Cyhoeddwyd Rhagfyr 2021
Mae brechu COVID-19 yn cael ei argymell yn gryf ar gyfer menywod beichiog a menywod sy'n bwydo ar y fron.
Dangoswyd bod y brechlynnau COVID-19 sydd ar gael yn y DU ar hyn o bryd yn effeithiol ac mae ganddynt record ddiogelwch dda. Mae’n bwysig bod menywod beichiog yn cael eu brechu'n llawn cyn gynted â phosibl i amddiffyn eu hunain a'u babanod.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am frechlynnau COVID-19, gan gynnwys eu cynnwys a sgil-effeithiau posibl yn: coronavirus-yellowcard.mhra.gov.uk/productinformation.
Ceir rhagor o wybodaeth a thaflenni i gleifion yn: icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19.
Gallwch roi gwybod am sgil-effeithiau a amheuir ar-lein yn:coronavirus-yellowcard.mhra.gov.uk neu drwy lawrlwytho’r ap Cerdyn Melyn.
I gael gwybod sut y mae'r GIG yn defnyddio eich gwybodaeth, ewch i: 111.wales.nhs.uk/AboutUs/Yourinformation?locale=cy
I gael y daflen hon mewn fformatau eraill ewch i: iechyscyhoedduscymru.org/adnoddau-gwybodaeth-iechyd
Cymorth gwybodaeth a phenderfyniad i gefnogi menywod i wneud dewis gwybodus am frechu COVID-19 yn ystod beichiogrwydd: Saesneg | Cymraeg [Llwythwyd i fyny 16 Rhagfyr]
Ffeithlun - Gwybodaeth allweddol ar COVID-19 yn ystod Beichiogrwydd UKOSS, Rhagfyr 2021 Saesneg | Cymraeg i'w ddilyn [Ychwanegwyd 22 Rhagfyr 2021]