Neidio i'r prif gynnwy

MenACWY

Mae'r brechlyn MenACWY yn helpu i'ch diogelu rhag pedwar math o facteria meningococaidd, gan gynnwys y Men W ymosodol. 

Bacteria meningococaidd yw prif achos llid yr ymennydd (llid leinin yr ymennydd) a septisemia (gwenwyn gwaed) yn y DU. Gall y clefydau hyn achosi anabledd parhaol neu farwolaeth.

Mae 1 o bob 10 o bobl yn cario'r bacteria heb brofi unrhyw salwch. Mae hyn yn cynyddu i 1 o bob 4 o blant yn eu harddegau hwyr, oherwydd y grŵp oedran hwn yw'r rhai sy'n fwyaf tebygol o gario'r bacteria. Gallant ledu'r haint i eraill drwy gyswllt agos gan gynnwys pesychu, tisian a chusanu.

Ydw i'n gymwys?

Cynigir y brechlyn MenACWY i bobl ifanc tua 14-15 oed, fel rhan o amserlen fechu arferol y GIG.

Mae gan bobl ifanc hawl i gael y brechiad unrhyw bryd hyd at eu pen-blwydd yn 25 oed.

Mae myfyrwyr o dan 25 oed o unrhyw genedligrwydd sy'n dechrau yn y brifysgol am y tro cyntaf sydd heb derbyn y brechlyn hefyd yn gymwys.

Sut alla i cael y brechiad?

Os credwch eich bod yn gymwys ond nad ydych wedi cael y brechlyn hyd yma, cysylltwch â’ch meddygfa neu'r nyrs ysgol cyn gynted â phosibl er mwyn trafod sut i gael eich diogelu.

Nid yw'r brechlyn yn diogelu rhag pob math o'r bacteria felly mae dal yn bwysig gwybod yr arwyddion a'r symptomau. ​Nid oes amser gwell na heddiw i ddiogelu eich hun a'r rhai o'ch amgylch drwy sicrhau eich bod wedi cael eich brechiadau i gyd.

Adnoddau

Brechlynnau eraill

Cynigir nifer o frechlynnau am ddim ar y GIG i bawb sy'n byw yng Nghymru. Gallwch weld yr Amserlen Brechu gyflawn ar wefan Galw Iechyd Cymru.

Mwy o wybodaeth

Galw Iechyd Cymru: Brechlyn MenACWY

Arwyddion a Symptomau Llid yr Ymennydd

Cwestiynnau Cyffredin ar brechlyn MenACWY wrth Meningitis Now

Beth i'w wneud os ydych yn cael trafferth cael y brechlyn gan eich  meddyg

Gwybodaeth am MenACWY gan y Sylfaen Ymchwil Llid yr Ymennydd

Data

Mae gan yr adroddiad COVER diweddaraf wybodaeth am y nifer sy'n manteisio ar frechlyn MenACWY ym mlwyddyn ysgol 9. Mae data am dderbyniad imiwneiddio dal i fyny MenACWY ar gael o'r dangosfwrdd data rhyngweithiol hwn.

Mae Hysbysiadau Statudol o glefydau Heintus (NOIDS) ar gyfer Cymru a Lloegr yn cynnwys data ar lid yr ymennydd a chlefyd meningococcal.