Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn Meningococol B (MenB) ar gyfer gonoroea - gwybodaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol

Mae rhai o'r dolenni sydd wedi'u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac efallai nad yw ar gael yn Gymraeg.   

Ar y dudalen hon

 

Cefndir 

Mae gonoroea yn haint bacteriol a drosglwyddir yn rhywiol (STI) a achosir gan y bacteriwm Neisseria gonorrhoeae. Mae'n cael ei drosglwyddo trwy ryw gweiniol, geneuol neu rhefrol heb gondom, neu drwy gyswllt organau cenhedlu â phartner heintiedig, hyd yn oed os nad oes gan yr unigolyn symptomau. Gonoroea yw un o'r heintiau bacteriol a drosglwyddir yn rhywiol mwyaf cyffredin ledled y byd. 

Gall gonoroea achosi symptomau yn yr organau cenhedlu, yr anws, y gwddf, neu'r gyfbilen (pilen denau sy'n amddiffyn y llygad).  

Gall symptomau amrywio yn dibynnu ar ba ran o'r corff yr effeithir arni.  Mae symptomau'n fwy cyffredin gyda heintiau wrethrol y pidyn, tra bod heintiau mewn mannau eraill (endoserfigol, rhefrol neu ffaryngeal) yn fwy tebygol o fod yn asymptomatig.  

Mae symptomau nodweddiadol yn yr organau cenhedlu yn cynnwys:   

  • poen neu losgi wrth basio wrin,  

  • rhedlif gwyrdd neu felyn trwchus o'r pidyn neu'r fagina.   

Os bydd symptomau gonoroea yn ymddangos, maent yn cael eu profi fel arfer ymhen pythefnos o gael yr haint, ond weithiau ni fyddant yn ymddangos tan fisoedd lawer yn ddiweddarach.   

Gall haint heb ei drin hefyd arwain at gymhlethdodau fel clefyd llidiol y pelfis, beichiogrwydd ectopig, anffrwythlondeb, a heintiau systemig yn cynnwys haint gonococaidd sydd wedi lledaenu. Gall gonoroea hefyd gynyddu'r risg o gael heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol, yn cynnwys HIV. 

Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn cydnabod gonoroea fel problem iechyd y cyhoedd fyd-eang ddifrifol. Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd i gonorea wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn gwneud triniaeth yn fwy heriol. Mae sawl math o wrthfiotig bellach yn aneffeithiol, sy’n gwneud gonoroea yn bathogen ag ymwrthedd i’r prif gyffuriau. 

E gonoroea yn cael ei ddiagnosio fwyaf cyffredin ymhlith pobl ifanc rhwng 15 a 24 oed ac ymhlith dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion (GBMSM). Fodd bynnag, gall unrhyw un sy'n cael rhyw heb amddiffyniad gyda phartner heintiedig neu sy'n dod i gysylltiad â rhedlif pidynnol neu gweiniol heintiedig ddal yr haint.   

Yn 2023, cafodd dros 5,000 o bobl yng Nghymru ddiagnosis o gonoroea.  

Cyflwyno rhaglen frechu wedi'i thargedu, pan fo’r cyfle’n codi o fis Gorffennaf 2025 

Ym mis Tachwedd 2023, argymhellodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) gyflwyno rhaglen frechu wedi'i thargedu i amddiffyn y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf o ddal gonorea.  

Disgwylir y bydd y rhaglen yn barod o fis Gorffennaf 2025 ymlaen. Bydd y brechlyn ar gael pan fo’r cyfle’n codi drwy wasanaethau iechyd rhywiol arbenigol. Bydd yn cael ei gynnig yn bennaf i GBMSM sydd mewn mwy o berygl o gael haint gonoroea. Bydd Rhaglen Frechu Cymru yn rhoi gwybod i Glinigau Iechyd Rhywiol pryd y gellir dechrau rhoi brechiadau yn agosach at yr amser. 

Mae meini prawf risg yn cynnwys: 

  • diagnosis o haint bacteriol a drosglwyddir yn rhywiol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, neu 
  • wedi cael pump neu fwy o bartneriaid rhywiol yn ystod y tri mis diwethaf. 

Bydd cymhwysedd yn cael ei asesu ar sail unigol, ac yn ystyried amgylchiadau a risg unigol. 

Gellir cynnig y brechlyn hefyd i unigolion eraill sydd â ffactorau risg tebyg, fel y rhai sydd â digwyddedd gonoroea debyg i'r grŵp GBMSM cymwys. Gall hyn gynnwys gweithwyr rhyw sy'n cael rhyw heb gondom ac unigolion eraill yr aseswyd bod ganddynt lefel risg debyg.   

Dylai cynnig brechiad fod yn seiliedig ar asesiad risg unigol gan weithiwr gofal iechyd rhywiol proffesiynol.  

Y brechlyn 

Ar hyn o bryd, nid oes brechlynnau trwyddedig yn benodol ar gyfer gonoroea. Fodd bynnag, mae'r JCVI yn argymell defnyddio'r brechlyn meningococol 4-cydran (4CMenB) oddi ar y label ar gyfer unigolion sydd â'r risg uchaf o gonorea. Mae'r brechlyn 4CMenB wedi'i drwyddedu i helpu i atal clefyd meningococol B mewn unigolion 2 fis oed a hŷn ac fe'i defnyddir ar hyn o bryd fel rhan o’r rhaglen imiwneiddio arferol yn ystod plentyndod.  

Mae Neisseria gonorrhoeae (y bacteria sy'n achosi gonoroea) yn perthyn yn agos yn enetig i Neisseria meningitidis (y bacteria sy'n achosi clefyd meningococol). Felly, mae'r brechlyn 4CMenB yn cynnig rhywfaint o groesddiogelu yn erbyn gonoroea. Mae astudiaethau wedi nodi amddiffyniad o 30-40% yn erbyn gonoroea ymhlith pobl sydd mewn perygl uchel pan gynigir y brechlyn i amddiffyn rhag clefyd meningococol B.  

Er y gall y brechlyn 4CMenB leihau'r siawns o ddal haint gonoroea, nid yw'n rhoi amddiffyniad llwyr. Credir bod prif fantais y brechlyn i’w gweld ar lefel gymunedol, oherwydd ei fod yn cyfrannu at ostyngiad yn nifer yr achosion o gonorea yn gyffredinol. Mae'n bwysig bod y rhai sydd mewn perygl uchel yn cael eu brechu, hyd yn oed gydag effeithiolrwydd cymedrol, gan nad yw cael eich heintio â gonorea o’r blaen yn eich amddiffyn rhag cael eich heintio eto. 

Nid oes tystiolaeth bod y brechlyn 4CMenB yn gwella haint gonoroea gweithredol. Felly, dylid rheoli heintiau yn unol â chanllawiau Cymdeithas Iechyd Rhywiol a HIV Prydain (BASHH) Bashh guidelines (safle allanol - Saesneg yn unig) 

Bexsero yw'r unig frechlyn 4CMenB trwyddedig sydd ar gael yn y DU. Mae'n frechlyn chwistrelladwy wedi'i anactifadu mewn chwistrell wedi'i llenwi ymlaen llaw. Mae cyngor y JCVI yn seiliedig ar ddefnydd oddi ar y label, oherwydd nad yw amddiffyniad rhag gonoroea yn ddefnydd trwyddedig o'r brechlyn 4CMenB. 

Crynodeb o nodweddion y cynnyrch 
Dos 

Mae angen dau ddos. Gellir rhoi'r ail ddos o leiaf bedair wythnos ar ôl y dos cyntaf. Nid oes terfyn amser mwyaf rhwng dosau. Gellir rhoi'r ail ddos ​​yn ystod yr ymweliad nesaf â’r clinig, boed hynny dri, chwech neu 12 mis yn ddiweddarach. Os oes bwlch hirach, nid oes angen ailddechrau’r amserlen sylfaenol.  

Cyfeiriwch at Gonorrhoea: the green book chapter - GOV.UK (safle allanol - Saesneg yn unig) a Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru (safle allanol) i gael rhagor o wybodaeth.  

 

Canllawiau 

Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld drwy ddilyn y dolenni isod. 

Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru 

 

Adnoddau hyfforddi a digwyddiadau 

Gellir cyrchu cyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi trwy'r E-ddysgu dudalen.  

Rhoddir rhagor o wybodaeth am hyfforddiant imiwneiddio ac adnoddau ar y Adnoddau a digwyddiadau hyfforddiant imiwneiddio dudalen. 

 

Adnoddau a gwybodaeth glinigol 

Cyfarwyddyd Grŵp Cleifion (PGDs) 

Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau ar y  Gwasanaeth Cyngor Meddyginiaethau Cymru (safle allanol, Saesneg yn unig) 

Adnoddau cyhoeddus 

 

 

Rhagor o wybodaeth  

Data a goruchwyliaeth  

Mae gwybodaeth am wyliadwriaeth brechu ar gael ar y tudalennau isod: