Neidio i'r prif gynnwy

Sut caiff fy nata eu storio neu eu defnyddio?

Mae diogelu data personol yn brif flaenoriaeth i DJS Research Ltd a Iechyd Cyhoeddus Cymru, fel erioed. Mae DJS Research yn cydymffurfio â chanllawiau a gofynion y cod ymddygiad proffesiynol sy’n berthnasol i bob cwmni ymchwil i’r farchnad cofrestredig a’r holl reoliadau lleol presennol, yn enwedig o ran diogelu data cyfranogwyr. Mae DJS Research yn defnyddio technegau anonymeiddio (rhoi data dan ffugenw) i ddiogelu data personol ymatebwyr fel rhan o’i weithrediadau casglu data er mwyn sicrhau bod mynediad yn gyfyngedig i’w dimau gwaith maes yn ei unedau gweithredu ar sail angen gwybod yn unig.

Ni fydd eich data personol (e.e. enw) yn cael eu storio’n uniongyrchol gyda’r atebion a roddwch i’r arolwg. Bydd pob aelod o’r panel yn cael cod adnabod unigryw a gynhyrchir ar hap, a bydd hwnnw’n cael ei neilltuo i’ch atebion.

Os ydych yn poeni am sut mae eich data yn cael eu rheoli, ewch i hysbysiad preifatrwydd DJS Research a hysbysiad preifatrwydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, neu e-bostiwch Dîm y Prosiect yn SiaradICCymru@djsresearch.com.