostyngiad o ran cyffredinrwydd ysmygu wedi arafu.
  • Mae ymddygiadau nad ydynt yn iach yn uwch yn gyffredinol mewn ardaloedd mwy difreintiedig, ac eithrio yfed alcohol.
  • Er efallai bod unigolion sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn yfed llai o alcohol, maent yn tueddu i ddioddef canlyniadau iechyd gwaeth (Lewer et al., 2016).
  • Llwyddodd ymagwedd amlweddog a oedd yn ymwneud ag addysg, rhaglenni, gwasanaethau a deddfwriaeth i leihau cyffredinrwydd ysmygu. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi digwydd i'r un graddau eto ar gyfer ffactorau risg eraill, megis byw gyda gordewdra.

 

Cynnwys 

1. Pwrpas
2. Penawdau
3. Crynodeb
      3.1 Diffiniadau technegol a Chanllawiau'r Prif Swyddog Meddygol
4. Gordewdra
      4.1 Clefydau Anhrosglwyddadwy yn gysylltiedig â gordewdra
      4.2 Costau byw gyda gordewdra a gorbwysau
5. Deiet a'r amgylchedd gordewdra
      5.1 Ffactorau economaidd
      5.2 Ffactorau amgylcheddol
6. Gweithgarwch corfforol
7. Yfed alcohol
8. Ysmygu
9. Ansawdd aer
10. Beth ellid ei wneud
11. Trosolwg o wasanaethau, rhaglenni, gwasanaethau atal a deddfwriaeth yng Nghymru
      11.1 Rhaglenni
      11.2 Gwasanaethau
      11.3 Atal
      11.4 Deddfwriaeth
12. Ansawdd data a dehongli
      12.1 Data arolwg hunan-gofnodedig
      12.2 Arolwg Iechyd Cymru
      12.3 Arolwg Cenedlaethol Cymru
      12.4 Arolwg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
      12.5 Rhaglen Mesur Plant Cymru
      12.6 Ansawdd aer
13. Lawrlwythwch y data
      13.1 Lawrlwythwch y data yn yr erthygl hon – Excel
      13.2  Lawrlwythwch y data o'r erthygl hon gyda dadansoddiadau ychwanegol - CSV

 

3. Crynodeb 

Mae’r adran hon yn cynnwys trosolwg lefel uchel o gyffredinrwydd ffactorau risg clefyd cronig yng Nghymru. Mae adrannau 4 i 9 yn archwilio'r data yn fanylach.

Gellir categoreiddio ffactorau risg yn fras yn rhai y gellir eu haddasu a rhai na ellir eu haddasu.  Gall ffactorau risg y gellir eu haddasu fod yn uniongyrchol o fewn rheolaeth unigolyn, megis gweithgarwch corfforol.  Gallant hefyd gael eu heffeithio gan bolisïau, penderfyniadau neu newid deddfwriaethol ym maes llywodraeth leol neu genedlaethol.  Mae atal a gwella iechyd y cyhoedd yn canolbwyntio'n bennaf ar y ffactorau risg y gellir eu haddasu, a dyma ein ffocws yn yr erthygl hon.

Mae ffactorau risg na ellir eu haddasu, megis oedran, rhyw ac ethnigrwydd, hefyd yn effeithio ar nifer yr achosion o glefydau.  Mae effaith y rhain yn amrywio ar draws clefydau gwahanol. Er na ellir eu haddasu, mae’n ddefnyddiol deall yr amrywiad wrth feddwl am gynllunio gwasanaethau neu gynllunio gwaith ymgysylltu â phoblogaethau yr effeithir arnynt.  Er enghraifft, mae rhaglenni sgrinio poblogaeth yn targedu ystodau oedran penodol. Nid yw'r ffactorau risg na ellir eu haddasu hyn o fewn terfynau’r erthygl hon, ond byddant yn cael eu hystyried yn yr erthyglau clefyd-benodol yn y gyfres hon.

Yn gyffredinol, nid yw ymddygiadau nad ydynt yn iach fel anweithgarwch corfforol, yfed llawer o alcohol a diffyg bwyta ffrwythau a llysiau wedi dangos llawer o welliant ers 2020/21(Tabl 1), ein pwynt data cymharol cynharaf.  Mae gwelliannau o ran cyffredinrwydd ysmygu wedi arafu yn y blynyddoedd diwethaf.

Canran yr oedolion 16 oed neu hŷn yng Nghymru sy’n nodi ymddygiadau iach

Ymddygiad iechyd 2020-21 chwarter 4 Ion-Mawrth 2021 2022/23
Byw gyda gordewdra 24 26
Wedi bwyta dim dognau o ffrwythau a llysiau y diwrnod cynt 6 7
Bwytewch o leiaf 5 darn o ffrwythau a llysiau y diwrnod blaenorol 31 29
Yn gorfforol actif llai na 30 munud yn ystod yr wythnos flaenorol 32 31
Yn gorfforol actif o leiaf 150 munud yn ystod yr wythnos flaenorol 51 55
Cyfartaledd defnydd alcohol wythnosol - dim 20 17
Cyfartaledd defnydd alcohol wythnosol - uwchben y canllawiau 17 17
Ysmygwr presennol 14 13

Tabl 1:  Ychydig o welliant a welwyd mewn ymddygiadau iach yn ystod y blynyddoedd diwethaf; yr unig rai sydd wedi gwella yw gweithgarwch corfforol ac ysmygu.  Fodd bynnag, dylid nodi nad oes yr un o'r newidiadau yn ystadegol arwyddocaol.  Nodyn 1: Gohiriwyd yr arolwg ym mis Mawrth 2020 oherwydd COVID-19.  (Arolwg Cenedlaethol Cymru, canran a arsylwyd,  2016/17 - 2022/23, Llywodraeth Cymru) 

 

Mae bwlch sylweddol a pharhaus yn nifer yr achosion o’r rhai sy’n byw gyda gordewdra a’r ymddygiadau mwyaf afiach rhwng pobl sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru (Ffigurau 1 a 2 yn y drefn honno). Yr unig eithriad i hyn yw yfed alcohol.

 

Canran yr oedolion 16 oed neu hŷn yn yr ardaloedd sydd yn y pumed â’r amddifadedd mwyaf a’r pumed â’r amddifadedd lleiaf yng Nghymru sy’n hunan-nodi eu bod yn byw gyda gordewdra

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 1: Mae oedolion sy'n byw ym mhumed mwyaf difreintiedig Cymru tua 50% yn fwy tebygol o fod yn ordew na'r rhai yn y pumed lleiaf difreintiedig, gyda thua 1 o bob 3 pherson yn ordew (Arolwg Cenedlaethol Cymru, canran a arsylwyd, 2016/17 - 22/23, Llywodraeth Cymru) 

 

Canran yr oedolion sy’n byw yn yr ardaloedd sydd yn y pumed â’r amddifadedd mwyaf a’r pumed â’r amddifadedd lleiaf yng Nghymru sy’n nodi ymddygiadau nad ydynt yn iach

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 2:  Nodir lefelau uwch o ymddygiadau nad ydynt yn iach yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o’u cymharu â’r ardaloedd lleiaf difreintiedig, ac eithrio yfed alcohol.   Mae lefelau uwch o ymddygiad afiach i’w gweld yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â'r ardaloedd lleiaf difreintiedig, ac eithrio yfed alcohol. Mae'r siart chwith uchaf yn dangos yfed alcohol ar lefelau peryglus, mae'r siart dde uchaf yn dangos oedolion sy'n bwyta dim ffrwythau na llysiau y dydd, mae siart chwith isaf yn dangos oedolion sy'n egnïol yn gorfforol am lai na 30 munud yr wythnos ac mae'r siart dde isaf yn dangos oedolion sy'n dweud eu bod yn ysmygu neu'n defnyddio e-sigaréts (Arolwg Iechyd Cymru, canran a arsylwyd, 2003/04 – 2015/16, Arolwg Cenedlaethol Cymru, canran a arsylwyd, 2016/17 - 2022/23, Llywodraeth Cymru)

Dychwelyd i'r cynnwys

 

3.1 Diffiniadau technegol a Chanllawiau'r Prif Swyddog Meddygol

Gordewdra

Mae gordewdra yn cael ei fesur gan ddefnyddio Mynegai Màs y Corff (BMI ), a amcangyfrifir trwy rannu pwysau oedolyn â'i daldra mewn metrau sgwâr.  Diffiniad byw gyda gorbwysedd yw bod â BMI rhwng 25 a 30. Diffiniad byw gyda gordewdra yw bod â BMI o 30 neu fwy. Mae trothwyon risg BMI yn amrywio rhwng grwpiau ethnig. Mae'r ffigurau uchod yn seiliedig ar y trothwy risg ar gyfer y boblogaeth wyn.

 

Gweithgarwch corfforol

Canllawiau Prif Swyddog Meddygol y DU yw y dylai oedolion fod yn gymedrol actif am o leiaf 150 munud yr wythnos. 

 

Deiet

Canllawiau'r Prif Swyddog Meddygol ar gyfer bwyta ffrwythau a llysiau yw bwyta o leiaf bum dogn y dydd.  Mae’r data ar gyfer oedolion 16 oed neu hŷn sy’n nodi nifer y dognau ffrwythau a llysiau y gwnaethon nhw eu bwyta y diwrnod blaenorol. Rhennir y data yn dri chategori:

  • Dim dognau
  • 1 neu fwy ond llai na 5
  • 5 neu fwy

 

Yfed alcohol

Er mwyn cadw risgiau iechyd mewn perthynas ag alcohol ar lefel isel, canllawiau'r Prif Swyddog Meddygol yw peidio ag yfed dros 14 uned yr wythnos yn rheolaidd.  Mae’r data ar gyfer yr alcohol y mae oedolyn yn ei yfed yn wythnosol ar gyfartaledd ac wedi’i rannu’n bedwar categori:

  • Dim
  • Peth (hyd at 14 uned)
  • Peryglus (dros 14 hyd at 50 o unedau i wrywod a thros 14 hyd at 35 o unedau i fenywod)
  • Niweidiol (unrhyw beth dros y terfynau peryglus)   

Dychwelyd i'r cynnwys

 

4. Gordewdra 

Mae cyfran yr oedolion sy’n byw gyda gordewdra yng Nghymru wedi cynyddu 44% yn yr 20 mlynedd diwethaf, o 18% yn 2003/04 i 26% yn 2022/23 (Ffigur 3). Mae hyn ychydig dros un o bob pedwar person (Arolwg Iechyd Cymru, 2003/04 – 2015/16, Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2016/17 – 2022/23, Llywodraeth Cymru). Mae byw gyda gordewdra yn ffactor risg allweddol ar gyfer sawl clefyd cronig.  Cydnabyddir bod newidiadau ym methodoleg yr arolwg dros y blynyddoedd yn cynyddu'r ansicrwydd wrth gymharu pwyntiau data ar draws y gyfres amser. Fodd bynnag, mae’n amlwg o hyd bod tuedd gynyddol gref yn nifer yr achosion o fyw gyda gordewdra yng Nghymru. Nid yw'r duedd hon yn dangos arwyddion o arafu.

 

Canran yr oedolion 16 oed neu hŷn yn ôl categori BMI wedi’i nodi

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 3:  Mae canran yr oedolion 16 oed neu hŷn yng Nghymru sy’n byw gyda gordewdra wedi cynyddu 44% yn yr 20 mlynedd diwethaf, o 18% yn 2003/04 i 26% yn 2022/23 (Arolwg Iechyd Cymru, canran a arsylwyd, 2003/04 – 2015/16, Arolwg Cenedlaethol Cymru, canran a arsylwyd, 2016/27 – 2022/23, Llywodraeth Cymru).

 

Nododd y Rhaglen Mesur Plant ddiweddaraf (blwyddyn academaidd 2022/23) fod 11.4% o blant 4-5 oed yn byw gyda gordewdra.  Mae hyn yn ystadegol arwyddocaol is na chyn y pandemig, fodd bynnag, ychydig dros 1 o bob 10 plentyn yw hyn (Rhaglen Mesur Plant, Iechyd Cyhoeddus Cymru).  

Mae'r BMI a dosbarthiad pwysau ar gyfer plant yn wahanol i'r rhai ar gyfer oedolion.  Tra bod BMI oedolion yn cael ei gategoreiddio yn ôl cyfnodau penodol, mae BMI pob plentyn yn cael ei gyfrifo ac yna ei asesu yn erbyn poblogaeth gyfeirio neu gyfeiriad twf sy'n deillio o’r mesuriadau ar gyfer sampl fawr o blant o'r un oedran a rhyw.  Rhennir y raddfa gyfeirio hon yn 100 o unedau, a elwir yn ganraddau. Y ganradd sy’n berthnasol i BMI y plentyn fydd ei ddosbarthiad pwysau.  Er mwyn i blentyn gael ei nodi’n un sy'n byw gyda gordewdra, rhaid i'w BMI fod yn y 95fed ganradd neu uwch.  I gael rhagor o wybodaeth, gweler dogfen dechnegol Rhaglen Mesur Plant.

Mae oedolion sy'n byw ym mhumed mwyaf difreintiedig Cymru tua 50% yn fwy tebygol o fod yn ordew na'r rhai yn y pumed lleiaf difreintiedig, gyda thua 1 o bob 3 pherson yn ordew (Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022/23, Llywodraeth Cymru). Ers 2020/21, mae mwy o fenywod yn dweud eu bod yn ordew na dynion (Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2020/21 – 2022/23, Llywodraeth Cymru).

Nid oes modd cymharu data o wledydd eraill y Deyrnas Unedig gan fod arolygon o Loegr a’r Alban yn defnyddio staff hyfforddedig i fesur cyfranogwyr yn gyson, tra bod Cymru a Gogledd Iwerddon yn defnyddio ymatebion wedi’u hunan-nodi i holiaduron arolwg (Tabl 2).Mae pwysau hunan-gofnodedig yn tueddu i danamcangyfrif pwysau gwirioneddol. Edrychodd dadansoddiad gan Nesta ar geisio addasu ar gyfer y gwahaniaeth hwn, gan ganfod y gallai Cymru fod â'r cyfraddau gordewdra uchaf yn y Deyrnas Unedig.

 

Canran yr oedolion 16 oed neu hŷn sy’n byw gyda gordewdra yng ngwledydd y Deyrnas Unedig

Gwlad Canran yr oedolion sy'n ordew Blwyddyn Ffynhonnell Dull
Yr Alban 32 2023 Scottish Health Survey  Mesur
Lloegr 29 2022 Health Survey for England  Mesur
Cymru 26 2022/23 National Survey for Wales  Hunan-gofnodedig
Gogledd Iwerddon 24 2023/24 Health Survey Northern Ireland  Hunan-gofnodedig

Tabl 2: Tabl sy'n dangos canran yr oedolion sy'n ordew ym mhob gwlad yn y Deyrnas Unedig, pryd y cawsant eu cofnodi a dolenni i'r ffynhonnell ddata berthnasol.

 

Canran yr oedolion 16 oed neu hŷn sy’n byw gyda gordewdra yng Nghymru fesul rhyw

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 4: Canran y gwrywod a benywod 16 oed neu hŷn sy'n byw gyda gordewdra.  Er y bu gostyngiad yng nghanran y gwrywod a oedd yn byw gyda gordewdra yn 2020-21, gallai hyn fod oherwydd newidiadau o ran dulliau a roddwyd ar waith yn ystod COVID-19.  Mae canran y bobl sy’n byw gyda gordewdra ymhlith y ddau ryw wedi bod yn cynyddu ers 2020/21 (Arolwg Cenedlaethol Cymru, canran a arsylwyd, 2016/17 - 2021/22, Llywodraeth Cymru) 

 

Yn ôl data gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), mae’r DU yn nodi bod ganddi un o’r cyfrannau uchaf o’r boblogaeth sy’n byw gyda gordewdra yng gwledydd y G7 (Tabl 3).  Dim ond Unol Daleithiau America sy’n nodi’n gyson bod ganddi lefelau uwch.  Mae cyfran y Deyrnas Unedig yn seiliedig ar ddata o Loegr, fodd bynnag, mae canran yr oedolion sy’n byw gyda gordewdra yng Nghymru ond ychydig yn is na Lloegr (gweler Tabl 2).  Yn ogystal â hyn, fel y nodwyd yn flaenorol, mae data Cymru yn deillio o fesuriadau wedi’u hunan-nodi sydd o bosibl yn amcangyfrif rhy isel o'u cymharu â'r mesuriadau ffurfiol sy'n llywio data Lloegr.  Er ei bod yn anodd cymharu, mae'n amlwg bod tuedd gyffredinol ar i fyny yn nifer yr achosion o ordewdra ar draws gwledydd y G7, gyda'r Deyrnas Unedig â chyfraddau uwch na gwledydd Ewropeaidd eraill.  Mae rhagor o wybodaeth am y dulliau o bob gwlad yn y dadansoddiad hwn ar gael gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).  

 

Canran yr oedolion 15 oed neu hŷn yng ngwledydd y G7 sy’n hunan-nodi eu bod yn byw gyda gordewdra

Gwlad Canran Blwyddyn
Unol Daleithiau 33.8 2022
Deyrnas Unedig 25.9 2021
Canada 22.4 2022
Almaen 16.7 2021
Ffrainc 14.4 2019
Eidal 11.4 2022

Tabl 3:  Y Deyrnas Unedig sydd ag un o'r canrannau uchaf o oedolion sy'n byw gyda gordewdra ymhlith cenhedloedd y G7, a dim ond yr Unol Daleithiau sydd â lefelau uwch.  Gan nad yw data ar gael yn gyson ar gyfer pob gwlad, bob blwyddyn, mae'r tabl yn cynnwys y flwyddyn ddiweddaraf sydd ar gael ar gyfer pob gwlad. (Data explorer, 2010 - 2022 , OECD ) 

 

Mae tueddiadau byw gyda gordewdra ac amddifadedd ymhlith plant yn debyg i'r rhai ar gyfer oedolion. Mae plant 4-5 oed yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig bron ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn byw gyda gordewdra o’u cymharu â’r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.  (Rhaglen Mesur Plant, Iechyd Cyhoeddus Cymru). 

Mae gan Gymru’r lefelau uchaf o blant sy’n byw gyda gordewdra yn y Deyrnas Unedig (Tabl 4) (Rhaglen Mesur Plant, Iechyd Cyhoeddus Cymru).  Yn wahanol i’r ffigurau ar gyfer oedolion, mae’r mesuriadau ar gyfer plant yn cael eu cymryd gan staff hyfforddedig gan ddefnyddio dulliau safonol ym mhob un o bedair gwlad y DU.

Mae rhai gwahaniaethau yn ystodau oedran y plant a fesurir, ac mae diffiniadau o'r categorïau 'Dan bwysau' a 'Pwysau iach' ychydig yn wahanol rhwng Cymru a gwledydd eraill y DU. Fodd bynnag, nid yw hyn yn effeithio ar y canlyniadau.  Mae data a gwybodaeth am fethodoleg ar gael trwy ein dangosfwrddMae'r ystod oedran ar gyfer plant a fesurir yng Nghymru yn debyg i Loegr ac ar ben iau yr ystod o’i chymharu â Gogledd Iwerddon a'r Alban. Felly, mae'n annhebygol mai dyma'r rheswm dros y gwerthoedd uwch wedi’u nodi yng Nghymru.

 

Canran y plant a gafodd ei nodi sy'n byw gyda gordewdra yng ngwledydd y Deyrnas Unedig

Gwlad Canran y plant sy'n ordew Blwyddyn Oedran adeg eu mesur
Cymru 11.4 2023 4-5 oed
Gogledd Iwerddon 10.7 2022 4.5 - 5.5 oed
Yr Alban 10.5 2022/23 5 oed
Lloegr 9.2 2019/20 4-5 oed

Tabl 4:  Mae gan Gymru’r ganran uchaf o blant sy’n byw gyda gordewdra o’i chymharu â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig (Rhaglen Mesur Plant, 2023, Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Dychwelyd i'r cynnwys

 

4.1 Clefydau Anhrosglwyddadwy yn gysylltiedig â gordewdra

Mae Ffigur 5 isod yn dangos sut mae nifer yr achosion o rai clefydau yn gyson uwch ar gyfer pobl sy'n byw gyda gordewdra o’u cymharu â'r rhai nad ydynt yn byw gyda gordewdra.  Mae yna hefyd risg uwch o gael diagnosis o ganserau penodol, yn aml gyda phrognosis a chanlyniad gwaeth.

 

Canran yr oedolion 16 oed neu hŷn yng Nghymru sydd â chyflwr cronig sy’n byw gyda gordewdra o’u cymharu â’r rhai nad ydynt yn byw gyda gordewdra

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 5: Mae nifer yr achosion o ddiabetes, a chlefydau cyhyrysgerbydol, anadlol a chardiofasgwlaidd yn ystadegol arwyddocaol uwch ar gyfer pobl sy’n byw gyda gordewdra o’u cymharu â’r rhai nad ydynt yn byw gyda gordewdra (Arolwg Cenedlaethol Cymru, canran a arsylwyd, 2022/23, Llywodraeth Cymru)

 

Er bod y ffocws ar ordewdra, mae bod dros bwysau yn golygu hefyd eich bod yn wynebu mwy o risg o ddatblygu rhai clefydau anhrosglwyddadwy. Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022/23, roedd 61% o oedolion dros bwysau neu'n ordew. Mae'r ffigur hwn wedi bod yn cynyddu'n raddol o 54% yn Arolwg Iechyd cyntaf Cymru yn 2003/04 (Arolwg Iechyd Cymru, 2003/04, Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022/23, Llywodraeth Cymru).  Mae hyn yn gynnydd o bron i 13%, ac nid yw'r duedd yn dangos arwyddion o arafu.

Dychwelyd i'r cynnwys

 

4.2 Costau byw gyda gordewdra a gorbwysau

Yn ei ganllawiau, amcangyfrifodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr fod salwch sy’n gysylltiedig â gorbwysau a gordewdra wedi costio £6.1 biliwn i’r GIG ledled y DU, gyda chost gymdeithasol ehangach o £27 biliwn, yn 2014/15.  Mae’r costau uniongyrchol yn cynnwys trin pobl sy’n byw gyda gorbwysau neu ordewdra a chlefydau cysylltiedig â gordewdra.  Mae’r costau anuniongyrchol yn cynnwys colli enillion oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â gordewdra a marwolaethau cynamserol sy’n gysylltiedig â gordewdra.

Gallwn wneud amcangyfrif o’r costau ar gyfer Cymru, gan addasu’r ffigurau ar gyfer maint y boblogaeth (Amcangyfrifon poblogaeth: canol 2023, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol [ONS]) a chwyddiant (Cyfrifiannell chwyddiant Banc Lloegr, Rhagfyr 2024). Mae hyn yn rhoi costau amcangyfrifedig i Gymru yn 2024 o tua £0.5 biliwn a £2 biliwn yn y drefn honno.

Dychwelyd i'r cynnwys

 

5. Deiet a'r amgylchedd gordewdra

Canllawiau'r Prif Swyddog Meddygol ar gyfer bwyta ffrwythau a llysiau yw bwyta o leiaf bum dogn y dydd.  Mae’r data ar gyfer oedolion 16 oed neu hŷn sy’n nodi nifer y dognau ffrwythau a llysiau y gwnaethon nhw eu bwyta y diwrnod blaenorol. Mae wedi'i rannu'n dri chategori:

  • Dim dognau
  • 1 neu fwy ond llai na 5
  • 5 neu fwy

Mae'r tri chategori wedi bod yn sefydlog yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Dengys Ffigur 6, yn 2022/23, mai 7% oedd canran yr oedolion a ddywedodd eu bod heb fwyta unrhyw ddognau o ffrwythau a llysiau, roedd 65% o oedolion wedi bwyta 1 neu fwy ond yn llai na 5 ac roedd 29% wedi bwyta o leiaf bump.  (Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru) 

 

Canran yr oedolion 16 oed neu hŷn yn ôl nifer y dognau ffrwythau a llysiau maent yn eu bwyta wedi’u nodi

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 6:  Mae canran yr oedolion sy’n nodi eu bod wedi bwyta o leiaf 5 dogn o ffrwythau a llysiau wedi cynyddu ychydig, fodd bynnag, mae’r rhai sy’n nodi nad ydynt wedi bwyta unrhyw ddognau wedi aros yn sefydlog (tua 7%). (Arolwg Cenedlaethol Cymru, canran a arsylwyd, 2016/17 - 2022/23, Llywodraeth Cymru).

 

Yn 2022/23, dywedodd 1 o bob 10 oedolyn a oedd yn byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig nad oeddent wedi bwyta unrhyw ffrwythau na llysiau y diwrnod blaenorol.  Dim ond 22% o oedolion sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a ddywedodd eu bod wedi bwyta o leiaf bum darn o ffrwythau a llysiau y diwrnod blaenorol, a’r ganran ar gyfer yr ardaloedd lleiaf difreintiedig oedd 36%.  (Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022/23, Llywodraeth Cymru)

Er bod elfen o ddewis personol gyda deiet, mae'n bwysig ystyried yr amgylchedd gordewogenig. Mae hyn yn cyfeirio at y cyfraniad y gall ffactorau amgylcheddol ei wneud wrth bennu maetheg a gweithgarwch corfforol. Er enghraifft, hyrwyddo, argaeledd a bwyta gwahanol fwydydd a'r lefelau gweithgarwch corfforol a wneir gan boblogaethau.

Mae rhai enghreifftiau o ffactorau amgylcheddol gordewdra yn cynnwys:

  • gweithgarwch corfforol: Mynediad cyfyngedig at ardaloedd diogel i wneud ymarfer corff, swyddi eisteddog, dibyniaeth ar geir a mwy o amser sgrin
  • amgylchedd bwyd: Bwydydd uchel mewn calorïau sy’n cynnig maeth gwael ar gael yn gyffredin, marchnata bwyd pwerus, dognau mawr, anialwch bwyd a chost uchel opsiynau iach
  • ffactorau economaidd: Gwahaniaethau mewn incwm, cost uchel byw’n iach ac arferion corfforaethol sy’n blaenoriaethu elw dros iechyd
  • dylanwadau cymdeithasol a diwylliannol: Normau diwylliannol yn blaenoriaethu cyfleustra, ymddygiad teulu a chyfoedion, a’r cyfryngau’n hyrwyddo bwydydd nad ydynt  yn iach
  • polisi a’r Amgylchedd: Diffyg rheoliadau ar farchnata bwydydd nad ydynt yn iach, polisïau llunio parthau yn ffafrio safleoedd bwyd cyflym a diffyg addysg iechyd
  • ymddygiadol a seicolegol: Straen, diffyg cwsg ac arferion sy’n cysylltu bwyd â gwobr neu gysur

Trafodir gweithgarwch corfforol yng Nghymru yn adran 6. Yn yr adran hon rydym yn trafod yr amgylchedd bwyd a rhai ffactorau economaidd.

Dychwelyd i'r cynnwys

 

5.1 Ffactorau economaidd

Ffigur 7, o'r adroddiad Broken Plate gan The Food Foundation, yn dangos ei bod yn fwy na dwywaith yn ddrutach prynu bwyd iachach yn 2023, sef tua £10 am bob 1,000 o galorïau.

 

Pris cyfartalog bwyd a diod, pris cyfartalog (£) y 1,000kcal

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 7: Mae bwyd mwy iach wedi costio mwy na bwyd llai iach yn gyson, gan gostio o leiaf ddwywaith cymaint fesul 1,000kcal (Adroddiad Broken Plate, 2013 - 2023, The Food Foundation) 

Dychwelyd i'r cynnwys

 

5.2 Ffactorau amgylcheddol

Yn ôl yr adroddiad ‘Fuel us, don’t fool us: Big food & our communities: Where are food chains expanding? (Out-ofhome #1)’ gan elusen Bite Back yn 2024, a gynhaliwyd gyda Phrifysgol Caergrawnt, mae gan 14.2% o ysgolion ym Mhrydain Fawr o leiaf un man gwerthu bwyd sydyn mawr o fewn 400m iddynt. Roedd gan bump o'r deg manwerthwr bwyd sydyn mwyaf poblogaidd ddwysedd uwch o fannau gwerthu yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o’u cymharu â'r ardaloedd lleiaf difreintiedig.  Bu cynnydd hefyd yn nifer y mannau gwerthu o fewn 400m i ysgolion (Tabl 5).

Yn 2019, gwnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd ddadansoddi dwysedd mannau gwerthu bwyd sydyn yng Nghymru a chanfod bod 100.65 o fannau gwerthu fesul 100,000 o bobl yng Nghymru (Dwysedd mannau gwerthu bwyd sydyn yng Nghymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru).

 

Nifer y mannau gwerthu bwyd sydyn o fewn 400m i ysgol, 2014 a 2024, Prydain Fawr

Cadwyn 2014 2024 Twf o gwmpas ysgolion
Subway 979 1,399 43%
Greggs 1,096 1,331 21%
Costa Coffee 749 1,325 77%
Domino's 585 939 61%
McDonald's 517 565 9%
KFC 469 551 17%
Starbucks 350 534 53%
Pret A Manger 167 327 96%
Nando's 158 247 56%
Burger King 132 168 27%

Tabl 5: Mae 7 o bob 10 cadwyn ym Mhrydain Fawr wedi cynyddu nifer eu mannau gwerthu sydd o fewn 400m i ysgol o leiaf 25%.  (Adroddiad ‘Out of Home’, 2024, Bite Back)

Dychwelyd i'r cynnwys

 

6. Gweithgarwch corfforol

Bod yn actif yn gorfforol yw un ffordd o helpu i sicrhau a chynnal pwysau iach. Canllawiau Prif Swyddog Meddygol y DU yw y dylai oedolion fod yn gymedrol actif am o leiaf 150 munud yr wythnos. 

Ers 2016, yn gyson, canran yr oedolion sy’n bodloni’r canllaw hwn yw dros 50%, a’r ganran uchaf oedd 56% yn 2021/22 (Ffigur 8).  (Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru). 

 

Canran yr oedolion 16 oed neu hŷn yn ôl y lefel gweithgarwch corfforol wythnosol a gafodd ei nodi

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 8:  Mae lefelau gweithgarwch corfforol wedi’u nodi wedi bod yn sefydlog, gydag ychydig llai na thraean o oedolion yn dweud eu bod yn actif llai na 30 munud yr wythnos (Arolwg Cenedlaethol Cymru, canran a arsylwyd, 2016/17 - 2022/23, Llywodraeth Cymru).

 

Dywedodd tua 60% o wrywod a 50% o fenywod 16 oed neu hŷn eu bod yn bodloni neu'n rhagori ar ganllawiau'r Prif Swyddog Meddygol ar y lleiafswm o weithgarwch corfforol a argymhellir yn 2022/23 (Ffigur 9). Er y bu rhywfaint o amrywiad dros amser ar gyfer y ddau ryw, mae cyfran uwch o wrywod wedi bodloni’r canllawiau’n gyson o’u cymharu â benywod.

 

Canran y gwrywod a benywod 16 oed neu hŷn yng Nghymru a ddywedodd eu bod yn bodloni’r canllawiau a argymhellir ar gyfer gweithgarwch corfforol

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 9: Rhwng 2016-17 a 2022-23, nododd gwrywod yn gyson eu bod yn fwy actif yn gorfforol na benywod, gyda bron i 60% yn dweud eu bod yn bodloni’r canllawiau o 150 munud neu fwy o weithgarwch cymedrol yr wythnos (Arolwg Cenedlaethol Cymru, canran a arsylwyd, 2016/17-2022/23, Llywodraeth Cymru). 

 

Mae amrywiadau’n bodoli hefyd ar draws grwpiau oedran gyda 55% o fenywod rhwng 16 a 44 oed a 70% o ddynion rhwng 16 a 44 oed yn dweud y buont yn egnïol yn gorfforol am o leiaf 150 munud yr wythnos flaenorol yn 2022/23. (Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022/23, Llywodraeth Cymru).

Fel y gwelir yn Ffigur 2, mae amddifadedd hefyd yn ffactor, gyda dros draean o oedolion o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig (38%) yn gwneud llai na 30 munud o ymarfer corff yn ystod yr wythnos flaenorol, o’u cymharu â chwarter (25%) yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022/23, Llywodraeth Cymru). 

Yn 2023, ni wnaeth bron i 4 o bob 5 plentyn fodloni’r canllawiau gweithgarwch corfforol a argymhellir, sef o leiaf 60 munud o weithgarwch corfforol bob dydd. Dim ond 18% a ddywedodd eu bod yn bodloni'r canllaw hwn.  O’u rhannu yn ôl rhyw, dim ond 23% o fechgyn a 14% o ferched sy’n nodi eu bod yn bodloni’r canllawiau gweithgarwch corfforol a argymhellir ar gyfer plant. (Data arolwg Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion, Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion , dyddiad).

Mae lefelau uwch o weithgarwch corfforol yn cael eu cofnodi gan deuluoedd sy'n fwy cefnog, gydag 20% o blant 11-16 oed o deulu 'mwy cefnog' yn dweud eu bod yn bodloni'r canllawiau, o gymharu â thua 15% ar gyfer y rhai o deuluoedd 'llai cefnog' (data arolwg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, dyddiad).

Dychwelyd i'r cynnwys

 

7. Yfed alcohol

Er mwyn cadw risgiau iechyd mewn perthynas ag alcohol ar lefel isel, canllawiau'r Prif Swyddog Meddygol yw peidio ag yfed dros 14 uned yr wythnos yn rheolaidd.  Mae’r data ar gyfer yr alcohol y mae oedolyn yn ei yfed yn wythnosol ar gyfartaledd ac wedi’i rannu’n bedwar categori:

  • Dim
  • Peth (hyd at 14 uned)
  • Peryglus (dros 14 hyd at 50 o unedau i wrywod a thros 14 hyd at 35 o unedau i fenywod)
  • Niweidiol (unrhyw beth dros y terfynau peryglus)   

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu amrywiadau bach yn y cyfrannau wedi’u nodi yn y categorïau hyn (Ffigur 10). Fodd bynnag, nid yw'r un o'r newidiadau hyn wedi bod yn arwyddocaol yn ystadegol.  Mae'r categori 'Dim' wedi gostwng o 20% yn Ionawr – Mawrth 2021 i 17% yn 2022/23.  Gan hynny, mae'r categori 'Peth' wedi cynyddu ychydig o 64% i 66% yn yr un cyfnod.  Mae pob categori arall wedi bod yn sefydlog. (Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru) 

 

Canran yr oedolion 16 oed neu hŷn yn ôl yr arferion yfed alcohol wythnosol ar gyfartaledd wedi’u nodi

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 10:  Mae lefelau yfed alcohol wedi’u nodi wedi bod yn sefydlog, gyda mân amrywiadau, sy’n golygu nad yw’r darlun ar lefel genedlaethol yn gwella.  Sylwch y cafodd y categori 'Dim' ei gyflwyno yn 2020/21 gan fod y diffiniad wedi newid; roedd blynyddoedd blaenorol yn cynnwys 'prin yn yfed alcohol'.  (Arolwg Cenedlaethol Cymru, canran a arsylwyd, 2016/17 - 2022/23, Llywodraeth Cymru).

 

Rhwng 2016-17 a 2022-23, roedd canran y gwrywod a oedd yn yfed alcohol uwchlaw’r trothwy canllaw yn gyson uwch na benywod (Ffigur 11). Yn 2022/23, dywedodd 21% o wrywod eu bod yn yfed ar lefelau peryglus o’u cymharu ag 8% o fenywod.  O ran yfed alcohol ar lefelau niweidiol, roedd y bwlch yn llai, gyda 4% wedi’i nodi ar gyfer benywod a 2% ar gyfer gwrywod yn y drefn honno. (Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022/23, Llywodraeth Cymru)

Ar gyfer pob categori ac eithrio 'niweidiol', roedd lefelau yfed alcohol hefyd yn is yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o’u cymharu â'r ardaloedd lleiaf difreintiedig.  Fodd bynnag, yn y categori 'niweidiol', roedd y lefelau yr un peth. 

Mae unigolion mewn grwpiau statws economaidd-gymdeithasol uwch yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn yfed mwy na’r terfynau yfed a argymhellir, ond mae'r rhai mewn grwpiau statws economaidd-gymdeithasol is yn profi mwy o niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Gelwir hyn yn 'baradocs niwed alcohol’. (Lewer et al., 2016)

Hyd yn oed lle mae lefelau yfed alcohol yn debyg, mae astudiaethau wedi dangos bod effaith yfed alcohol ar y rhai o gymunedau difreintiedig yn arwain at lefelau uwch o salwch sy’n gysylltiedig ag alcohol. Mae damcaniaethau i egluro’r paradocs niwed alcohol hwn yn cynnwys yfwyr difreintiedig yn dioddef mwy o heriau iechyd cyfunol (e.e. ysmygu, gordewdra) sy’n gwaethygu effeithiau niweidiol alcohol (Bellis et al. 2016). 

 

Canran yr oedolion 16 oed neu hŷn sy’n nodi lefelau yfed alcohol peryglus fesul rhyw

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 11: Mae'r siart uchod yn dangos bod dynion yn yfed mwy o alcohol yn gyson ar lefel beryglus o gymharu â menywod (Arolwg Cenedlaethol Cymru, canran a arsylwyd, 2016/17 - 2022/23, Llywodraeth Cymru)

Dychwelyd i'r cynnwys

 

8. Ysmygu

Mae canran yr oedolion 16 oed neu hŷn sy’n ysmygu yng Nghymru wedi bod yn gostwng dros amser (Ffigur 12), gan haneru o 26% yn 2003/04 i 13% yn 2022/23 (Arolwg Iechyd Cymru, 2003/04, Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022/23, Llywodraeth Cymru).  Fodd bynnag, er gwaethaf y gwelliannau hyn, ni ragwelir y bydd lefel cyffredinrwydd ysmygu yn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o lai na 5% erbyn 2030.  Yn 2020, cyhoeddodd Cancer Research UK adroddiad yn edrych ar ragamcan o gyffredinrwydd ysmygu gan ddefnyddio Arolwg Poblogaeth Blynyddol y Swyddfa Ystadegau Gwladol.  Yn ôl yr elusen, yn seiliedig ar dueddiadau presennol, byddai Cymru yn cyrraedd y targed o 5% yn 2037.  Er mwyn cyrraedd y targed erbyn 2030, byddai angen i gyflymder y newid fod tua 40% yn gynt. 

 

Canran yr oedolion 16 oed neu hŷn sy'n ysmygu

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 12: Mae nifer yr ysmygwyr yng Nghymru wedi gostwng ers 2003/04 (Arolwg Iechyd Cymru, 2003/04 – 2015/16, canran a arsylwyd, Arolwg Cenedlaethol Cymru, canran a arsylwyd, 2016/17 - 2021/22, Llywodraeth Cymru)

 

Yn ôl Arolwg Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion , mae pobl 11-16 oed sy’n nodi eu bod yn ysmygu o leiaf unwaith yr wythnos wedi parhau’n isel ers 2017, gan ostwng o 3.8% yn 2017 i 2.7% yn 2023 (Arolwg Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion, Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion).

Pe na bai cyfraddau ysmygu wedi newid yn y deng mlynedd diwethaf, byddai dros 170,000 o ysmygwyr ychwanegol 18 oed neu hŷn.

Mae cyfraddau ysmygu fel arfer yn uwch mewn ardaloedd difreintiedig (Ffigur 2).  Mae oedolion sy'n byw yn y pumed â’r amddifadedd mwyaf yng Nghymru 50% yn fwy tebygol o ysmygu o’u cymharu â'r rhai sy'n byw yn y cwintel mwyaf difreintiedig nesaf, a bron deirgwaith yn fwy tebygol o ysmygu na'r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. 

Mae Arolwg Poblogaeth Blynyddol y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dadansoddi nodweddion ysmygwyr sigaréts presennol yn y DU.  Wrth edrych ar gyffredinrwydd ysmygu yn ôl statws gweithgarwch economaidd yn y DU yn 2023, canfuwyd bod gan y rhai a ddiffiniwyd yn ddi-waith ganran uwch o ysmygwyr presennol (19.7%), o’u cymharu â’r rhai a oedd mewn cyflogaeth â thâl (11.4%) a’r rhai a oedd yn economaidd anweithgar (12.2%).  Roedd pobl a oedd mewn swyddi 'gwaith ailadroddus a gwaith llaw' yn fwy tebygol o ysmygu, gydag 20.2% yn dweud eu bod yn ysmygu, o’u cymharu â 7.9% o weithwyr mewn galwedigaethau 'rheoli a phroffesiynol'.  Canfu hefyd po uchaf oedd lefel eu haddysg, po leiaf tebygol oeddent o ysmygu.  Ymhlith pobl nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau, roedd 27.4% yn ysmygwyr presennol yn 2023.  Y rhai a ddywedodd mai gradd neu gymhwyster cyfatebol oedd eu lefel addysg uchaf oedd â'r ganran isaf o ysmygwyr presennol (5.8%).

Yn ôl data'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, y Deyrnas Unedig sydd ag un o'r cyfrannau is o'r boblogaeth sy'n ysmygwyr dyddiol yn y G7. Er nad yw data ar gyfer pob gwlad ar gael bob blwyddyn, rhwng 2010 a 2022 dim ond Canada a'r Unol Daleithiau a ddywedodd fod ganddynt gyfran is 

 

Canran yr oedolion 15+ oed neu sy'n nodi eu bod yn ysmygu bob dydd yng ngwledydd y G7

Gwlad Canran Blwyddyn
Ffrainc 25.3 2021
Eidal 19.8 2022
Japan 16.7 2019
Almaen 14.6 2021
Deyrnas Unedig 11.2 2022
Canada 9.4 2022
Unol Daleithiau 8.9 2022

Tabl 6:  Mae'r Deyrnas Unedig yn nodi bod ganddi un o'r canrannau isaf o oedolion sy'n ysmygu bob dydd ymhlith gwledydd y G7.  Gan nad yw data ar gael yn gyson ar gyfer pob gwlad, bob blwyddyn, mae'r tabl yn cynnwys y flwyddyn ddiweddaraf sydd ar gael ar gyfer pob gwlad. (Data explorer, 2010 - 2022, OECD) 

 

Drwy ddefnyddio Arolwg Poblogaeth Blynyddol y Swyddfa Ystadegau Gwladol gallwn gymharu Cymru â gwledydd eraill y DU gan ddefnyddio’r un ffynhonnell ddata.  Mae'r pedair yn nodi lefelau tebyg; Lloegr sydd â’r isaf (11.6%), yna Cymru (12.6%), yna Gogledd Iwerddon (13.3%) a’r Alban sydd â’r uchaf (13.5%) (Swyddfa Ystadegau Gwladol, Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth 2023).

Mae angen monitro'r arfer cynyddol boblogaidd o ddefnyddio fêps ac unrhyw oblygiadau iechyd o'u defnyddio hefyd. Er bod fepio dipyn yn llai niweidiol nag ysmygu, mae risg o hyd. Mae 8% o bobl yn fepio yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022/23. Y rheswm mwyaf cyffredin dros eu defnyddio o hyd yw helpu i roi'r gorau i ysmygu tybaco. Yn 2019, dywedodd 76% o ddefnyddwyr eu bod yn fepio er mwyn helpu i roi'r gorau i ysmygu tybaco.

Dychwelyd i'r cynnwys

 

9. Ansawdd aer

Mae mesurau ansawdd aer yn amcangyfrif crynodiad y gronynnau bach yn yr aer. Gall anadlu'r rhain gael effaith ddifrifol ar iechyd. Mae safonau'r DU yn ei gwneud yn ofynnol i fesur crynodiad gronynnau â diamedr llai na 10 micrometr (PM10) a'r rhai sy'n llai na 2.5 micrometr (PM2.5) gan y gall y rhain gael effaith ddifrifol ar iechyd.  Mae maint bach y tocsinau hyn yn golygu y gallant fynd i mewn i'r llif gwaed a chael eu cludo o amgylch y corff, gan aros yn y galon, yr ymennydd ac organau eraill.  At ddibenion cymharu, mae gwallt dynol tua 70 micrometr o led. Mae crynodiad nitrogen deuocsid (NO2) yn ddangosydd pwysig arall o ansawdd aer, oherwydd ei effeithiau ar iechyd. Gall dod i gysylltiad â NO2 niweidio'r galon a'r ysgyfaint.

Mae Rheoliadau Safon Ansawdd Aer 2010 yn pennu’r gwerthoedd terfyn blynyddol ar gyfer y mesurau hyn fel a ganlyn:

  • Ni ddylai NO2 fod yn fwy na chymedr blynyddol o 40 µg/m3 mewn blwyddyn galendr
  • Ni ddylai PM10 fod yn fwy na chymedr blynyddol o 40 µg/m3 mewn blwyddyn galendr
  • Ni ddylai PM2.5 fod yn fwy na chymedr blynyddol o 20 µg/m3 mewn blwyddyn galendr

Mae ansawdd aer wedi bod yn gwella ar y cyfan ers 2007. Mae crynodiad cyfartalog nitrogen deuocsid (NO2) yng Nghymru bron wedi haneru, o grynodiad o 14µg/m3 yn 2007 i tua 8µg/m3 yn 2022.  Yn yr un cyfnod, mae PM10 wedi gostwng o 16 µg/m3 i 11 µg/m3, a PM2.5 wedi gostwng o 9 µg/m3 i 7 µg/m3 (Ansawdd Aer yng Nghymru, Llywodraeth Cymru).  Fodd bynnag, gall ansawdd aer amrywio'n fawr ar lefel leol. 

 

Ansawdd aer yng Nghymru, crynodiad (µg/m3)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 13: Mae ansawdd aer yng Nghymru wedi bod yn gwella dros amser, gyda gostyngiad cyffredinol mewn lefelau NO2, PM10 a PM2.5. Mae'r tri yn is na'r gwerthoedd terfyn blynyddol ar lefel genedlaethol.  Oherwydd natur leol llygredd aer, gall hyn amrywio mewn ardaloedd llai. (Ansawdd Aer yng Nghymru, 2007-2022, Llywodraeth Cymru)

 

Mae'r dangosyddion ansawdd aer PM10, PM2.5 a NO2 ar gyfer cyfartaledd Cymru i gyd yn is na'r safonau ansawdd aer cenedlaethol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn rhoi’r darlun cyfan i ni, oherwydd gall ansawdd aer amrywio’n sylweddol dros ardaloedd lleol a hyperleol. Mae ymchwil a gyhoeddwyd gan Senedd Cymru wedi dangos bod gan Gymru rywfaint o’r ansawdd aer gwaethaf yn y Deyrnas Unedig.  Mae Caerdydd a Phort Talbot wedi cofnodi lefelau uwch o PM10 na Birmingham neu Fanceinion.  Ar Ffordd Hafod-yr-ynys yng Nghaerffili y cofnodwyd y lefelau uchaf o lygredd y tu allan i Lundain.  Yn 2019, dechreuodd Cyngor Caerffili ar y broses i brynu’r eiddo drwy orchymyn prynu gorfodol er mwyn bwrw ymlaen â’u dymchwel.  Roedd hyn yn rhannol er mwyn sicrhau ei fod yn gallu cydymffurfio â Chyfarwyddyd Ansawdd Aer 2019 a Chyfarwyddeb Ansawdd Aer Amgylchynol yr UE (2008/50/EC) yn yr amser byrraf posibl.

Dychwelyd i'r cynnwys

 

10. Beth ellid ei wneud

Gwelwn o’r dadansoddiad hwn nad yw cyffredinrwydd ffactorau risg y gellir eu haddasu, a’r bwlch yn y cyffredinrwydd hwnnw rhwng y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yn gwella fel yr hoffem, yn gyffredinol. Fel y dangosodd ein herthygl ar nifer yr achosion o afiechydon, nifer yr achosion o ganser a rhagamcanion, heb welliant bydd yr effaith ar iechyd y genedl, ac ar wasanaethau iechyd a gofal yn gwaethygu. Mae hyn yn uwch na’r cynnydd yn nifer yr achosion o glefydau a ddisgwylir gan y boblogaeth sy'n heneiddio yng Nghymru.

I gael canlyniad gwell, mae angen dull gweithredu amlweddog sy'n cynnwys addysg, rhaglenni, gwasanaethau a deddfwriaeth.  Fe wnaeth adroddiad Public health: ethical issues, a gafodd ei gyhoeddi gan ‘The Nuffield Council on Bioethics’ yn 2007, ystyried yr “ysgol ymyrraeth”. Canfuwyd bod dileu dewis/cyfyngu arno a datgymhellion/cymhellion yn fwy effeithiol nag addysg.

Yn y DU, mae llwyddiant mawr wedi bod yn y gorffennol o ran cyffredinrwydd ysmygu.  Cydnabyddir bod gan y DU un o'r polisïau rheoli tybaco mwyaf cynhwysfawr yn y byd. Mae deddfwriaeth y DU wedi cynnwys gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeedig a gweithleoedd, gwahardd gwerthu tybaco i’r rheiny o dan 18 oed a’i wneud yn orfodol i becynnau fod yn blaen ar gyfer cynhyrchion tybaco. Mae'r rhain i gyd wedi cyfrannu at y gostyngiad o ran cyffredinrwydd ysmygu. O ganlyniad, mae gan y DU un o’r cyfraddau ysmygu isaf ymhlith gwledydd datblygedig tebyg. Mae Cymru wedi bod yn gyson arloesol mewn polisïau rheoli tybaco, gan ddod y wlad gyntaf yn y DU i wahardd ysmygu ar dir ysbytai ac mewn ceir sy’n cludo plant o 2021 ymlaen. Fe wnaeth Helpa Fi i Stopio, gwasanaeth rhoi'r gorau i ysmygu cenedlaethol rhad ac am ddim y GIG yng Nghymru drin dros 16,000 o ysmygwyr yn 2023-24.  

Gallai efelychu’r dull hwn ar gyfer gordewdra arwain at lwyddiant tebyg, a’r canlyniad fyddai Cymru iachach.  Mae gan Lywodraeth Cymru ddeddfwriaeth ar waith i gyfyngu ar werthu cynnyrch uchel mewn braster, siwgr a halen am brisiau rhatach dros dro, ac i gyfyngu ar eu lleoliad mewn siopau.  Mae Cynllun Aer Glân i Gymru ar waith hefyd, sy’n ystyried ffyrdd o alluogi ac annog teithio llesol, yn ogystal â mynd i’r afael ag ansawdd aer gwael. Gall hyn, yn ei dro, chwarae rhan mewn lleihau nifer y bobl sy'n byw gyda gordewdra.  Mae'r ddeddfwriaeth hon yn enghraifft o sut mae'n bwysig mynd i'r afael â'r amgylchedd gordewdra a pheidio â dibynnu'n unig ar addysg well am y risgiau o fyw gyda gordewdra.

Edrychodd adroddiad diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y dystiolaeth ddiweddaraf o ran ble y gall buddsoddi mewn atal gael yr effaith fwyaf, gan gynnwys gordewdra.  Yn ogystal â’r gwelliannau i iechyd unigolyn, yn ôl adolygiad systematig gan Masters et al yn 2017, am bob £1 a fuddsoddir yn iechyd y cyhoedd, byddai £14 ar gyfartaledd yn cael ei roi yn ddiweddarach yn yr economi iechyd a gofal cymdeithasol ehangach.    

Dychwelyd i'r cynnwys

 

11. Trosolwg o wasanaethau, rhaglenni, gwasanaethau atal a deddfwriaeth yng Nghymru

Yma, rydym yn nodi rhai o'r rhaglenni, gwasanaethau, canllawiau a deddfwriaeth sydd â'r nod o leihau cyffredinrwydd rhai o'r ffactorau risg a ddisgrifir yn yr erthygl hon.

 
11.1 Rhaglenni
  • Mae Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan (AWDPP), a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a arweinir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi'i thargedu at bobl sydd â risg uwch o ddiabetes Math 2.
  • Pwysau Iach: Cymru Iach yw cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru i atal a lleihau gordewdra.
  • Mae'r rhaglen Helpa Fi i Stopio yn yr Ysbyty yn fodel rhoi'r gorau i ysmygu Cymru gyfan sy'n ceisio nodi a chefnogi ysmygwyr sy'n cael mynediad at wasanaethau gofal iechyd. Mae hyn yn cynnwys gofyn am statws ysmygu, darparu cyngor byr iawn ac atgyfeirio i wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu. Cynlluniwyd y model gan ICC yn 2021/22 ac mae'n cael ei weithredu gan fyrddau iechyd ledled Cymru.
  • Mae Lleihau Ysmygu yn ystod Beichiogrwydd yn rhaglen genedlaethol a arweinir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n gweithio’n agos gyda Byrddau Iechyd i roi camau gwella ar waith ar draws y llwybr beichiogrwydd cyfan (asesiad cychwynnol, yn ystod beichiogrwydd, a genedigaeth). Y nod yw cynyddu nifer yr ysmygwyr beichiog sy’n manteisio ar raglen Helpa Fi i Stopio ar gyfer beichiogrwydd di-fwg.
 
 
11.2 Gwasanaethau
  • Lansiwyd Helpa Fi i Stopio yn 2017 ac mae’n frand sengl ar gyfer gwasanaethau rhoi’r gorau i smygu GIG Cymru. Darperir Helpa Fi i Stopio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Byrddau Iechyd Lleol.
  • Mae’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS)  yn ymyriad iechyd a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n ymgorffori gweithgarwch corfforol a thechnegau newid ymddygiad i gefnogi cleientiaid a atgyfeiriwyd i wneud newidiadau i'w ffordd o fyw i wella eu hiechyd a'u lles. 
 
11.3 Atal
  • Mae JustB - JUSTB/BYW BYWYD yn rhaglen atal ysmygu sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n defnyddio dylanwad a rhwydweithiau cymheiriaid i ledaenu normau di-fwg. Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno i ddisgyblion Blwyddyn 8 mewn ysgolion uwchradd sydd â'r cyfraddau ysmygu uchaf.

 

11.4 Deddfwriaeth 
  • Cyflwynwyd y Bil Tybaco a Fêps i Dŷ'r Cyffredin ar 5 Tachwedd 2024. Byddai'r Bil yn ei gwneud yn anghyfreithlon gwerthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un a anwyd ar ôl 1 Ionawr 2009 ac mae’n cynnwys cynigion hefyd i greu pwerau i weinyddiaeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig ymestyn mannau di-fwg a di-fepio, cyfyngu ar ddeunydd pacio, dulliau arddangos a blasau fêps a thrwyddedu siopau manwerthu tybaco a fêps. Bydd y Rhaglen Rheoli Tybaco yn parhau i ddatblygu'r sylfaen dystiolaeth mewn perthynas â'r mesurau hyn ac yn eirioli dros fesurau a fydd yn mynd i'r afael â'r niwed mae ysmygu'n ei wneud i iechyd y cyhoedd yn y modd mwyaf effeithiol.
  • Mae'r Rhaglen Rheoli Tybaco yn parhau i gefnogi llunwyr polisi a phartneriaid lleol i weithredu deddfwriaeth a chanllawiau di-fwg yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cefnogi tir ysbytai di-fwg, drwy'r Rhaglen Helpa Fi i Stopio yn yr Ysbyty.
  • Bydd deddfwriaeth a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru a gwledydd eraill y DU yn gwahardd fêps tafladwy o fis Mehefin 2025. Bydd y Rhaglen Rheoli Tybaco yn monitro'r effaith ar ysmygu, yn enwedig ymhlith grwpiau sy'n fwy tebygol o ddefnyddio fêps tafladwy.
  • Deddfwriaeth newydd i gyfyngu ar hyrwyddo prisiau cynhyrchion uchel mewn braster, siwgr a halen, a chyfyngu ar eu lleoliad.
  • Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018.

Dychwelyd i'r cynnwys

 

12. Ansawdd data a dehongli 

12.1 Data arolwg hunan-gofnodedig

Cesglir data sy'n ymwneud ag ymddygiad ffordd o fyw drwy'r arolygon canlynol:

  • Arolwg Iechyd Cymru
  • Arolwg Cenedlaethol Cymru
  • Arolwg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

Fel gyda phob arolwg, maent yn dibynnu ar ddata hunan-gofnodedig, y gall gwahanol ffynonellau rhagfarn, megis dymunoldeb cymdeithasol, dwyn i gof neu arddulliau ymateb, effeithio arnynt. Er enghraifft, efallai y bydd pobl yn tan-adrodd pa mor aml maen nhw’n yfed alcohol ac yn gor-adrodd pa mor aml maen nhw’n gwneud ymarfer corff.

Mae meintiau sampl yn effeithio ar faint o hyder sydd gennym wrth adrodd canfyddiadau. Lle bo'n bosibl, rydym wedi cynnwys cyfyngau hyder o 95% yn y lawrlwythiadau data. Mae hyn yn cynrychioli ystod o werthoedd y gallwn fod 95% yn hyderus eu bod yn cynnwys y gyfradd sylfaenol 'wir'. Po fwyaf yw maint y sampl, y lleiaf yw'r bwlch rhwng y cyfyngau hyder uchaf ac isaf.

Mae'r erthygl hon yn adrodd ar ganrannau a arsylwyd heb eu haddasu ar gyfer newidiadau yn y strwythur oedran. Byddai canrannau wedi’u safoni yn ôl oedran yn darparu cymariaethau tecach dros amser, yn enwedig ar gyfer ymddygiadau sy’n cael eu dylanwadu gan oedran a chânt eu hychwanegu at lawrlwythiadau data yn ddiweddarach. Ar hyn o bryd, cyflwynir canrannau a arsylwyd i amlygu eu heffaith uniongyrchol ar wasanaethau a chynllunio gan eu bod yn cynrychioli'r ganran wirioneddol yn y boblogaeth.

 

12.2 Arolwg Iechyd Cymru

Cynhaliwyd Arolwg Iechyd Cymru rhwng 2003/04 a 2015 ac roedd ganddo sampl darged o 15,000. Yn 2016, disodlwyd Arolwg Iechyd Cymru gan Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae data wedi'i archifo ac adroddiadau technegol ar gael ar-lein.

 
12.3 Arolwg Cenedlaethol Cymru

Disodlwyd Arolwg Iechyd Cymru gan Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2016. Er mai olynydd Arolwg Iechyd Cymru ydyw, ni ddylid eu cymharu.  Mae hyn oherwydd wrth i fethodoleg yr arolwg newid, efallai y byddwn yn gweld newid sylweddol oherwydd hyn, yn hytrach na newid naturiol.  Ar gyfer rhai ymddygiadau iach, efallai bydd canllawiau'r Prif Swyddog Meddygol hefyd yn newid, sy'n golygu nad oes dadansoddiad hirdymor ar gael.  Fodd bynnag, er y bydd angen i chi ystyried y newid sylweddol hwn wrth i'r fethodoleg newid, rydych yn dal i allu dod i rai casgliadau am dueddiadau hirdymor.  Dim ond dau ddadansoddiad sy'n cwmpasu'r ddau arolwg, sef BMI a thueddiadau ysmygu. Mae'r categoreiddio ar gyfer y ddau yn aros yr un fath drwy gydol y cyfnodau, ond efallai y bydd newid bach rhwng arolygon a allai fod oherwydd y newid yn yr arolwg yn hytrach na newid naturiol.

Oherwydd y pandemig coronafeirws, bu'n rhaid i Arolwg Cenedlaethol Cymru gyfnewid ei ddull cyflawni arferol, a oedd yn cynnwys cymysgedd o gyfweliadau wyneb yn wyneb a thros y ffôn. Roedd yr arolygon misol a chwarterol rhwng Mai 2020 a Mawrth 2021 yn arolwg ffôn sampl ar hap ar raddfa fawr, gan gyrraedd tua 1,000 o bobl y mis, gyda chyfanswm o 12,000 dros y flwyddyn. O fis Gorffennaf 2021, gofynnwyd i is-sampl o'r ymatebwyr gwblhau adran ar-lein yn dilyn yr adran ffôn. Oherwydd y newid hwn o ran dull, ni ellir cymharu'r canlyniadau yn uniongyrchol.  Fodd bynnag, yn yr un modd â’r newid o Arolwg Iechyd Cymru i Arolwg Cenedlaethol Cymru, er bod yn rhaid ystyried unrhyw newid sylweddol, nid yw’n golygu na fu unrhyw newid ymddygiad gwirioneddol yn dilyn pandemig COVID-19.  Dyna pam ei bod yn hollbwysig ystyried y gyfres ddata hirdymor.  Mae rhagor o wybodaeth am fethodoleg yr arolwg a gwybodaeth dechnegol ar gael gan Lywodraeth Cymru.

 

12.4 Arolwg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

Mae'r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) yn gweinyddu'r Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru bob dwy flynedd. Mae cyfraddau cyfranogiad dros 90% yn gyson, gyda 95% yn cymryd rhan yn 2023 (200 allan o 210). Ers 2017, mae pob ysgol uwchradd a chanol prif ffrwd a gynhelir yng Nghymru yn aelodau o'r SHRN. Am fwy o fanylion am fethodoleg yr arolwg, gweler gwefan yr SHRN. Mae'r wybodaeth ar gael ar ddangosfwrdd yr SHRN hefyd a grëwyd mewn cydweithrediad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

12.5 Rhaglen Mesur Plant Cymru

Mae Rhaglen Mesur Plant Cymru yn casglu mesuriadau taldra a phwysau ar gyfer plant 4-5 oed yng Nghymru. Ym mlwyddyn academaidd 2022/23, mesurwyd 29,916 o blant allan o 32,703 o blant cymwys, sef cyfradd cyfranogiad o 91.5%. Sefydlwyd Rhaglen Mesur Plant Cymru gan statud Llywodraeth Cymru yn 2011, a rhyddhawyd yr adroddiad blynyddol cyntaf yn 2013. Mae datganiad ansawdd data llawn ar gael ar-lein, yn ogystal â data drwy ein dangosfwrdd.

 
12.6 Ansawdd aer

Mae’r DU yn monitro ansawdd aer yn genedlaethol drwy nifer o rwydweithiau o orsafoedd monitro. Enw’r rhwydwaith sy’n monitro crynodiadau o’r llygryddion mwyaf adnabyddus yw’r Rhwydwaith Trefol a Gwledig Awtomatig (AURN), sy’n adrodd ar ddata bob awr mewn amser real mwy neu lai ar wefan UK-AIR.

Mae ystadegau cenedlaethol ar ansawdd aer yn y DU hefyd yn cael eu paratoi ym mis Ebrill bob blwyddyn ac yn darparu asesiad hygyrch o dueddiadau hirdymor mewn ansawdd aer fel y'i mesurir gan yr AURN. Ym mis Medi bob blwyddyn, cyfunir mesuriadau o'r rhwydweithiau monitro cenedlaethol ag allbynnau modelu i ffurfio asesiad cenedlaethol o ansawdd aer yn erbyn y gwerthoedd terfyn a tharged ar gyfer crynodiadau o lygryddion aer wedi’u pennu’n rhyngwladol ac yn ddomestig. Mae’r llywodraeth yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar ganlyniadau’r asesiad hwn, a chyhoeddir y data modelu a ddefnyddiwyd ar gyfer yr adroddiad hwn ar fap rhyngweithiol ar wefan UK-AIR.

Bob blwyddyn mae model Llygredd Mapio Hinsawdd (PCM) Llywodraeth y DU yn cyfrifo crynodiadau llygryddion cyfartalog ar gyfer pob cilomedr sgwâr o'r DU. Mae'r model yn cael ei galibro yn erbyn mesuriadau a gymerwyd o rwydwaith monitro ansawdd aer cenedlaethol y DU.

Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r data yma i ddynodi crynodiad o NO2, PM2.5 a PM10 i bob annedd preswyl yng Nghymru yn seiliedig ar ba gilometr sgwâr o Gymru mae ynddo.

Ar gyfer diweddariad 2022 o'r dangosyddion cenedlaethol ansawdd aer, gweithredwyd gwelliant methodolegol i'r ffordd y cyfrifir pwysau'r anheddau, gan nad oedd y broses wreiddiol a ddefnyddiwyd i amcangyfrif dangosyddion cenedlaethol ansawdd aer (cyn 2022) yn cyfrifo'r pwysau yn y ffordd a fwriadwyd. Cynhaliwyd asesiad o'r effaith ar y data hanesyddol ac mae'r effaith yn fach. O ystyried bod y data llygredd aer yn cael ei fodelu ac mae amcangyfrifon y boblogaeth wedi eu hail-seilio yn dilyn y Cyfrifiad, mae ansicrwydd eisoes yn bodoli sy'n gysylltiedig â'r amcangyfrifon hyn. Oherwydd yr ansicrwydd hwn, diffyg data anheddau hanesyddol manwl ac effaith fechan y newid methodolegol, nid yw'r data hanesyddol wedi'i ddiwygio.

Ceir rhagor o wybodaeth am y data a ddefnyddir ar wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

Dychwelyd i'r cynnwys

 

13. Lawrlwythwch y data

13.1 Lawrlwythwch y data yn yr erthygl hon - Excel  
13.2 Lawrlwythwch y data o'r erthygl hon gyda dadansoddiadau ychwanegol - CSV 

Dychwelyd i'r cynnwys