Rydym wedi datblygu Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru a fydd yn ein harwain hyd 2026. Mae’n dangos sut y byddwn yn gweithio gydag eraill i arwain gwaith ymchwil a gwerthuso yng Nghymru. Strategaeth alluogi yw hon a fydd yn ein helpu i gyflawni ein Strategaeth Hirdymor (2023-35).
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymrwymedig i ymchwil a gwerthuso er mwyn ceisio dod o hyd i ffyrdd o wella iechyd, lleihau anghydraddoldebau a hyrwyddo llesiant yng Nghymru.
Er mwyn gweithredu’r strategaeth byddwn yn:
Er mwyn sicrhau bod ein strategaeth yn llwyddiannus, byddwn yn:
Rydym am greu diwylliant ymchwil a gwerthuso sy’n rhoi gwerth ar weithgareddau ymchwil a gwerthuso. Rydym yn awyddus i gael diwylliant sy’n cefnogi’r staff i ddatblygu a defnyddio sgiliau ymchwil a gwerthuso, er mwyn cynyddu capasiti a gallu’r gweithlu
Byddwn yn creu seilwaith galluogol o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi ac i reoli ymchwil. Bydd hyn yn cefnogi’r broses o ddatblygu amgylchedd ymchwil a gwerthuso ffyniannus o fewn y sefydliad.
Gan fod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhan o ecosystem ymchwil a gwerthuso ehangach, mae’n hollbwysig ein bod yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid a chyllidwyr. Rydym yn awyddus i ddylanwadu ar agenda ymchwil y rhai sy’n cyllido ymchwil, adrannau o’r llywodraeth, sefydliadau academaidd a sefydliadau partner.
Mae cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd mewn ffordd ragorol yn sicrhau bod gwaith ymchwil a gwerthuso yn fwy perthnasol a dibynadwy ac yn fwy tebygol o newid dulliau ymarfer. Rydym yn awyddus i gynnwys pobl sydd â diddordeb yn iechyd y boblogaeth i wella perthnasedd, ansawdd ac effaith ein gwaith ymchwil a gwerthuso.