Mae'r brechlyn MenACWY yn helpu i'ch diogelu rhag pedwar math o facteria meningococaidd, gan gynnwys y Men W ymosodol.
Bacteria meningococaidd yw prif achos llid yr ymennydd (llid leinin yr ymennydd) a septisemia (gwenwyn gwaed) yn y DU. Gall y clefydau hyn achosi anabledd parhaol neu farwolaeth.
Mae 1 o bob 10 o bobl yn cario'r bacteria heb brofi unrhyw salwch. Mae hyn yn cynyddu i 1 o bob 4 o blant yn eu harddegau hwyr, oherwydd y grŵp oedran hwn yw'r rhai sy'n fwyaf tebygol o gario'r bacteria. Gallant ledu'r haint i eraill drwy gyswllt agos gan gynnwys pesychu, tisian a chusanu.
Cynigir y brechlyn MenACWY i bobl ifanc tua 14-15 oed, fel rhan o amserlen fechu arferol y GIG.
Mae gan bobl ifanc hawl i gael y brechiad unrhyw bryd hyd at eu pen-blwydd yn 25 oed.
Mae myfyrwyr o dan 25 oed o unrhyw genedligrwydd sy'n dechrau yn y brifysgol am y tro cyntaf sydd heb derbyn y brechlyn hefyd yn gymwys.
Os credwch eich bod yn gymwys ond nad ydych wedi cael y brechlyn hyd yma, cysylltwch â’ch meddygfa neu'r nyrs ysgol cyn gynted â phosibl er mwyn trafod sut i gael eich diogelu.
Nid yw'r brechlyn yn diogelu rhag pob math o'r bacteria felly mae dal yn bwysig gwybod yr arwyddion a'r symptomau. Nid oes amser gwell na heddiw i ddiogelu eich hun a'r rhai o'ch amgylch drwy sicrhau eich bod wedi cael eich brechiadau i gyd.
Cynigir nifer o frechlynnau am ddim ar y GIG i bawb sy'n byw yng Nghymru. Gallwch weld yr Amserlen Brechu gyflawn ar wefan Galw Iechyd Cymru.
Galw Iechyd Cymru: Brechlyn MenACWY
Arwyddion a Symptomau Llid yr Ymennydd
Cwestiynnau Cyffredin ar brechlyn MenACWY wrth Meningitis Now
Beth i'w wneud os ydych yn cael trafferth cael y brechlyn gan eich meddyg
Gwybodaeth am MenACWY gan y Sylfaen Ymchwil Llid yr Ymennydd
Mae gan yr adroddiad COVER diweddaraf wybodaeth am y nifer sy'n manteisio ar frechlyn MenACWY ym mlwyddyn ysgol 9. Mae data am dderbyniad imiwneiddio dal i fyny MenACWY ar gael o'r dangosfwrdd data rhyngweithiol hwn.
Mae Hysbysiadau Statudol o glefydau Heintus (NOIDS) ar gyfer Cymru a Lloegr yn cynnwys data ar lid yr ymennydd a chlefyd meningococcal.