Cael ein brechu yw un o'r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud i ddiogelu ein hunain a'n plant rhag salwch difrifol. Mae brechiadau yn atal miliynau o farwolaethau ar draws y byd bob blwyddyn. Yn aml, babanod a phlant sydd fwyaf agored i niwed oherwydd clefydau y gallai brechlynnau eu hatal.
Mae clefydau fel y frech wen, polio a thetanws, a oedd yn arfer anablu neu ladd miliynau o bobl naill ai wedi diflannu neu'n brin iawn ers i'r brechiad gael ei gyflwyno yn y DU. Mae clefydau eraill, fel difftheria a'r frech goch, wedi lleihau i nifer bach iawn o achosion. Fodd bynnag, mae achosion o'r frech goch wedi dechrau cynyddu eto yng Nghymru. Mae hyn yn destun pryder gan y gall y frech goch arwain at gymhlethdodau difrifol sy'n peryglu bywyd, fel meningitis (safle allanol).
Rhowch y dechrau gorau mewn bywyd i'ch plentyn, a gwnewch yn siŵr ei fod wedi cael ei frechiadau arferol diweddaraf.
Bydd eich plant yn cael cynnig brechlynnau eraill pan fyddant yn cyrraedd oedran mynd i’r ysgol. Gweler yr amserlen imiwneiddio reolaidd gyflawn ar gyfer Cymru.
Mae brechiadau yn helpu i ddiogelu eich plentyn drwy baratoi ei system imiwnedd i ymladd yn erbyn gwahanol fathau o salwch sy'n lledaenu rhwng pobl (clefydau heintus). Mae rhai clefydau yn peri mwy o risg i fabanod a phlant bach oherwydd gall y symptomau fod yn fwy difrifol ac achosi niwed parhaol i'w hiechyd, neu arwain at farwolaeth hyd yn oed. Mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod babanod yn cael eu diogelu cyn gynted â phosibl er mwyn eu hatal rhag dal y clefydau.
Mae'r rhaglenni brechu yn y DU yn effeithiol iawn. Mae hyn yn golygu bod clefydau fel y frech goch, polio a difftheria yn brin yn y DU. Fodd bynnag, os na chaiff babanod a phlant bach eu brechu rhag y clefydau hyn, gallant ddod yn fwy cyffredin eto. Gall llawer o'r clefydau hyn fod yn arbennig o ddifrifol ymhlith babanod a phlant bach.
Gall rhai clefydau heintus wneud babanod yn ddifrifol wael. Mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod babanod yn cael eu diogelu cyn gynted â phosibl er mwyn eu diogelu rhag y clefydau hyn. Mae brechiadau yn helpu i roi dechrau iach mewn bywyd i'ch baban.
Ar gyfer y rhan fwyaf o frechiadau rheolaidd, bydd eich bwrdd iechyd lleol yn anfon llythyr atoch pan fydd eich plentyn yn gymwys. Yna bydd eich plentyn yn cael gwahoddiad i gael ei frechlyn yn ei bractis meddyg teulu, neu leoliad brechu arall. Os ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi methu'r gwahoddiad neu'r apwyntiad, cysylltwch â'ch practis meddyg teulu.
Gall eich baban neu blentyn gael eu brechiadau o hyd os oes ganddynt asthma, ecsema, clefyd y gwair, anoddefiadau bwyd neu alergeddau.
Gall y rhan fwyaf o blant sydd ag alergedd i wyau gael brechiadau heb broblemau. Bydd yr unigolyn sy'n rhoi'r brechlyn yn gwirio a yw'n ddiogel i'w roi. Cysylltwch â'ch ymwelydd iechyd, nyrs practis neu feddyg os oes gennych gwestiynau.
Ychydig iawn o resymau sydd pam na all plant gael eu brechu.
Ni ddylid rhoi brechlyn i blant sydd wedi cael adwaith difrifol (sy'n peryglu bywyd) i ddos blaenorol o'r un brechlyn neu gynhwysyn yn y brechlyn. Os:
oes gan eich plentyn anhwylder gwaedu (er enghraifft hemoffilia, pan nad yw eu gwaed yn ceulo'n iawn), neu
yw eich plentyn wedi cael ffit nad oedd wedi'i achosi gan dymheredd uwch
siaradwch â'ch meddyg teulu, nyrs practis neu ymwelydd iechyd cyn i'ch plentyn gael brechiad.
Ni ddylai nifer fach o fabanod a phlant gael brechiad rheolaidd oherwydd rhesymau iechyd. Gall eich meddyg teulu neu nyrs roi rhagor o wybodaeth i chi ac ateb unrhyw bryderon sydd gennych am frechiadau.
Plant â system imiwnedd wan
Mae gan nifer fach o blant system imiwnedd wan (system imiwnedd nad yw'n gweithio cystal ag y dylai). Gall hyn fod oherwydd problem iechyd neu driniaeth maen nhw'n ei chael ar gyfer cyflwr (fel canser) neu yn dilyn trawsblaniad. Ni ddylai'r plant hyn gael brechlynnau byw fel arfer. Mae brechlynnau byw yn cynnwys y brechlynnau MMR, rotafeirws a chwistrelliad trwynol rhag y ffliw.
Os oes gan eich plentyn system imiwnedd wan, siaradwch â'ch meddyg teulu, nyrs neu ymwelydd iechyd cyn iddo gael ei frechu.
Nid oes rhesymau eraill pam na ddylai eich plentyn na'ch baban gael brechiad.
Bydd y nyrs practis neu'r meddyg teulu yn egluro am y brechiadau ac yn ateb cwestiynau a fydd gennych. Rhoddir y brechlyn i fabanod trwy bigiad i'r glun. Ar gyfer plant dros 12 mis oed, fel arfer rhoddir pigiadau yn rhan uchaf y fraich.
Gallwch ddal eich baban neu'ch plentyn ar eich pen-glin wrth iddynt gael eu brechu. Efallai y byddant yn ofidus am gyfnod byr yn syth ar ôl y brechiad, ond gallwch chi roi cwtsh iddyn nhw i’w helpu i deimlo’n well. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i dynnu sylw eich plentyn yn ystod y brechiad yma.
Mae pob meddyginiaeth (gan gynnwys brechlynnau) yn cael eu profi am ddiogelwch ac effeithiolrwydd cyn y caniateir iddynt gael eu defnyddio. Pan fyddant yn cael eu defnyddio, bydd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) (safle allanol, Saesneg yn unig) yn parhau i fonitro eu diogelwch. Yr MHRA yw awdurdod rheoleiddio’r DU ar gyfer meddyginiaethau a brechlynnau.
Er y gall pob meddyginiaeth achosi rhai sgîl-effeithiau, mae brechlynnau ymhlith y rhai mwyaf diogel o'r holl feddyginiaethau. Mae ymchwil byd-eang yn dangos mai'r ffordd fwyaf diogel o amddiffyn iechyd eich plentyn yw trwy ei frechu.
Mae'r rhan fwyaf o sgîl-effeithiau brechiadau yn ysgafn ac nid ydynt yn para'n hir, ac nid yw pawb yn eu cael. Gall gwahanol frechiadau gael sgîl-effeithiau gwahanol.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sgîl-effeithiau pob brechlyn yn:
Rhestr o frechiadau A i Y - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Mae ymchwil yn dangos ei bod yn ddiogel i fabanod gael mwy nag un brechiad ar yr un pryd. Bydd hyn yn golygu eu bod yn cael eu hamddiffyn rhag rhai heintiau difrifol.
Mae babanod yn arbennig o agored i glefydau heintus. Mae hyn yn ei gwneud yn bwysicach fyth eu bod yn cael eu holl frechlynnau rheolaidd ar yr amser a argymhellir.
O’i enedigaeth ymlaen, mae baban yn dod i gysylltiad â miliynau o germau bob dydd. Mae systemau imiwnedd babanod yn gweithio drwy'r amser i'w hamddiffyn rhag germau (bacteria a feirysau) yn yr amgylchedd. Mae brechlynnau'n llawer llai o her i'r system imiwnedd na'r holl germau y mae babanod yn dod i gysylltiad â nhw bob dydd.
I gael rhagor o wybodaeth am raglenni brechu dethol neu frechlynnau ychwanegol ar gyfer pobl â chyflyrau meddygol sylfaenol, gweler yr icc.gig.cymru/AmserlenGyflawn
Cysylltwch â'ch meddygfa os credwch fod eich plentyn wedi colli unrhyw frechiadau.
Dylech ganslo apwyntiad ymlaen llaw os na fyddwch yn gallu mynd. Os byddwch yn colli'r apwyntiad neu'n gorfod gohirio'r brechiad, gwnewch apwyntiad newydd cyn gynted â phosibl. Gall eich plentyn gael ei frechiadau o hyd, ond bydd yn gorfod mynd am gyfnod hwy heb ei ddiogelu.
Os bydd gan eich plentyn salwch ysgafn heb dymheredd uchel (twymyn), fel annwyd, dylai gael ei frechiadau yn ôl yr arfer. Os bydd eich plentyn yn sâl gyda thymheredd uchel (dros 38˚C) ar ddiwrnod y brechiad, dylech ohirio'r brechiad nes y bydd yn well.
Os byddwch yn teithio dramor, mae'n bosibl y bydd angen brechiadau ychwanegol arnoch chi a'ch plentyn yn dibynnu ar y wlad rydych yn ymweld â hi.
O leiaf wyth wythnos cyn i chi deithio, siaradwch â'ch meddyg teulu neu glinig teithio preifat i ganfod pa frechiadau y gall fod eu hangen arnoch chi a'ch plentyn.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am frechiadau teithio drwy fynd i dudalen ganllaw Llywodraeth Cymru isod
Brechiadau teithio | GOV.WALES (safle allanol, Saesneg yn unig)
Os ydych wedi symud i'r DU o dramor, gallwch gofrestru â meddygfa leol. Gallwch ymweld â'ch meddyg teulu neu nyrs am ddim i drafod pa frechiadau y gall fod eu hangen arnoch chi neu eich plant.
Dysgwch am y brechlynnau a gaiff eu cynnig i'ch plentyn pan fydd yn cyrraedd oedran ysgol drwy edrych ar y dudalen isod.