Nodwyd dwy garfan o ofalwyr di-dâl mewn tair ardal ddaearyddol (Castell-nedd Port Talbot, Abertawe a Sir Ddinbych) gan ddefnyddio dwy ffynhonnell ddata arferol:
(1) Gofalwyr a nodwyd gan Awdurdodau Lleol (ALl): pobl a gafodd asesiad gofalwr, fel y’i cofnodwyd yn nata’r awdurdod lleol.
(2) Gofalwyr a nodwyd gan bractisau cyffredinol ym maes gofal sylfaenol: pobl y cofnodwyd eu bod yn darparu gofal di-dâl mewn data gofal sylfaenol.
Pennwyd cyfnod yr astudiaeth ar gyfer pob ardal ddaearyddol gan y cyfnod yr oedd data asesiadau gofalwyr awdurdodau lleol ar gael ar ei gyfer (Ffigur 1).
Cynyddodd nifer y gofalwyr di-dâl a nodwyd gan bractisau cyffredinol yn ystod chwarter pedwar (Hydref – Rhagfyr) bob blwyddyn, a bu cynnydd sylweddol yn chwarter un (Ionawr – Mawrth) 2021 (Ffigur 1).
Mae’r cynnydd hwn ar gyfer 2021 yn cyd-fynd â chyhoeddi Strategaeth Frechu Cymru (14) a brechlyn COVID-19 i ofalwyr di-dâl (15).
Mae'n debygol bod y broses o adnabod gofalwyr gan ddefnyddio data asesu gofalwyr wedi aros yn gymharol sefydlog dros amser oherwydd bod awdurdodau lleol eisoes yn cynnal asesiadau gofalwyr hyd eithaf eu capasiti. Mewn gwrthgyferbyniad â hyn, gall practisau cyffredinol weld niferoedd mawr o gleifion mewn cyfnodau byrrach o amser, sy'n golygu bod ganddynt fwy o gapasiti i gofnodi pobl fel gofalwyr di-dâl mewn data gofal sylfaenol. Mae hyn yn caniatáu amrywiad yn nifer y gofalwyr di-dâl a nodir gan bractisau cyffredinol dros amser mewn ymateb i ffactorau allanol (e.e. pandemig, pwysau'r gaeaf etc.). Mae hefyd yn bwysig nodi bod y defnydd o godau gofal sylfaenol (codau Read) yn oddrychol ac yn amrywio rhwng sefyllfaoedd a phractisau cyffredinol.
Cofnodwyd y mwyafrif o ofalwyr di-dâl yng nghofnodion practisau cyffredinol, yn amrywio o 69.7% i 79.6% yn dibynnu ar yr ardal ddaearyddol. Roedd llai na 4.0% o'r gofalwyr di-dâl a nodwyd ym mhob ardal wedi'u cofnodi yn nata asesiadau gofalwyr yn ogystal â data gofal sylfaenol o fewn cyfnod yr astudiaeth.
Gan fod dibenion gweinyddol gwahanol i'r ddwy set ddata, efallai y gellid priodoli'r diffyg gorgyffwrdd i'r gwahaniaethau yn y cymorth sydd ei angen ar unigolion neu'r ffordd y mae data'n cael eu cofnodi. Nid yw’n hysbys ychwaith faint o’r rhai a gofnodwyd fel gofalwyr di-dâl yn y data gofal sylfaenol sydd ar y rhestr aros am asesiad gofalwr – gallai dim ond defnyddio data asesiadau wedi’u cwblhau gynyddu’r gwahaniaeth rhwng poblogaethau. O fis Ebrill 2021 i fis Mawrth 2022, roedd y gofalwyr di-dâl a nodwyd yn cynrychioli llai nag 1.0% o’r boblogaeth oedolion ym mhob ardal ddaearyddol (16). Fel cymhariaeth, yng nghyfrifiad 2021, dywedodd rhwng 13.2%-15.4% o’r boblogaeth yn yr ardaloedd hyn eu bod yn darparu gofal di-dâl (17).
Gan ddefnyddio ffynonellau data awdurdodau lleol a gofal sylfaenol, dim ond cyfran fach o ofalwyr di-dâl ym mhob ardal leol yr oeddem yn gallu eu nodi. Mae hyn yn awgrymu y byddai defnyddio un ffynhonnell ddata yn unig yn cyfyngu’r ddealltwriaeth i grŵp penodol o ofalwyr di-dâl.
(14) Government W. Vaccination saves lives Mae Brechu yn achub bywydau. 2021.
Ar gael o: llyw.cymru
(15) Senedd Cymru , Ymchwil y Senedd. Briff Ymchwil. 2022 [dyfynnwyd 30 Awst 2022]. p. 1–34 Llinell amser coronafeirws: yr ymateb yng Nghymru. Ar gael o: senedd.cymru
(16) Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2020) Estimates of the population for the UK, England and Wales, Scotland and Northern Ireland- Mid-2019: [dyfynnwyd 17 Awst 2023]. Ar gael yn: ons.gov.uk
(17) Gofal di-dâl, Cymru a Lloegr – y Swyddfa Ystadegau Gwladol [Y rhyngrwyd]. [dyfynnwyd 17 Awst 2023]. Ar gael o: ons.gov.uk