Cael ein brechu yw un o'r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud i ddiogelu ein hunain a'n plant rhag salwch difrifol. Mae brechiadau yn atal miliynau o farwolaethau ar draws y byd bob blwyddyn. Yn aml, babanod a phlant sydd fwyaf agored i niwed oherwydd clefydau y gallai brechlynnau eu hatal.
Mae clefydau fel y frech wen, polio a thetanws, a oedd yn arfer anablu neu ladd miliynau o bobl naill ai wedi diflannu neu'n brin iawn ers i'r brechiad gael ei gyflwyno yn y DU. Mae clefydau eraill, fel difftheria a'r frech goch, wedi lleihau i nifer bach iawn o achosion. Fodd bynnag, mae achosion o'r frech goch wedi dechrau cynyddu eto yng Nghymru. Mae hyn yn destun pryder gan y gall y frech goch arwain at gymhlethdodau difrifol sy'n peryglu bywyd, fel meningitis (safle allanol).
Rhowch y dechrau gorau mewn bywyd i'ch plentyn, a gwnewch yn siŵr ei fod wedi cael ei frechiadau arferol diweddaraf.
Bydd eich plant yn cael cynnig brechlynnau eraill pan fyddant yn cyrraedd oedran ysgol. Gweler yr icc.gig.cymru/AmserlenGyflawn
Mae brechiadau yn helpu i ddiogelu eich plentyn drwy baratoi ei system imiwnedd i ymladd yn erbyn gwahanol fathau o salwch sy'n lledaenu rhwng pobl (clefydau heintus). Mae rhai clefydau yn peri mwy o risg i fabanod a phlant bach oherwydd gall y symptomau fod yn fwy difrifol ac achosi niwed parhaol i'w hiechyd, neu arwain at farwolaeth hyd yn oed. Mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod babanod yn cael eu diogelu cyn gynted â phosibl er mwyn eu hatal rhag dal y clefydau.
Mae'r rhaglenni brechu yn y DU yn effeithiol iawn. Mae hyn yn golygu bod clefydau fel y frech goch, polio a difftheria yn brin yn y DU. Fodd bynnag, os na chaiff babanod a phlant bach eu brechu rhag y clefydau hyn, gallant ddod yn fwy cyffredin eto. Gall llawer o'r clefydau hyn fod yn arbennig o ddifrifol ymhlith babanod a phlant bach.
Gall rhai clefydau heintus wneud babanod yn ddifrifol wael. Mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod babanod yn cael eu diogelu cyn gynted â phosibl er mwyn eu diogelu rhag y clefydau hyn. Mae brechiadau yn helpu i roi dechrau iach mewn bywyd i'ch baban.
Mae rhaglen imiwneiddio'r DU yn effeithiol iawn, felly mae'r siawns y bydd eich plentyn yn dal y clefydau hyn yn isel. Fodd bynnag, mae rhai clefydau heintus yn fwy cyffredin mewn rhannau eraill o'r byd. Os nad ydym yn parhau i frechu rhagddynt, gallant ddod yn ôl.
Os byddwch yn teithio gyda'ch plentyn heb iddo gael ei frechu, gallai ddal y clefyd o wlad arall a dod ag ef i'r DU. Hefyd, mae llawer o bobl bellach yn dewis ymweld â'r DU, felly mae risg bob amser y gallai eich plentyn ddal y clefyd os nad yw wedi'i frechu rhagddo.
Mae brechiadau yn bwysig oherwydd eu bod yn diogelu eich plentyn, gweddill eich teulu a'r gymuned. Ni all rhai pobl gael brechiadau am resymau meddygol. Drwy frechu ein hunain a'n plant, gallwn ddiogelu ein hunain ac unigolion agored i niwed.
Caiff apwyntiad ei anfon at blant ar gyfer eu brechiadau arferol pan fyddant yn cyrraedd yr oedran priodol. Mae'r rhan fwyaf o feddygfeydd a chanolfannau iechyd yn cynnal clinigau arbennig i fabanod neu ar gyfer brechu.
I weld yr amserlen lawn ar gyfer brechiadau arferol yn y DU, dilynwch y ddolen isod.
Gall eich baban neu eich plentyn gael ei frechiadau o hyd os oes ganddo asthma, ecsema, clefyd y gwair, anoddefiadau bwyd neu alergeddau.
Gall y rhan fwyaf o blant sydd ag alergedd wy gael brechlynnau heb unrhyw broblemau. Bydd y sawl sy'n rhoi'r brechlyn yn cadarnhau ei fod yn ddiogel i'w roi. Cysylltwch â'ch ymwelydd iechyd, nyrs practis neu feddyg os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Ychydig iawn o resymau sydd pam na all plant gael eu brechu.
Ni ddylid rhoi brechlyn i blant sydd wedi cael adwaith difrifol (yn peryglu bywyd) i ddos blaenorol o'r un brechlyn neu unrhyw gynhwysyn yn y brechlyn. Os:
oes gan eich plentyn anhwylder gwaedu (er enghraifft hemoffilia, lle nad yw'r gwaed yn ceulo'n iawn), neu
os yw eich plentyn wedi cael ffit na chafodd ei achosi gan dymheredd uchel
siaradwch â'ch meddyg teulu, nyrs practis neu ymwelydd iechyd cyn i'ch plentyn gael unrhyw frechiad.
Ni ddylai nifer bach o fabanod a phlant gael brechiad arferol oherwydd rhesymau'n ymwneud ag iechyd. Gall eich meddyg teulu neu eich nyrs roi rhagor o wybodaeth i chi ac ymateb i unrhyw bryderon sydd gennych am frechiadau.
Plant sydd â system imiwnedd wan
Mae gan nifer bach o blant system imiwnedd wan (system imiwnedd nad yw'n gweithio cystal ag y dylai). Gall hyn fod o ganlyniad i broblem iechyd neu driniaeth y maent yn ei chael ar gyfer cyflwr (fel canser) neu'n dilyn trawsblaniad. Ni ddylai'r plant hyn gael brechlynnau byw fel arfer. Mae brechlynnau byw yn cynnwys yr MMR, rotafeirws a brechlynnau ar gyfer y ffliw a roddir drwy chwistrell trwyn. Os oes gan eich plentyn system imiwnedd wan, siaradwch â'ch meddyg teulu, nyrs neu ymwelydd iechyd cyn iddo gael brechiad.
Nid oes unrhyw resymau eraill pam na ddylai eich plentyn neu eich baban gael brechiad.
Ar gyfer y rhan fwyaf o frechiadau arferol, bydd eich bwrdd iechyd lleol yn anfon llythyr atoch pan fydd eich plentyn yn dod yn gymwys.
Bydd eich plentyn yn cael gwahoddiad i gael ei frechlyn yn ei feddygfa. Os byddwch yn credu y gallech fod wedi colli'r gwahoddiad, cysylltwch â'r feddygfa.
Bydd y nyrs practis neu'r meddyg teulu yn rhoi gwybodaeth am y brechiadau ac yn ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych. Ar gyfer babanod, rhoddir y brechlyn drwy bigiad i mewn i'r glun. I blant dros 12 mis oed, rhoddir pigiadau yn rhan uchaf y fraich fel arfer.
Gallwch ddal eich baban neu eich plentyn ar eich glin pan fydd yn cael ei frechiad. Efallai y bydd yn ofidus am gyfnod byr yn syth ar ôl y brechiad, ond gallwch roi maldod iddo i wneud iddo deimlo'n well. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i dynnu sylw eich plentyn yn ystod brechiad yma.
Mae pob meddyginiaeth (gan gynnwys brechlynnau) yn cael ei phrofi er mwyn sicrhau ei bod yn ddiogel ac yn effeithiol cyn y caniateir iddi gael ei defnyddio. Unwaith y bydd meddyginiaethau'n dechrau cael eu defnyddio, bydd eu diogelwch yn parhau i gael ei fonitro gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd. Yr Asiantaeth hon yw awdurdod rheoleiddio'r DU ar gyfer meddyginiaethau a brechlynnau.
Er y gall pob meddyginiaeth achosi rhai sgil-effeithiau, mae brechlynnau ymhlith y meddyginiaethau mwyaf diogel. Mae ymchwil fyd-eang yn dangos mai'r ffordd fwyaf diogel o ddiogelu iechyd eich plentyn yw ei frechu.
Mae'r rhan fwyaf o sgil-effeithiau a geir o frechiadau yn ysgafn ac ni fyddant yn para'n hir. Gall brechiadau gwahanol gael sgil-effeithiau gwahanol.
Gallwch gael gwybodaeth am sgil-effeithiau pob brechlyn yn
Mae ymchwil yn dangos ei bod yn ddiogel i fabanod gael mwy nag un brechiad ar yr un pryd. A bydd yn golygu y byddant wedi'u diogelu rhag rhai heintiau difrifol.
I gael rhagor o wybodaeth am raglenni imiwneiddio dewisol neu frechlynnau ychwanegol i bobl sydd â chyflyrau meddygol sy'n bodoli eisoes, gweler yr icc.gig.cymru/AmserlenGyflawn
Cysylltwch â'ch meddygfa os credwch fod eich plentyn wedi colli unrhyw frechiadau.
Dylech ganslo apwyntiad ymlaen llaw os na fyddwch yn gallu mynd. Os byddwch yn colli'r apwyntiad neu'n gorfod gohirio'r brechiad, gwnewch apwyntiad newydd cyn gynted â phosibl. Gall eich plentyn gael ei frechiadau o hyd, ond bydd yn gorfod mynd am gyfnod hwy heb ei ddiogelu.
Os bydd gan eich plentyn salwch ysgafn heb dymheredd uchel (twymyn), fel annwyd, dylai gael ei frechiadau yn ôl yr arfer. Os bydd eich plentyn yn sâl gyda thymheredd uchel (dros 38˚C) ar ddiwrnod y brechiad, dylech ohirio'r brechiad nes y bydd yn well.
Os byddwch yn teithio dramor, mae'n bosibl y bydd angen brechiadau ychwanegol arnoch chi a'ch plentyn yn dibynnu ar y wlad rydych yn ymweld â hi.
O leiaf wyth wythnos cyn i chi deithio, siaradwch â'ch meddyg teulu neu glinig teithio preifat i ganfod pa frechiadau y gall fod eu hangen arnoch chi a'ch plentyn.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am frechiadau teithio drwy fynd i dudalen ganllaw Llywodraeth Cymru isod
Os ydych wedi symud i'r DU o dramor, gallwch gofrestru â meddygfa leol. Gallwch ymweld â'ch meddyg teulu neu nyrs am ddim i drafod pa frechiadau y gall fod eu hangen arnoch chi neu eich plant.
Dysgwch am y brechlynnau a gaiff eu cynnig i'ch plentyn pan fydd yn cyrraedd oedran ysgol drwy edrych ar y dudalen isod.