Neidio i'r prif gynnwy

Beth os na allaf gwblhau arolwg pob chwarter?

Bydd yn bwysig bod cynifer o bobl â phosibl yn cwblhau pob arolwg, er mwyn sicrhau bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael barn trawstoriad da o breswylwyr i gynrychioli pob grŵp poblogaeth. Felly gofynnwn i aelodau gyflwyno ymateb ar gyfer pob arolwg, lle bo modd. Fodd bynnag, rydym yn sylweddoli na fydd hyn bob amser yn bosibl oherwydd gwyliau, salwch neu ymrwymiadau neu bwysau eraill ar eich amser.

Os byddwch yn gwrthod cymryd rhan mewn arolwg un fis, neu os na fyddwch yn ei gwblhau, byddwn yn parhau i’ch gwahodd i gwblhau’r arolwg am ychydig fisoedd wedyn. Fodd bynnag, os byddwch yn methu tri arolwg yn olynol, efallai y byddwch yn cael eich tynnu oddi ar y Panel.