Neidio i'r prif gynnwy
Stephanie Wilkins

Cynrychiolydd y Fforwm Partneriaeth

Amdanaf i

Cynrychiolydd y Fforwm Partneriaeth

Stephanie Wilkins yw prif gynrychiolydd Unite yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae’n mynychu cyfarfodydd y bwrdd ar ran yr undebau llafur cydnabyddedig.

Mae Steph yn Ysgrifennydd ar gyfer pwyllgor staff Iechyd Cyhoeddus Cymru a changen Unite Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae hefyd yn aelod o bwyllgor sector iechyd rhanbarthol Unite.

Mae wedi bod yn gynrychiolydd Unite ers 15 mlynedd bron; mae hyn yn golygu cynrychioli aelodau, gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o dimau ac ymgymryd â gwaith achos, ymysg tasgau eraill

Yn ei rôl fel cynrychiolydd undeb llafur, mae Steph yn cydnabod bod ganddi gyfle prin a breintiedig i weithio’n agos gyda staff ar draws y sefydliad, o lefel leol i lefel y bwrdd, ac mae hyn wedi rhoi dealltwriaeth iddi o’r problemau a’r heriau sy’n wynebu’r staff a’r sefydliad.

Mae Steph yn Wyddonydd Siartredig ac yn Gymrawd y Sefydliad Gwyddoniaeth Fiomeddygol, ac mae wedi’i chyflogi fel Gwyddonydd Biomeddygol yn y Gwasanaeth Microbioleg yng Nghaerdydd ers 1990