Ar y dudalen
Mae difftheria, tetanws, pertwsis (y pas) a pholiomyelitis yn afiechydon hysbysadwy.
Haint acíwt yw difftheria sydd fel rheol yn effeithio ar y nasoffaryncs a achosir gan y bacteriwm Corynebacterium diphtheria, a gall effeithio ar bob oedran. Mae'r organeb yn cael ei lledaenu gan ddafnau anadlol ac mae ganddi gyfnod deor o ddau i bum diwrnod.
Mae tetanws yn haint a nodweddir gan gyfangiadau cyhyrol poenus. Mae’n cael ei achosi gan y bacteriwm Clostridium tetani a gall effeithio ar unrhyw oedran. Mae'r organeb yn hollbresennol yn yr amgylchedd ac mae ganddi gyfnod deor o un diwrnod i sawl mis.
Haint anadlol yw pertwsis a nodweddir gan byliau sydyn a difrifol o beswch sy'n para am sawl wythnos. Mae'n cael ei achosi gan y bacteriwm Bordetella pertussis a all effeithio ar bob oedran, ond sy'n arbennig o ddifrifol mewn babanod a phlant bach, a gall achosi niwed i'r ymennydd oherwydd hypocsia yn ystod parocsysmau o beswch. Mae'r organeb yn cael ei lledaenu drwy gyswllt uniongyrchol neu ddafnau anadlol yn yr awyr, ac mae ganddi gyfnod deor o 6 i 20 diwrnod.
Mae polio (Poliomyelitis) yn haint a nodweddir gan ymddangosiad acíwt parlys llipa. Mae’n cael ei achosi gan Boliofeirws math 1, 2 neu 3, a gall effeithio ar bob oedran. Mae'r organeb yn cael ei lledaenu gan y llwybr ysgarthol-geneuol ac mae ganddi gyfnod deor o 7 i 14 diwrnod.
Mae Boostrix-IPV yn frechlyn chwistrelladwy anweithredol mewn chwistrelliad wedi'i lenwi ymlaen llaw. Yn Boostrix-IPV mae cynnwys wedi’i leihau o antigenau difftheria, tetanws a pertwsis wedi’u cyfuno gydag antigenau poliomyelitis.
Gellir defnyddio Boostrix-IPV (‘4-mewn-1’) i reoli anafiadau sy’n dueddol o arwain at detanws ymhlith pobl.
Mae cyfarwyddyd ar drin achosion o detanws a rheoli briwiau sy'n agored i detanws ar gael yma: Tetanws: cyngor i weithwyr iechyd proffesiynol.
Dylid rhoi tetanws imiwnoglobwlin yn gydredol yn unol â’r argymhellion swyddogol.
Mae'r Amserlen Imiwneiddio Rheolaidd Gyflawn (PDF) yn cynnwys gwybodaeth am brechlynnau rheolaidd a'r rhai sydd ddim yn rheolaidd.
Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.
Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio - GOV.UK (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch am allweddeiriau e.e.: polio)
Rhaglen dal i fyny polio brys ar gyfer plant dan 5 oed (WHC/2022/027) Hydref 2022 | LLYW.CYMRU
Brechiad pertwsis i weithwyr gofal iechyd (WHC/2019/024) | LLYW.CYMRU
Newid i'r rhaglen frechu i ddiogelu menywod beichiog rhag pertwsis (WHC/2016/020) | LLYW.CYMRU
NES - Imiwneiddio sydd heb ei drefnu ar gyfer plant a phobl ifanc
Gellir dod o hyd i gyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau ac afiechydon ar y dudalen E-ddysgu Imiwneiddio.
Mae gwybodaeth ac adnoddau pellach am hyfforddiant imiwneiddio ar gael ar y dudalen Adnoddau hyfforddi a digwyddiadau.
Difftheria –y llyfr gwyrdd, pennod 15
Tetanws – y llyfr gwyrdd, pennod 30
Pertwsis (y pas) - y llyfr gwyrdd, pennod 24
Polio – y llyfr gwyrdd, pennod 26
Tetanws: cyngor i weithwyr iechyd
Brechu unigolion sydd gyda statws imiwneiddio ansicr neu anghyflawn (UKHSA)
Gellir dod o hyd i dempliedi PGD ar y dudalen Cyfarwyddiadau Grwpiau Cleifion (PGDs) a Tudalen Glanio Protocolau.
Mae gwybodaeth goruchwyliaeth brechu ar gael ar y tudalennau isod: