Mae rhai o'r dolenni sydd wedi'u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac efallai nad yw ar gael yn Gymraeg.
Ar y dudalen hon
Clefyd niwmococol yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio heintiau a achosir gan y bacteriwm Streptococcus pneumoniae.
Mae heintiau naill ai'n ymledol neu'n anymledol. Mae clefydau anymledol yn cynnwys llid y sinysau, llid y glust ganol a broncitis. Mae clefyd niwmococol ymledol (IPD) yn fwy difrifol ac mae'n cynnwys niwmonia, sepsis neu lid yr ymennydd. Mae llid yr ymennydd niwmococol yn glefyd hysbysadwy.
Mae clefyd niwmococol ymledol yn effeithio'n bennaf ar:
Mae clefyd niwmococol yn lledaenu trwy aerosol, diferion anadlol neu drwy gyswllt uniongyrchol â secretiadau anadlol rhywun sy'n cario'r organeb. Mae gan y clefyd gyfnod magu sydd wedi'i ddiffinio'n wael, ond gallai fod mor fyr ag un i dri diwrnod.
Mae PPV23 (Pneumovax 23®) a PCV20 (Prevenar 20®) yn frechlynnau anfyw.
SYLWCH: Disgwylir i’r brechlyn PCV20 ddisodli PPV23 ar gyfer oedolion dros 65 oed a'r rhaglen ar gyfer unigolion mewn perygl ddechrau 2026. Dylid defnyddio stociau o PPV23 cyn archebu PCV20 er mwyn paratoi ar gyfer y newid hwn.
Mae’r chwistrell PCV20 wedi'i llenwi ymlaen llaw a’r pecynnu yn edrych yn debyg iawn i chwistrell a phecynnu PCV13. Gwnewch yn siŵr fod brechlynnau PCV20 a PCV13 yn cael eu storio ar wahân, er enghraifft, ar silffoedd gwahanol yn yr oergell.
Rhoddodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) gyngor ym mis Mehefin 2023 y gellid defnyddio’r brechlyn PPV23 neu PCV20 ar gyfer y rhaglen niwmococol reolaidd i oedolion a rhai 2 oed a hŷn sy’n wynebu risg glinigol.
Mae'r JCVI yn nodi bod y brechlyn PCV20 yn debygol o atal mwy o glefyd na’r brechlyn PPV23, ac y gallai imiwnedd ddirywio ar gyfradd arafach.
Mae’r brechlyn PCV23 wedi cael ei argymell ar gyfer grwpiau risg er 1992, a phob unigolyn 65 oed a hŷn er 2003. Mae'r rhaglen frechu niwmococol ar gyfer unigolion mewn grŵp risg yn cynnwys unigolion dwy oed a hŷn sy'n rhan o grwpiau risg clinigol penodol. I gael manylion am y meini prawf cymhwysedd manwl, gweler tabl 25.2 yn Niwmococol: y llyfr gwyrdd - GOV.UK (safle allanol, Saesneg yn unig)
Profwyd bod perthynas rhwng dod i gysylltiad â mwg metel — yn enwedig ymhlith weldwyr — a risg gynyddol o glefyd niwmococol. Dylid ystyried rhoi dos sengl o’r brechlyn PPV23 neu PCV20 (pan fydd ar gael) i unigolion sy'n dod i gysylltiad â mwg metel yn aml neu'n barhaus yn eu gwaith.
Dylai plant dan 2 oed sydd ag asplenia, camweithrediad y ddueg, anhwylder sy’n effeithio ar y system ategol neu ag imiwnedd gwan iawn hefyd gael y brechlyn PCV20 (pan fydd ar gael). Gweler tabl 25.3 yn Niwmococol: y llyfr gwyrdd - GOV.UK (safle allanol, Saesneg yn unig) am fanylion pellach.
Sylwer: Dylai meddygfeydd gynnig brechlyn o fewn 12 wythnos o’r dyddiad y bydd person yn dod yn gymwys. Yr oedran cymwys ar gyfer y rhaglen oedolion hŷn yw 65, sy'n cyd-fynd ar hyn o bryd ag oedran cymwys ar gyfer rhaglenni brechu yr eryr a’r ffliw arferol. Gan y gall unigolion gael y brechlynnau hyn gyda'i gilydd, dylid manteisio ar gyfleoedd i'w rhoi gyda'i gilydd ble’n bosibl.
Oedolion 65 oed a hŷn, ac unigolion 2 oed neu hŷn mewn grwpiau risg glinigol:
Ni argymhellir rhoi’r brechlyn PPV23 i blant o dan 2 oed.
Dylid rhoi’r brechlyn PPV23 trwy bigiad mewngyhyrol neu isgroenol, yn ddelfrydol yng nghyhyr deltoid y fraich uchaf. Defnyddir y llwybr mewngyhyrol fel arfer oherwydd bod adweithiau lleol yn fwy cyffredin pan roddir brechlynnau'n isgroenol.
Dylid rhoi’r brechlyn PCV20 drwy bigiad mewngyhyrol, yn ddelfrydol yng nghyhyr deltoid y fraich uchaf (i’r rhai blwydd oed a hŷn).
Mae lefelau gwrthgyrff yn debygol o ostwng yn gyflym mewn unigolion ag asplenia, camweithrediad y ddueg neu glefyd arennol cronig. Felly, argymhellir ail-frechu â’r brechlyn PPV23 - neu PCV20 unwaith y bydd ar gael - bob pum mlynedd ar gyfer y grwpiau hyn.
Os yw unigolyn eisoes wedi cael brechlyn PPV23 am ei fod mewn grŵp risg clinigol, nid oes angen dos arall arno yn 65 oed, ni waeth pa mor hir yn ôl y cafodd frechlyn PPV23.
Er bod y brechlyn PPV23 yn cael ei gyflenwi ar gyfer y rhaglen reolaidd i oedolion 65 oed a hŷn, os bydd unigolyn nad yw mewn grŵp risg yn dod yn gymwys i gael y brechlyn PPV23 yn 65 oed, ond ei fod eisoes wedi cael y brechlyn PCV20, gellir cynnig PPV23 iddo o hyd.
Unwaith y bydd y brechlyn PCV20 wedi disodli PPV23, os bydd unigolyn eisoes wedi cael y brechlyn PCV20 oherwydd ei fod mewn grŵp risg clinigol, ni fydd angen dos arall arno yn 65 oed, ni waeth pa mor hir yn ôl y cafodd y brechlyn PCV20.
Ar hyn o bryd nid yw ail-frechu â’r brechlyn PPV23 neu PCV20 yn cael ei argymell ar gyfer unrhyw grwpiau risg clinigol na grwpiau oedran eraill.
Cyfeiriwch at Niwmococol: y llyfr gwyrdd - GOV.UK (safle allanol, Saesneg yn unig) i gael rhagor o wybodaeth am faint y dos a'r amserlen.
Mae'n bwysig rhoi gwybod am adweithiau niweidiol a amheuir ar ôl awdurdodi'r cynnyrch meddyginiaethol. Mae'n caniatáu monitro parhaus o gydbwysedd mantais/risg y cynnyrch meddyginiaethol. Dylech roi gwybod am adweithiau niweidiol posibl o frechlynnau a meddyginiaethau ar-lein yn mhra.gov.uk/yellowcard (safle allanol, Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).
Mae gan feddyginiaethau a brechlynnau newydd sy’n destun monitro ychwanegol symbol triongl du â'i ben i lawr (▼) ar y daflen yn y pecyn a'u Crynodeb o Nodweddion y cynnyrch (SmPC), ynghyd â brawddeg fer yn esbonio ystyr y triongl. Dylech roi gwybod am bob adwaith niweidiol a amheuir wrth ddefnyddio’r cynhyrchion hyn.
Mae’r canllawiau ar yr amserlen yn Niwmococol: y llyfr gwyrdd - GOV.UK (safle allanol, Saesneg yn unig) yn disodli'r SmPC.
Mae'r Amserlen Imiwneiddio Reolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am raglenni imiwneiddio rheolaidd a detholus a brechlynnau ychwanegol y gallai fod angen eu hystyried ar gyfer unigolion â chyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes.
Fel arfer, gellir rhoi dosau o wahanol frechlynnau wedi’u hanactifadu unrhyw adeg cyn, ar ôl, neu ar yr un pryd â'i gilydd, oni nodir yn wahanol. Gellir rhoi dosau o frechlynnau wedi’u hanactifadu hefyd ar unrhyw gyfnod cyn, ar ôl, neu ar yr un pryd â brechlyn byw ac i'r gwrthwyneb.
Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.
Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brech - GOV.UK (safle allanol, Saesneg yn unig) (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch e.e.niwmococal)
Rhaglen frechu niwmococol - GOV.UK (safle allanol, Saesneg yn unig)
Gellir dod o hyd i gyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau ac afiechydon ar y dudalen E-ddysgu imiwneiddio.
Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant imiwneiddio ar y dudalen Adnoddau a Digwyddiadau Hyfforddi.
Niwmococol: y llyfr gwyrdd – GOV.UK (safle allanol, Saesneg yn unig)
Iechyd Cyhoeddus Cymru (SharePoint) - Cwestiynau cyffredin (Saesneg yn unig)
Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau ar wefan Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru (safle allanol).