Ein prif nod yw gwella, mewn modd mesuradwy, iechyd y boblogaeth yng Nghymru trwy arwain a chefnogi gwaith ymchwil a gwerthuso ym maes iechyd ar lefel y boblogaeth.
Er mwyn cyflawni hyn, byddwn:
- Yn nodi blaenoriaethau ar gyfer ymchwil a gwerthuso ym maes iechyd cyhoeddus er mwyn llunio’r agenda ymchwil, gweithio gyda phartneriaid i arwain portffolio gwerthfawr o waith ymchwil a gwerthuso, a chreu a defnyddio tystiolaeth i wella iechyd y boblogaeth a lleihau anghyfartalwch iechyd yng Nghymru.
- Yn helpu’r rhai sy’n gwneud gwaith ymchwil a gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu, sefydlu a chyflawni gwaith ymchwil a gwerthuso sy’n drylwyr, sy’n ystyrlon ac sy’n canolbwyntio ar fylchau pwysig mewn gwaith ymchwil a gwerthuso ym maes iechyd cyhoeddus. Byddwn yn gwneud hyn trwy ddarparu model syml ac effeithiol i helpu i reoli a chefnogi gwaith ymchwil a gwerthuso.
- Yn hybu arweinyddiaeth o ran ymchwil a gwerthuso ym maes iechyd cyhoeddus ledled Cymru a’r DU. Byddwn yn gweithio i ddylanwadu ar yr amgylchedd o ran cyllid ymchwil ac i feithrin diwylliant sy’n annog ymchwil ddylanwadol ac sy’n sicrhau bod gwaith gwerthuso’n mesur yr effaith ar ganlyniadau iechyd.
Er mwyn hybu twf ymchwil a gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, byddwn yn defnyddio ein cryfderau a’n hasedau i lywio ein gwaith.