Roedd gofalwyr di-dâl yn gwneud mwy o ddefnydd o wasanaethau gofal iechyd na’r rhai nad oeddent yn ofalwyr*, er nad oedd hyn bob amser yn wahaniaeth ystadegol arwyddocaol.
Roedd gofalwyr di-dâl yn dod i gysylltiad â phractisau cyffredinol yn amlach na’r rhai nad oeddent yn ofalwyr ym mhob un o’r tair ardal ddaearyddol (cymhareb cyfradd 1.3, 95% CH 1.2-1.3 yng Nghastell-nedd Port Talbot; 1.3, 1.3-1.3 yn Abertawe; 1.2, 1.2-1.3 yn Sir Ddinbych).
Ymwelodd mwy o ofalwyr di-dâl ag Adrannau Achosion Brys na'r rhai nad oeddent yn ofalwyr, ac roedd y gwahaniaeth yn arwyddocaol yng Nghastell-nedd Port Talbot (cymhareb cyfradd 1.3, 95% CH 1.1-1.6) ac Abertawe (2.0, 1.5-2.8).
Er bod y gyfradd arosiadau wedi'u cynllunio yn yr ysbyty hefyd yn uwch ymysg gofalwyr di-dâl ar draws pob ardal, nid oedd y gwahaniaeth yn ystadegol arwyddocaol.
Yn Abertawe, roedd gofalwyr di-dâl yn sylweddol fwy tebygol o gael eu derbyn i'r ysbyty fel achosion brys (2.0, 95% CH 1.3-3.2).
Roedd ymweliadau cleifion allanol hefyd yn fwy cyffredin ymhlith gofalwyr di-dâl, yn arwyddocaol felly yn Abertawe (1.3, 95% CH 1.1-1.7).
Mae'r cyfraddau uwch o ddefnydd o ofal iechyd ymhlith gofalwyr di-dâl yn adlewyrchu'r ffaith bod eu hiechyd yn waeth yn gyffredinol. Fodd bynnag, dim ond gwybodaeth am ddefnydd o'r gwasanaeth iechyd y mae data'r gwasanaeth iechyd yn ei darparu ac efallai nad yw'n cynrychioli angen.
*Noder: mae'r “rhai nad ydynt yn ofalwyr” yn cyfeirio at boblogaeth sy'n cyfateb i oedran, rhyw ac ardal ddaearyddol unigolion na chawsant eu nodi yn y boblogaeth gofalwyr di-dâl. Am fanylion pellach, gweler methodology doc.
Mae cyfraddau safonedig yn dangos bod gofalwyr di-dâl a nodwyd gan yr awdurdodau lleol yn dod i gysylltiad â'u meddyg teulu yn amlach na gofalwyr a nodwyd gan bractisau cyffredinol. Mae hyn yn awgrymu bod ffactorau eraill yn dylanwadu ar y cyfraddau uwch o gysylltiad â meddygon teulu.
Roedd gofalwyr di-dâl a nodwyd gan yr ALl yn ymweld â meddygon teulu yn amlach na'r rhai a nodwyd gan bractisau cyffredinol yng Nghastell-nedd Port Talbot a Sir Ddinbych, (cymhareb cyfradd 1.3, 95% CH 1.2-1.3 yng Nghastell-nedd Port Talbot; 1.3, 1.2-1.3 yn Sir Ddinbych; Ffigur 5).
Hyd yn oed pan safonwyd rhyw yn ôl oedran, dangosodd y cyfraddau bod y gofalwyr di-dâl a nodwyd gan awdurdodau lleol Castell-nedd Port Talbot yn dal i gael mwy o gysylltiad â meddygon teulu (cymhareb cyfradd 1.2, 95% CH 1.1-1.2). Mae hyn yn awgrymu na all oedran yn unig esbonio'r gwahaniaeth, a rhaid bod ffactorau eraill yn dylanwadu ar y cyfraddau uwch hyn o ymweliadau â meddygon teulu.
Roedd gofalwyr di-dâl a nodwyd gan yr awdurdodau lleol yn gwneud mwy o ddefnydd o wasanaethau gofal iechyd na’r rhai nad oeddent yn ofalwyr*, er nad oedd hyn bob amser yn wahaniaeth ystadegol arwyddocaol.
Er bod cyfraddau’r gofalwyr di-dâl a nodwyd gan yr awdurdodau lleol â oedd yn destun derbyniadau i'r adran achosion brys, derbyniadau wedi’u cynllunio, derbyniadau brys, a derbyniadau i adrannau cleifion allanol yn uwch na chyfraddau'r gofalwyr di-dâl a nodwyd gan bractisau cyffredinol (ac eithrio derbyniadau wedi’u cynllunio yn Abertawe), nid oedd mwyafrif y gwahaniaethau hyn yn ystadegol arwyddocaol (Ffigur 6).
Roedd yr unig eithriadau i'w gweld yng Nghastell-nedd Port Talbot, lle roedd cyfraddau’r gofalwyr di-dâl a nodwyd gan yr ALl gyda derbyniadau wedi’u cynllunio (cymhareb cyfradd 1.7, 95% CH 1.1-2.6) a'r rhai a fynychodd fel cleifion allanol (1.3, 1.1-1.6) yn sylweddol uwch na'r cyfraddau ymysg gofalwyr di-dâl a nodwyd gan bractisau cyffredinol. Roedd hyn oherwydd oedran hŷn y gofalwyr a nodwyd gan yr awdurdodau lleol.
Roedd y cyfraddau uwch o ddefnydd o wasanaethau iechyd eilaidd ymysg gofalwyr di-dâl a nodwyd gan awdurdodau lleol o gymharu â'r rhai a nodwyd gan bractisau cyffredinol i'w priodoli'n bennaf i wahaniaethau mewn oedran rhwng y poblogaethau. Nid oes digon o dystiolaeth i ddod i'r casgliad a oedd unrhyw ffactorau eraill yn dylanwadu ar wahaniaethau yn y defnydd o wasanaethau gofal iechyd eilaidd.