Mae’r Dwymyn Goch, a elwir weithiau’n ‘scarlatina’, yn glefyd heintus a achosir gan facteria streptococcus grŵp A (GAS) (sy’n hysbys hefyd fel Streptococcus pyogenes).
Mae’n hynod heintus a gellir ei ddal drwy gyswllt uniongyrchol â pherson sydd wedi’i heintio neu drwy’r aer drwy ddefnynnau o besychiadau neu disian.
Symptomau nodweddiadol y dwymyn goch yw brech binc-goch fân sydd i’w theimlo fel papur llyfnu i’w chyffwrdd. Mae symptomau eraill yn cynnwys tymheredd uchel, wyneb coch a thafod coch chwyddedig. Fe achosir y symptomau gan wenwynau a gynhyrchir gan y bacteria streptococcus.
I gael gwybodaeth fanylach am y dwymyn goch gweler gwefan Galw Iechyd Cymru ar https://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/encyclopaedia/s/article/scarletfever/?print=1
Mae’r dwymyn goch yn un o nifer o glefydau hysbysadwy yn y Deyrnas Unedig. Mae’n ofynnol drwy gyfraith i unrhyw feddyg sy’n amau bod claf â’r dwymyn goch ei hadrodd.
Gellir gweld y nifer o hysbysiadau o'r Dwymyn Goch ar ein dangosfwrdd data rhyngweithiol.
Bydd y dwymyn goch yn effeithio ar blant o ddwy i wyth oed yn bennaf, ond gellir ei dal gan rywun o unrhyw oed. Yn achlysurol, bydd achosion o’r dwymyn goch yn digwydd mewn ysgolion meithrin ac ysgolion. Mae’r afiechyd yn tueddu i fod yn fwy cyffredin yn y gaeaf a’r gwanwyn.
Bydd symptomau’r dwymyn goch yn datblygu dim ond os bydd y person yn dueddol i ddioddef oddi wrth docsinau a gynhyrchir gan y bacteria streptococcus. Erbyn y byddan nhw’n 10 oed bydd y rhan fwyaf o bobl wedi datblygu imiwnedd i’r tocsinau hyn.
Mae’n bosib dal y dwymyn goch fwy nag unwaith, er bod hynny’n brin. Gall pobl sydd ag imiwnedd i’r tocsinau sy’n achosi brech ddal i gael dolur gwddw streptococcal a heintiau eraill a achosir gan yr un bacteriwm.
Roedd y dwymyn goch yn fwy cyffredin yn y gorffennol a gallai fod yn fwy difrifol hefyd, ond mae achosion difrifol o’r dwymyn goch yn brin yn awr a gellir ei thrin â gwrthfiotigau.
Ni fydd y rhan fwyaf o achosion o’r dwymyn goch yn achosi cymhlethdodau, yn enwedig os caiff y cyflwr ei drin yn briodol. Fodd bynnag, gall cymhlethdodau yng nghyfnod cynnar y clefyd achosi haint yn y glust, casgliad yn y gwddw, sinusitis, niwmonia a llid yr ymennydd.
Mae cymhlethdodau prin iawn yn cynnwys twymyn y gwynegon, niwed i’r arennau, haint yr esgyrn, gwenwyniad gwaed a syndrom sioc tocsig a allai beryglu bywyd.
Fe wnaiff y rhan fwyaf o achosion o’r dwymyn goch glirio ar eu pen eu hunain, ond mae’n well ceisio cyngor meddygol. Mae cael triniaeth ar gyfer y salwch yn cyflymu adferiad, yn lleihau’r risg o gymhlethdodau ac yn gwneud y claf yn anheintus yn gynt.
Y driniaeth arferol ar gyfer y dwymyn goch yw cwrs 10 diwrnod o wrthfiotigau. Fel rheol bydd y dwymyn yn diflannu o fewn 24 awr o ddechrau’r gwrthfiotigau a bydd y symptomau eraill yn mynd fel arfer o fewn ychydig ddyddiau. Fodd bynnag, mae’n rhaid gorffen cwrs cyfan y driniaeth i wneud yn siŵr fod yr haint wedi clirio’n gyfan gwbl.
Gall y dwymyn goch fod yn hynod heintus, yn enwedig pan fydd pobl sy’n dueddol o gael heintiau mewn amgylchedd caeedig. Dylid cadw pobl sydd â’r dwymyn goch i ffwrdd oddi wrth eraill hyd nes y byddan nhw wedi bod ar gwrs o wrthfiotigau am o leiaf 24 awr.
Bydd arfer mesurau da o reoli haint gyda rhywun sydd wedi’i heintio’n helpu i leihau lledaeniad haint. Mae’r rhain yn cynnwys golchi neu gael gwared ag unrhyw hancesi papur neu hancesi ar unwaith, golchi’r dwylo’n aml ac yn drylwyr â dŵr a sebon a pheidio â rhannu offer bwyta, dillad, dillad gwely a thyweli.
Nid oes yna unrhyw frechiad yn erbyn y dwymyn goch.
Mae canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar atal a rheoli haint mewn lleoliadau gofal plant, rhag lledaenu clefydau heintus fel y dwymyn goch ar gael ar Atal a Rheoli Haint ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant 2014.
Roedd y dwymyn goch yn afiechyd cyffredin ymysg plant cyn canol yr 20fed ganrif. Er iddo fod yn llawer llai cyffredin yn y blynyddoedd diwethaf, fe adroddwyd nifer fawr iawn o achosion yng Nghymru yn 2014 (1382 yn y flwyddyn gyfan) ac yn y Deyrnas Unedig yn gyfan.
Mae bacteria streptococcus (GAS) i’w cael yn gyffredin ar y croen neu yn y gwddw, lle gallant fyw heb achosi problemau. Mewn rhai amgylchiadau, fodd bynnag, gall y bacteria hyn achosi afiechyd.
Ar wahân i’r dwymyn goch, mae yna rai clefydau eraill a achosir gan facteria GAS sy’n amrywio yn eu difrifoldeb o ysgafn i beryglu bywyd.
Cyflwyniadau mwyaf cyffredin haint GAS yw dolur gwddw ysgafn (‘strep throat') a heintiadau croen/meinwe meddal fel impetigo a llid yr isgroen. Mae cymhlethdodau haint GAS sy’n brinnach yn cynnwys twymyn ddifrifol y gwynegon a poststreptococcal glomerulonephritis (clefyd y galon a’r arennau a achosir gan adwaith imiwn i’r bacteria).
Fodd bynnag, gall GAS achosi heintiadau ymwthiol mwy difrifol (y cyfeirir atyn nhw fel heintiau iGAS) fel bacteraemia (haint llif y gwaed), necrotising fasciitis (haint difrifol sy’n golygu marwolaeth ardaloedd o feinwe meddal o dan y croen) a syndrom sioc tocsig streptococcal (symptomau sy’n gynyddol gyflym gyda phwysedd gwaed isel a methiant organau lluosog).
Mae heintiadau iGAS yn fwyaf cyffredin ymysg yr oedrannus, yr ifanc iawn neu bobl sydd â ffactor risg sylfaenol fel chwistrellu cyffuriau, alcoholiaeth, gwrthimiwnedd neu ganser. Er bod nifer yr achosion o heintiau ymledol difrifol yn isel, bydd oddeutu 15 - 25% o bobl sy’n cael diagnosis o haint GAS ymledol, yn anffodus, yn marw.
Un rôl bwysig Iechyd Cyhoeddus Cymru yw casglu a dehongli data ynglŷn â lefelau clefydau heintus yn y boblogaeth Gymreig. Mae heintiadau allweddol, yn cynnwys y dwymyn goch ac iGAS, dan wyliadwriaeth gyson, i ganfod tueddiadau arwyddocaol, i werthuso mesurau atal a rheoli ac i rybuddio’r bobl broffesiynol priodol a sefydliadau o fygythiadau clefydau heintus